Ogof-Fynachlog Kyiv
Mynachlog hanesyddol yr Eglwys Uniongred Ddwyreiniol a leolir yn Kyiv, prifddinas Wcráin, yw Ogof-Fynachlog Kyiv neu Kyiv-Pechersk Lavra (Wcreineg: Києво-Печерська лавра). Hwn yw un o'r mynachlogydd mwyaf a hynaf yn Wcráin.
Trem ar Ogof-Fynachlog Kyiv. | |
Math | Eastern Orthodox monastery |
---|---|
Sefydlwyd | |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Kyiv: Cadeirlan Sviatoi Sofii ac adeiladau mynachlogol cysylltiedig, Lavra Kyiv-Pechersk |
Sir | Kyiv |
Gwlad | Wcráin |
Arwynebedd | 29 ha |
Cyfesurynnau | 50.4322°N 30.5622°E |
Arddull pensaernïol | Ukrainian Baroque |
Statws treftadaeth | rhan o Safle Treftadaeth y Byd |
Sefydlwydwyd gan | Saint Anthony of Kyiv |
Manylion | |
Sefydlwyd yr ogof-fynachlog ei hun ym 1051, ac yn yr Oesoedd Canol datblygodd yn un o brif ganolfannau'r Eglwys Uniongred yn Nwyrain Ewrop. Mae safle bresennol y mynachlog, ar 22 hectar o dir, yn cynnwys mwy na 80 o adeiladau, gan gynnwys sawl amgueddfa, er enghraifft Amgueddfa Trysorau Hanesyddol Wcráin. Heddiw, rhennir awdurdod dros y safle gan y wladwriaeth, ar ffurf Gwarchodfa Hanesyddol a Diwylliannol Genedlaethol Kyiv-Pechersk, ac Eglwys Uniongred Wcráin (dan Batriarchaeth Moscfa). Lleolir yma breswylfa swyddogol Archesgob Kyiv ac Wcráin Oll.
Cofrestrir Ogof-Fynachlog Kyiv, ar y cyd ag Eglwys Gadeiriol y Santes Soffia, yn Safle Treftadaeth y Byd gan UNESCO.[1]
Hanes
golyguSefydlwyd y mynachlog ym 1051 yn Berestove, a safai ar y pryd ar gyrion Kyiv—prifddinas Rws Kyiv—ar lan dde Afon Dnieper, gan Sant Antwn o Kyiv, a elwir hefyd Antwn yr Ogofâu. Yr hegumenos (abad Uniongred) cyntaf a enwir mewn dogfennau hanesyddol yw'r mynach Varlaam ym 1061, a dilynwyd ef gan Sant Theodosius o Kyiv (Theodosius yr Ogofâu). Yn y 12g, dynodwyd Ogof-Fynachlog Kyiv yn lavra, sef un o brif fynachlogydd yr Eglwys Ddwyreiniol. Cafodd y mynachlog ei ddinistrio ar sawl achlysur: gan y Cumaniaid ym 1096, gan fyddin Andrey Bogolyubsky, Uchel Dywysog Vladimir-Suzdal, ym 1169, gan Rurik Rostislavich a thywysogion Chernigov ym 1203, gan y Llu Euraid ym 1240, a chan Tatariaid y Crimea ym 1482. Er gwaethaf, ail-godwyd y mynachlog pob tro, a ni phallodd ei bwysigrwydd ym mywyd crefyddol Wcráin.[2]
Wedi Undeb Brest-Litovsk (1596)—cytundeb a unodd nifer o esgobaethau Uniongred yr Wcreiniaid yn y Gymanwlad Bwylaidd–Lithwanaidd â'r Eglwys Gatholig—cychwynnodd dadl hir rhwng y Catholigion a'r Uniongredwyr dros berchenogaeth Ogof-Fynachlog Kyiv. Fodd bynnag, byddai'r Eglwys Uniongred yn cadw ei rheolaeth dros y mynachlog, a fyddai'n ganolfan i adfywiad crefyddol a diwylliannol yn yr 17g. Ym 1631 agorwyd ysgol yn y mynachlog gan yr archimandriad (uwch-abad) Petro Mohyla. Byddai'r honno yn uno ag Ysgol Brawdoliaeth Kyiv ym 1632 i ffurfio'r coleg cyntaf yn Wcráin; fe'i dyrchafwyd yn academi ym 1694, ac ail-sefydlwyd ar ffurf prifysgol ym 1991.[2] Codwyd nifer o eglwysi o amgylch y mynachlog yn yr 17g a'r 18g gyda chefnogaeth yr hetmaniaid Wcreinaidd a chadfridogion Cosaciaid Zaporizhzhia, a dyluniwyd nifer ohonynt gan Stepan Kovnir (1695–1786) a wasanaethodd yn bensaer i'r mynachlog am 60 mlynedd.
