Llew Smith

Gwleidydd Llafur o Gymro

Gwleidydd Cymreig Llafur oedd Llewellyn Thomas Smith (16 Ebrill 194426 Mai 2021), oedd yn fwy adnabyddus fel Llew Smith. Roedd yn aelod seneddol Blaenau Gwent yn ne-ddwyrain Cymru. Roedd yn aelod o'r Grŵp Ymgyrchu Sosialaidd (Socialist Campaign Group).

Llew Smith

Cyfnod yn y swydd
17 Mehefin 1984 – 9 Mehefin 1994
Rhagflaenydd Sefydlwyd yr etholaeth
Olynydd Glenys Kinnock

Cyfnod yn y swydd
10 Ebrill 1992 – 11 Ebrill 2005
Rhagflaenydd Michael Foot
Olynydd Peter Law

Geni 16 Ebrill 1944(1944-04-16)
Marw 26 Mai 2021(2021-05-26) (77 oed)
Plaid wleidyddol Y Blaid Lafur

Bu farw o ganser yn Mai 2021 yn 77 mlwydd oed.[1]

Safbwynt am Gymru a'r Gymraeg golygu

Daeth yn AS Blaenau Gwent yn 1992, a bu'n ASE yn Senedd Ewrop cyn hynny. Roedd yn un o'r ASau Llafur Cymreig, fel Neil Kinnock, a wrthwynebodd sefydlu Cynulliad Cenedlaethol Cymru ac a ymgyrchodd yn ei erbyn adeg y Refferendwm, er nad oedd yn un o'r "Gang o Chwech" ei hun. Yn ogystal roedd yn feirniadol o bolisïau i hybu'r iaith Gymraeg. Sefodd i lawr fel AS yn etholiad cyffredinol 2005.

Mewn ymateb i sylwadau gan Gwilym ab Owain yng Ngheredigion a Seimon Glyn yng Ngwynedd ynglŷn â phroblem y mewnlifiad i'r bröydd Cymraeg a'r angen am gael tai i bobl leol, honodd Llew Smith fod Plaid Cymru "yn fudiad hiliol".[2]

Ym Mehefin 2003, wrth roi dystiolaeth i'r Comisiwn Richard, a sefydlwyd i ystyried rhoi pwerau ychwanegol i'r Cynulliad Cenedlaethol, dywedodd mai "rheitiach fyddai ystyried rhoi rhai o bwerau'r cynulliad yn ôl i gynghorau lleol neu senedd San Steffan yn hytrach na sôn am eu ehangu." [3]

Cyfeiriadau golygu

  1. Cyn-Aelod Seneddol Blaenau Gwent, Llew Smith, wedi marw yn 77 oed , Golwg360, 27 Mai 2021.
  2. [1] erthygl ar safle'r BBC.
  3. [2] Archifwyd 2009-08-07 yn y Peiriant Wayback. Tystiolaeth Llew Smith i'r Comisiwn Richard, Mehefin, 2003.
Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
Etholaeth newydd
Aelod Senedd Ewrop dros Ddwyrain De Cymru
19841994
Olynydd:
Glenys Kinnock
Senedd y Deyrnas Unedig
Rhagflaenydd:
Michael Foot
Aelod Seneddol dros Flaenau Gwent
19922005
Olynydd:
Peter Law