Dramodydd o Sais oedd Philip Massinger (1583Mawrth 1640) a flodeuai yn oes theatr Iago a Siarl. Nodweddir ei gomedïau gan adeiledd ei blotiau, realaeth gymdeithasol, a dychan.

Philip Massinger
Ganwyd1583 Edit this on Wikidata
Caersallog Edit this on Wikidata
Bu farw17 Mawrth 1640 Edit this on Wikidata
Llundain Edit this on Wikidata
DinasyddiaethTeyrnas Unedig Prydain Fawr ac Iwerddon Edit this on Wikidata
Alma mater
  • St Alban Hall Edit this on Wikidata
Galwedigaethdramodydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
TadArthur Massinger Edit this on Wikidata

Ganed yng Nghaersallog, Wiltshire, yn Nheyrnas Lloegr, a fe'i bedyddiwyd yn Eglwys Sant Tomos. Astudiodd yn Neuadd Sant Alban (bellach yn rhan o Goleg Merton) yn Rhydychen ym 1602. Nid oes unrhyw fanylion arall am ei fywyd nes iddo gael ei anfon i garchar dyledwyr ym 1613. Aeth y rheolwr theatr Philip Henslowe yn feichiau drosto a threuliodd Massinger gyfnod yn cynorthwyo dramodwyr eraill, gan gynnwys Thomas Dekker a John Fletcher. Ym 1625 fe olynydd Fletcher yn brif ddramodydd y King's Men, a gweithiodd gyda'r cwmni hwnnw hyd at ddiwedd ei oes. Bu farw tua 56 oed yn Llundain.[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. (Saesneg) Philip Massinger. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 23 Medi 2020.