Mynach a diwinydd Uniongred oedd Petro Mohyla (Rwmaneg: Petru Movilă; 21 Rhagfyr 159622 Rhagfyr 1646) a wasanaethodd yn Archesgob Kyiv, Halychyna a Rws Oll o 1633 hyd at ei farwolaeth.

Petro Mohyla
Portread o Petro Mohyla.
Ganwyd31 Rhagfyr 1596 Edit this on Wikidata
Suceava Edit this on Wikidata
Bu farw1 Ionawr 1647 Edit this on Wikidata
Kyiv Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTywysogaeth Moldofa, Y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Zamojski Academy Edit this on Wikidata
GalwedigaethEastern Orthodox priest Edit this on Wikidata
Swyddmetropolitan, archimandrite, Q115281642 Edit this on Wikidata
TadSimion Movilă Edit this on Wikidata
LlinachHouse of Mohyła Edit this on Wikidata

Teulu a bywyd cynnar (1596–1627) golygu

Ganed Petru Movilă ar 21 Rhagfyr 1596 ym Moldafia yn fab i Simeon Movilă, a fyddai'n Hospodar (Arglwydd) Walachia o 1601 i 1602 a Moldafia o 1606 i 1607, a'r Dywysoges Margareta o Hwngari.

Wedi llofruddiaeth Simeon ym 1607, aeth Petru gyda'i fam i gael lloches oddi ar eu perthnasau pendefigaidd yng Ngorllewin Wcráin, dan reolaeth y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd. Yno derbyniodd addysg Iesuaidd dan diwtoriaeth athrawon o Ysgol y Frawdoliaeth yn Lviv, ac astudiodd ddiwinyddiaeth yn Academi Zamość.[1] O ganlyniad, cafodd grap da ar yr ieithoedd clasurol a diwinyddiaeth yr ysgolwyr.[2] Yn ôl un ffynhonnell, o bosib yn amheus, teithiodd hefyd i astudio yn Ffrainc.[3]

Dychwelodd i Wcráin ac erbyn 1617 yr oedd yn swyddog ym myddin yr Hetman Mawr Stanisław Żółkiewski, Canghellor y Goron Bwylaidd.[3] Brwydrodd Mohyla yn erbyn yr Otomaniaid ym mrwydrau Cecora (1620) a Khotyn (1621). I wobrwyo'i wasanaeth, derbyniodd ystadau yn ardal Kyiv ym 1621–27, ac yno daeth yn gyfarwydd ag Eglwys Uniongred Wcráin ac yn gyfeillgar â'r Archesgob Yov Boretsky.[1] Ym 1625 aeth Mohyla yn fynach i Ogof-Fynachlog Kyiv.[2][4]

Archimandriad Ogof-Fynachlog Kyiv (1627–33) golygu

Etholwyd Mohyla i olynu'r diweddar Zakhariia Kopystensky yn archimandriad (uwch-abad) Ogof-Fynachlog Kyiv gan gymanfa yn Zhytomyr ym Medi 1627.[1]

Ym 1631 agorodd Mohyla ysgol yn y mynachlog, ac ym 1632 fe gyfunodd yr honno ag Ysgol Brawdoliaeth yr Epiffani i ffurfio Coleg Mohyla Kyiv, a ddyrchafwyd yn academi ymhen diwedd y ganrif. Byddai'r honno yn un o ganolfannau deallusol pwysicaf yr Eglwys Uniongred yn Wcráin a Rwsia am ddau can mlynedd bron. Ym 1632 hefyd adferwyd Eglwys Uniongred Wcráin yn swyddogol gan y llywodraeth Bwylaidd, a gydnabu Archesgobaeth Kyiv, Halychyna a Rws Oll, sef yr ecsarchaeth a sefydlwyd ym 1620 yn groes i Undeb Brest-Litovsk. Yr oedd Mohyla eisoes yn gyfarwydd â diwylliant Pwylaidd a Lladin, ac yn adnabod sawl gwleidydd a chadfridog o nod, ac o'r herwydd efe oedd y ffefryn i fod yn ben ar yr archesgobaeth.[4]

Archesgob Kyiv, Halychyna a Rws Oll (1633–46) golygu

Cysegrwyd Mohyla yn Archesgob (neu Fetropolitan) Kyiv, Halychyna a Rws Oll yn Lviv ym 1633. Gwrthwynebwyd ei benodiad gan Gosaciaid Zaporizhzhia, a oedd yn ffafrio Isaia Kopynsky ar gyfer y swydd bwysig hon.[4]

Yn ystod ei archesgobaeth, ymdrechodd Mohyla i wella addysg ar gyfer y clerigwyr a'r lleygwyr, er mwyn gwrthsefyll dylanwad cynyddol y cenhadon Catholig a Phrotestannaidd, a oedd yn weithgar iawn mewn cymunedau Uniongred Gwlad Pwyl ac Wcráin. Magodd gylch o ysgolheigion a gwŷr diwylliedig—yn eu plith Sylvestr Kosiv, Atanasii Kalnofoisky, Isaia Kozlovsky-Trofymovych, a Tarasii Zemka—a elwid "Athenëwm Mohyla". Dan ei arweiniad, cafwyd diwygiad eglwysig yn Wcráin yng nghanol yr 17g, a chyflwynwyd yr holwyddoreg Uniongred gyntaf, Y Gyffes Ffydd Uniongred. Rhoddwyd sêl bendith i'r catecism hwnnw gan gynghorau eglwysig Kyiv ym 1640 ac Iași ym 1641, a chan batriarchiaid y Dwyrain ym 1643.[4]

Bu farw Petro Mohyla yn Kyiv ar 22 Rhagfyr 1646, undydd wedi iddo droi'n 50 oed. Cymynroddodd y rhan fwyaf o'i ystad i sefydliadau eglwysig, yn bennaf Coleg Mohyla Kyiv. Fe'i claddwyd yn Eglwys Gadeiriol y Forwyn Fair yn yr Ogof-Fynachlog.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 (Saesneg) "Mohyla, Petro", Internet Encyclopedia of Ukraine. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 2 Ionawr 2023.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Petro Mohyla. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 2 Ionawr 2023.
  3. 3.0 3.1 Ihor Ševčenko, "The Many Worlds of Peter Mohyla", Harvard Ukrainian Studies 8:1/2 (Mehefin 1984), t. 12.
  4. 4.0 4.1 4.2 4.3 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 377–78.