Yn sgil Cytundeb Pereiaslav (1654), daeth Glan Chwith Wcráin (yr Hetmanaeth) dan benarglwyddiaeth Tsaraeth Rwsia, a dechreuodd Patriarch Moscfa ymyrryd â hawliau'r mynachlog. Erbyn 1688, yr oedd y mynachlog yn hollol ddarostyngedig i Foscfa. Cyfyngwyd ar incwm y mynachlog yn sgil gwaharddiadau'r Tsaraeth ar ei wasg argraffu ym 1720, a diffygiodd ei hannibyniaeth ymhellach yn oes Ymerodraeth Rwsia. Ym 1786 cafodd ystadau'r mynachlog eu seciwlareiddio yn swyddogol gan Raglawiaeth Kyiv, a daeth felly yn ddibynnol ar y wladwriaeth. Diddymwyd yr hen arfer o ethol cyngor y mynachlog, ac aeth yr awdurdodau ati i Rwsieiddio'r drefn eglwysig yn Wcráin.[2]
Wedi cwymp yr ymerodraeth a sefydlu'r Undeb Sofietaidd, cafodd y mynachlog ei erlid unwaith eto gan y llywodraeth gomiwnyddol newydd. Ym 1921–22, cafodd y mwyafrif o drysorau a chelfyddydweithiau'r mynachlog eu hatafaelu. Ar 29 Medi 1926, datganwyd statws yr Ogof-Fynachlog a'i adeiladau cyfagos fel gwarchodfa hanesyddol a diwylliannol wladol, a chafodd holl drysorau'r mynachlog eu gwladoli.[2] Dinistriwyd nifer o adeiladau'r safle yn ystod yr Ail Ryfel Byd. Wedi diwedd y rhyfel, ail-adeiladwyd ac adferwyd y mwyafrif ohonynt. Yn niwedd y 1980au, dychwelwyd rhan o diriogaeth ac eiddo'r mynachlog i Eglwys Uniongred Wcráin.[2] Yn Awst 2007, cafodd y safle ei dewis gan gystadleuaeth gyhoeddus yn un o Saith Rhyfeddod Wcráin.[3]
Pensaernïaeth
golyguEglwys Gadeiriol y Forwyn Fair
golyguEglwys Gadeiriol Marwolaeth a Dyrchafael y Forwyn Fair yw'r adeilad hynaf ac eithrio'r Ogof-Fynachlog ei hun, ac yr hon yw prif eglwys y safle. Adeiladwyd yr Eglwys Gadeiriol ym 1073–78 dan arweiniad Sant Theodosius, yn ystod cyfnod Stefan Pecherskyi yn hegumenos y mynachlog, a chyda chymorth ariannol oddi ar Sviatoslav II Iaroslavich, Uchel Dywysog Kyiv. Codwyd un llawr ar gynllun croesffurf, gyda chromen a gynhaliwyd gan chwe cholofn, y rheiny hefyd gyda thrawstoriad o siâp croes. Yr oedd ganddi tri chorff mewnol a arweiniai at gromfannau amlwynebog ar y tu allan. Byddai cymhareb hyd a lled yr adeilad (3:2) yn ddyluniad normadol ar gyfer eglwysi Wcreinaidd yn yr Oesoedd Canol. Rhennid y talwynebau gan bilastrau gwastad wedi eu cysylltu gyda garlantau hanner-cylchog. Ar furiau allanol yr adeilad, ffrisiau troellog oedd yn addurno'r bricwaith. Yn yr adran ganolog, cyflawnwyd brithweithiau, gan gynnwys esiampl o Oranta (y Forwyn Fair yn estyn ei breichiau), a phaentiwyd ffresgoau ar y muriau yn y rhannau mewnol eraill. Gwyddom am y mosaigau a phaentiadau hyn oherwydd Patericon Ogof Kyiv a ffynonellau canoloesol eraill. O ganlyniad i'w hanes hir o ddifrod ac ail-adeiladu, nid yw'r un celfyddydwaith o oes foreuol yr Eglwys Gadeiriol yn goroesi.[4]
Yn niwedd yr 11g ychwanegwyd sawl rhan i'r Eglwys Gadeiriol, gan gynnwys Bedyddfa Sant Ioan ar yr ochr ogleddol. Yn yr 17g, dan nawdd y Cosaciaid, ychwanegwyd rhagor o gromennau ac addurnwaith yn yr arddull Baróc. Fe'i dinistriwyd gyda deinameit gan y Fyddin Goch ar 3 Tachwedd 1941 wrth iddi encilio o Kyiv yn ystod Cyrch Barbarossa yn yr Ail Ryfel Byd. Cychwynnodd y gwaith o adfer yr Eglwys Gadeiriol gan lywodraeth Kyiv ym 1998, a chafodd ei chyflawni a'i hailgysegru yn ystod dathliadau Diwrnod Annibyniaeth Wcráin yn Awst 2000.[4]
Eglwys y Gweddnewidiad
golyguEglwys y Drindod
golyguAdeiladwyd Eglwys y Drindod uwchben y Brif Fynedfa ym 1108.
