Philip Jones Griffiths
Ffotograffydd o Gymro oedd Philip Jones Griffiths (18 Chwefror 1936 – 18 Mawrth 2008) a aned yn Rhuddlan. Roedd yn enwog drwy'r byd am ei luniau o Ryfel Fietnam. Mae'r casgliad cyfan wedi'i roi i Lyfrgell Genedlaethol Cymru.
Philip Jones Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | 18 Chwefror 1936 Rhuddlan |
Bu farw | 19 Mawrth 2008 o canser Llundain |
Dinasyddiaeth | Cymru |
Galwedigaeth | ffotograffydd, ffotografydd rhyfel, ffotonewyddiadurwr, newyddiadurwr |
Prif ddylanwad | Henri Cartier-Bresson |
Gwobr/au | Lucie Award |
Gwefan | http://philipjonesgriffiths.org/ |
Gyrfa
golyguAstudiodd i fod yn fferyllydd yn Lerpwl, a thra'n gweithio yn Llundain, bu'n ffotograffydd rhan-amser gyda phapur newydd y Guardian. Yn 1961 daeth yn ffotograffydd llawrydd llawn amser. Aeth i Algeria yn 1962 i dynnu lluniau yn ystod rhyfel annibyniaeth y wlad gyda Ffrainc. Yna aeth i ganol Affrica, ac wedyn i Asia, gan dynnu lluniau yn Fietnam rhwng 1966 a 1971 ar gyfer asiantaeth lluniau Magnum.
Tra yn Fietnam tynnodd luniau yn cofnodi'r rhyfel yno. Oherwydd natur ei luniau, roedd Magnum yn cael trafferth gwerthu ei luniau i bapurau newydd yn America, ond llwyddodd Griffiths i gael sgŵp gyda llun o Jackie Kennedy (gwraig John F. Kennedy) ar wyliau yn Cambodia gyda chyfaill o ddyn. Fe wnaeth yr incwm o luniau fel hyn ei alluogi i barhau i dynnu lluniau'n cofnodi'r rhyfel a chafodd y rhain eu cyhoeddi mewn llyfr o'r enw Vietnam inc. yn 1971. Yn ogystal â bod yn un o'r cofnodion mwyaf manwl o unrhyw ryfel, mae'r llyfr hefyd yn gofnod o ddiwylliant Fietnam dan warchae. Chwaraeodd y llyfr hwn ran flaenllaw yn crisialu barn gyhoeddus am ddoethineb ymyrraeth yr Unol Daleithiau yn Fietnam, ac fe gafodd ei ailgyhoeddi yn 2001 gyda rhagair gan Noam Chomsky.[1]
Yn 1973 bu'n cofnodi rhyfel Yom Kippur a gweithiodd yn Cambodia rhwng 1973 a 1975. Symudodd i Efrog Newydd yn 1980 i fod yn gadeirydd Magnum, a bu'n gadeirydd am 5 mlynedd, sef y cyfnod hiraf i unrhyw un fod yn gadeirydd Magnum hyd yma.
Yn ystod ei yrfa aeth aseiniadau Griffiths ag ef i 120 o wledydd. Bu'n gweithio a thynnu lluniau ar gyfer storiau gwahanol fel Bwdhaeth yng Nghambodia, sychder yn India, tlodi yn Texas, ail-wyrddu Fietnam, ac ôl-effeithiau Rhyfel y Gwlff yn Kuwait.
Ymysg ei lyfrau eraill mae Dark Odyssey, ble mae Griffiths yn ystyried y berthynas anghyfartal rhwng technoleg a'r ddynoliaeth, a hefyd y llyfr Agent Orange, sy'n olrhain sgîl-effeithiau hirhoedlog defnydd lluoedd America o'r cemegyn Agent Orange ar Fietnam.
Arddangosfeydd
golygu- 2015 Philip Jones Griffiths: A Welsh Focus on War and Peace - Llyfrgell Genedlaethol Cymru
- 2006 Fifty Years on the Frontline - Southeast Museum of Photography, Daytona, UDA
- 2005 Fifty Years of Frontline - Denise Bibro Fine Art, Efrog Newydd, UDA
- 2004 Agent Orange - Side Photographic Gallery, Newcastle upon Tyne
- 1996 Dark Odyssey - Amgueddfa Genedlaethol Cymru, Caerdydd
- 1992 Retrospective – Madrid, Sbaen
- 1990 Retrospective - Photofest, Houston, Texas, UDA
- 1985 Magnum Concert - Musée d’Art et Histoire, Fribourg, Y Swistir
- 1985 Magnum Photographs: 1932-1967 - Pace/MacGill Gallery, Efrog Newydd, UDA
Llyfrau
golygu- Vietnam, Inc. (Efrog Newydd: Collier Macmillan, 1971; Llundain: Phaidon, 2001)
- Bangkok Yr Iseldiroedd (Amsterdam: Time-Life, 1979)
- Philip Jones Griffiths: una vision retrospectiva (1952-1988) (Consorcio para la Organizacion de Madrid Capital Europea de la Cultura, Sbaen, 1992)
- Dark Odyssey (Efrog Newydd: Aperture, 1996)
- Agent Orange: Collateral Damage in Vietnam (Llundain: Trolley, 2004)
- Vietnam at Peace (Llundain: Trolley, 2005)
- Recollections (Llundain: Trolley, 2008)