Pete Burns

cyfansoddwr a aned yn 1959

Canwr, cyfansoddwr a phersonoliaeth deledu Seisnig oedd Peter Jozzeppi "Pete" Burns[1] (5 Awst 195923 Hydref 2016)[2]. Ffurfiodd y band Dead or Alive yn 1980, a roedd yn brif leisydd a chyfansoddwr y band. Daeth i sylw prif ffrwd gyda'i sengl "You Spin Me Round". Daeth i lygad y cyhoedd unwaith eto yn dilyn ei ymddangosiad ar Celebrity Big Brother 2006, lle orffennodd yn y pumed safle. Ymddangosodd ar sioeau teledu realaeth pellach, yn cynnwys peth gwaith cyflwyno.

Pete Burns
FfugenwPete Edit this on Wikidata
GanwydPeter Jozzeppi Burns Edit this on Wikidata
5 Awst 1959 Edit this on Wikidata
Port Sunlight Edit this on Wikidata
Bu farw23 Hydref 2016 Edit this on Wikidata
o ataliad y galon Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
Label recordioEpic Records, Sony Music Entertainment Japan, Cleopatra Records Edit this on Wikidata
Dinasyddiaethy Deyrnas Unedig Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Bebington High School
  • Coleg Hugh Baird Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, cyfansoddwr, canwr-gyfansoddwr, hunangofiannydd Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, y don newydd, cerddoriaeth ddawns, Hi-NRG Edit this on Wikidata
Math o laisbariton Edit this on Wikidata

Bywyd personol golygu

Delwedd golygu

Roedd Burns yn adnabyddus am ei ymddangosiad androgynaidd oedd yn newid yn gyson, a roedd yn cyfaddef ei fod wedi gwneud defnydd helaeth o lawdriniaeth cosmetig. Roedd Burns wedi cael chwistrelliadau polyacrylamide helaeth i'w wefusau, mewnblaniad bochau, sawl rhinoplasti a sawl tatŵ. Ar un adeg cyhuddodd Burns ei gyd seren bop Boy George o gopio ei ddelwedd unigryw.

Yn 2006 cynnar, datgelodd Burns mewn cyfweliad ei fod wedi gwario rhan fwyaf o'i gynilion oes ar 18 mis o lawdriniaeth adlunio ar ôl i driniaeth cosmetig ar ei wefusau fynd o'i le. Yn Ionawr 2007 cyhoeddodd Burns ei fod yn bwriad erlyn y llawfeddyg cosmetig, Dr Maurizio Viel, a wnaeth y llawdriniaeth gwreiddiol, am £1 miliwn.[3]

Yn Mawrth 2009, aeth Burns i ysbyty yn Llundain wedi dioddef o anhwylder ar yr arennau. Darganfuwyd fod ganddo saith carreg fawr ar y arennau, a fe'i gwaredwyd gyda llawdriniaeth laser.[4]

Materion cyfreithiol golygu

Dilynwyd Burns gan baparazzi yn dilyn ei arestio am ymosodiad yn 2006[5] (gollyngwyd y cyhuddiadau yn ddiweddarach) a fe ddangoswyd ei ymgais i adfer ei yrfa yn y rhaglen ddogfen Pete Burns Unspun ar Living TV.

Datganwyd Burns yn fethdalwr 10 Rhagfyr 2014.[6] Yn Ebrill 2015 cafodd ei droi allan o'i fflat am ddiffyg taliad o dros £34,000 mewn rent.[7]

Marwolaeth golygu

Bu farw Burns yn dilyn ataliad ar y galon ar 23 Hydref 2016 yn 57 oed.[8] Talwyd teyrnged iddo gan nifer o bobl yn cynnwys Boy George, a ddisgrifodd Burns fel "one of our great true eccentrics", a dywedodd George Galloway, a ymddangosodd gydag e ar Celebrity Big Brother, fod Burns yn "cross between Oscar Wilde and Dorothy Parker. You don’t get more brilliant than that."[9]

Disgyddiaeth golygu

Senglau golygu

Blwyddyn Sengl Safle uchaf
Albwm
UK

[10]

2004 "Jack and Jill Party" 75 Non-album song
2010 "Never Marry an Icon"
"—" denotes releases that did not chart

Albwmau ail-gymysg golygu

Teitl Manylion albwm
Sex Drive 2014 Remixes
  • Dyddiad ryddhau: 2014
  • Label: Expanded Music s.r.l.
  • Fformatau: Digidol

Cyfeiriadau golygu

  1.  The Early Years. deadoralive.net. Adalwyd ar 19 June 2013.
  2. "The changing face of Pete Burns". Now. Cyrchwyd 16 Ebrill 2010. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help); More than one of |accessdate= a |access-date= specified (help)
  3. "Pete Burns Sues Doctor Over Faulty Lip Surgery". Chart. 14 Chwefror 2007. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-01-23. Cyrchwyd 27 Ebrill 2009. Italic or bold markup not allowed in: |publisher= (help)
  4.  kidneyfailure. Pete Burns – Collapses with Kidney Failure. Adalwyd ar 15 Ebrill 2009.
  5. "Pete Burns arrested after gay bar fight". "Pink News". Cyrchwyd 24 Ionawr 2012. More than one of |accessdate= a |access-date= specified (help)
  6.  Report Requested For : PETER JOHN JOSEPH BURNS. The Insolvency Service (10 Rhagfyr 2014). Adalwyd ar 16 Rhagfyr 2015.
  7. Milligan, Jamie (27 Ebrill 2015). "Bankrupt pop star evicted after unpaid £34k rent bill". Today's Landlord. Medianett Ltd. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2016-10-25. Cyrchwyd 25 Hydref 2016.
  8.  Dead or Alive singer Pete Burns dies (24 Hydref 2016). Adalwyd ar 24 Hydref 2016.
  9. Ellis-Petersen, Hannah (24 Hydref 2016). "Pete Burns, frontman of Dead or Alive, dies aged 57". theguardian.com. Guardian News and Media Ltd. Cyrchwyd 24 Hydref 2016.
  10.  Chart Stats – Pete Burns. chartstats.com. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 21 Gorffennaf 2012. Adalwyd ar 24 Medi 2010.

Dolenni allanol golygu