Y Clochdy Mawr
golyguAdeiladwyd Clochy Mawr y mynachlog yn y dull Baróc gan y pensaer Almaenig Gottfried Johann Schädel ym 1731–44. Mae ganddo uchder o 96.5 m.
Celf a llenyddiaeth
golyguEiconau
golyguBu Ogof-Fynachlog Kyiv yn brif ganolfan i baentwyr eiconau Wcreinaidd ers ei ddechrau. Sefydlwyd stiwdio gelf yno yn niwedd yr 11g, yn fuan wedi adeiladu'r mynachlog.
Patericon Ogof Kyiv
golyguY wasg
golyguSefydlwyd gwasg argraffu yn Ogof-Fynachlog Kyiv tua 1606–15 gan yr archimandriad Yelysei Pletenetsky, a brynodd yr offer oddi ar hen wasg Hedeon Balaban, Esgob Lviv, yn Stratyn, Halychyna. Hon oedd y wasg gyntaf yn Kyiv, a'r hon a wnaeth y ddinas yn ganolfan argraffu ac engrafio bwysicaf Wcráin yn yr 17g a'r 18g. Cyhoeddwyd cannoedd o lyfrau gan gynnwys gweithiau gwreiddiol a chyfieithiadau gan y wasg hon, yn yr ieithoedd Wcreineg, Slafoneg Eglwysig, Pwyleg, Rwseg, Lladin, a Groeg.[5]
Y gyfrol hynaf sydd yn goroesi o wasg Kyiv ydy'r horologion (llyfr oriau) a argraffwyd ym 1616, wedi ei drosi o'r Roeg i'r Wcreineg gan yr archimandriad Zakhariia Kopystensky. Daeth y wasg yn enwog am engrafiadau ac addurniadau hardd ei hargraffiadau, a ddosbarthwyd ar draws cymunedau Uniongred y gwledydd Slafig yn ogystal â'r Frenhiniaeth Hapsbwrgaidd, Gwlad Groeg, a Moldafia. Cafodd y wasg ran bwysig ym mywyd deallusol a diwylliannol Wcráin yn y cyfnod hwn, gan feithrin addysg ymhlith cymunedau Uniongred Wcreinaidd a gwrthsefyll tra-arglwyddiaeth y Bwyleg a Chatholigiaeth yn y gorllewin.[5]
Yn ôl ukase (gorchymyn) gan y Tsar Pedr I ym 1720, gwaharddwyd y wasg rhag argraffu unrhyw ddeunydd seciwlar[5] a rhag cynhyrchu llyfrau drwy gyfrwng y ffurf Wcreinaidd ar Slafoneg Eglwysig.[2] Parhaodd y wasg i gyhoeddi gweithiau crefyddol hyd at 1918.[5]
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) "Kyiv: Saint-Sophia Cathedral and Related Monastic Buildings, Kyiv-Pechersk Lavra", UNESCO. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Ionawr 2022.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 Ivan Katchanovski, Zenon E. Kohut, Bohdan Y. Nebesio, a Myroslav Yurkevich, Historical Dictionary of Ukraine (Lanham, Maryland: The Scarecrow Press, 2013), tt. 306–07.
- ↑ "Kyiv Pechersk Lavra". Seven Wonders of Ukraine (yn Wcreineg). Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2007-08-20. Cyrchwyd 2007-08-24.
- ↑ 4.0 4.1 (Saesneg) "Dormition Cathedral of the Kyivan Cave Monastery", Internet Encyclopedia of Ukraine. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Ionawr 2023.
- ↑ 5.0 5.1 5.2 5.3 (Saesneg) "Kyivan Cave Monastery Press", Internet Encyclopedia of Ukraine. Archifwyd o'r dudalen we wreiddiol drwy gyfrwng archive.today ar 1 Ionawr 2023.