Peter Elias Jones
Cynhyrchydd a chyfarwyddwyr teledu o Gymro oedd Peter Elias Jones (Mai 1943 – 19 Mai 2010).[1]
Peter Elias Jones | |
---|---|
Ganwyd | Mai 1943 Llangefni |
Bu farw | 19 Mai 2010 |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | cynhyrchydd teledu |
Bywyd cynnar ac addysg
golyguRoedd Peter John Elias Jones yn wreiddiol o Langefni. Astudiodd Saesneg a Cherddoriaeth ym Mhrifysgol Leeds.
Gyrfa
golyguAeth i weithio i ITV fel cyfarwyddwr, yn un o'r ifancaf y rhwydwaith ar y pryd.
Daeth yn Bennaeth Rhaglenni Plant HTV Cymru lle bu'n gyfrifol am sawl rhaglen yn y 1970au yn cynnwys Miri Mawr, Ffalabalam, Cwadi Cwac A'i Ffrindiau, y cwis Taro' Mlaen a'r rhaglen gerddoriaeth Seren 2. Aeth ymlaen i fod yn Reolwr Adloniant HTV Cymru lle roedd yn gynhyrchydd ac uwch-gynhyrchydd ar nifer o raglenni adloniant ysgafn fel Teuluffôn, Teulu'r Mans, Torri Gwynt, Ibiza, Ibiza, Camau Cant a Mil, Bwrw Sul, Elinor ar nos Wener a Y Cleciwr.
Ar ôl cyfnod helaeth gyda HTV ymunodd â chwmni Antena er mwyn gweithio i S4C drwy'r sector annibynnol. Yn ystod y cyfnod yma fe gynhyrchodd Flint Street Nativity ar gyfer ITV.[2]
Bu hefyd yn cynhyrchu rhaglenni cwis fel Jacpot a Risg.
Bywyd personol
golyguRoedd yn byw yn Dinas Powys, Bro Morgannwg. Bu farw yn sydyn yn ei gartref yn 66 oed yn 2010 gan adael ei wraig Elinor a dwy ferch, Elen a Mari-Wyn
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Teyrnged i 'arloeswr teledu' , BBC Cymru, 19 Mai 2010. Cyrchwyd ar 8 Awst 2017.
- ↑ Dathlu bywyd un o arloeswyr y byd adloniant ysgafn. lleol.cymru (1 Awst 2017).