Philip Weekes

peiriannydd (1920-2003)

Roedd Philip Gordon Weekes CBE (12 Mehefin 192026 Mehefin 2003) yn beiriannydd mwyngloddio o Gymru. Fel rheolwr maes glo De Cymru, chwareodd Weeks rôl bwysig yn y berthynas rhwng yr undebau a'r rheolwyr yn ystod Streic y Glowyr 1984-1985.

Philip Weekes
Ganwyd12 Mehefin 1920 Edit this on Wikidata
Bu farw26 Mehefin 2003 Edit this on Wikidata
Galwedigaethpeiriannydd Edit this on Wikidata
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Bywyd cynnar

golygu

Ganwyd Weekes ym mhentref Nantybwch, ger Tredegar yn Sir Fynwy, yn fab i fferyllydd. Addysgwyd Weekes yn Ysgol Sir Tredegar, ac enillodd ysgoloriaeth gan Gwmni Haearn a Glo Tredegar i Goleg y Brifysgol, Caerdydd, lle graddiodd mewn peirianneg mwyngloddio. Ymunodd â'r Yr Awyrlu Brenhinol ym 1942, ond nid oedd modd iddo ddod yn beilot oherwydd problemau, a dychwelodd i fwyngloddio[1].

Ar ei ben-blwydd yn 26, penodwyd Weekes yn rheolwr Glofa Wyllie, yng Nghaerffili, ac ym 1948 symudodd i fod yn rheolwr ar Lofa Oakdale yn Nyffryn Sirhowy. Yn sgil ie lwyddiannau mewn cysylltiadau llafur, yn 1950, anfonodd Gweinidog dros y Drefedigaethau, Jim Griffiths, i Nigeria yn dilyn terfysgoedd ym mwyngloddiau Enugu. Gwrthododd awgrymiadau y dylai gael ei warchodwyr arfog ei hun, a'i benderfyniad cyntaf oedd mynnu bod heddlu a milwyr yn cael eu tynnu'n ôl fel y gallai'r trafodaethau rhwng y gwethwyr a'r rheolwyr fynd ym eu blaen mewn amgylchedd newydd, digynnwrf a niwtral. Trodd y sefyllfa o gwmpas ac aeth glowyr yn ôl i'r gwaith[2]. Dywedodd swyddog yn Swyddfa'r Trefedigaethau fod Weekes wedi gwneud "yn eitha da i fachgen ysgol ramadeg". Dychwelodd adref i ddod yn asiant pwll glo De Cymru ym 1951[1].

Ym 1964, fe'i penodwyd yn gyfarwyddwr astudiaethau yng ngholeg staff y Bwrdd Glo Cenedlaethol (NCB), a, dair blynedd yn ddiweddarach, daeth yn gyfarwyddwr cynhyrchu yn ardal de canolbarth Lloegr. Ym 1970, symudodd i brif swyddfa'r NCB yn Llundain, Hobart House, fel prif beiriannydd mwyngloddio, ac, y flwyddyn ganlynol, daeth yn gyfarwyddwr cyffredinol mwyngloddio. Weekes oedd Rheolwr Cyffredinol Ardal y De Orllewin rhwng 1973 a 1985[3]. Ystyriwyd bod hon yn swydd od iddo dderbyn, oherwydd roedd mwyngloddio yn Ne Cymru erbyn hynny ar i lawr. Fodd bynnag, gwnaeth Weekes lawer i roi bywyd newydd diwdiant yn yr ardal, gan uno'r gweithwyr, y rheolwyr a'r undebau[2]. Rhwng 1977 a 1984, roedd e'n aelod o fwrdd yr NCB[4].

Streic y glowyr

golygu

Daeth agwedd Weekes tuag at gysylltiadau llafur i'r golwg yn ystod 1984-85, fe wnaeth ymdrechu am ganlyniad heddychlon. Yn gynnar ym 1985, gan fod yr anghydfod yn gwaethygu, gwrthododd Weekes orchymyn gan gadeirydd yr NCB, Ian MacGregor, i gynnig diswyddiad i bob glöwr yn ei faes glo, hyd yn oed y rhai oedd yn gweithio mewn pyllau oedd yn gwneud elw. Cyn i'r streic ddechrau, anogodd arweinwyr undebau lleol yn breifat i wrando ar y neges gan eu haelodau, a oedd wedi pleidleisio yn erbyn gweithredu diwydiannol mewn pleidleisiau lleol[1]. Roedd Weekes o'r farn mai camgymeriad gan Arthur Scargill, arweinydd Undeb Cenedlaethol y Glowyr, oedd mynd i'r streic heb gynnal pleidlais[2].

Bu Weekes hefyd yn negodi’n gyfrinachol â Phrif Gwnstabl Heddlu De Cymru, David East, a chydag arweinwyr undebau lleol, i sicrhau bod yr anghydfod yn cael ei blismona gan yr hedlu lleol er mwyn osgoi’r gwrthdaro treisgar a welwyd mewn mannau eraill o Brydain yn ystod y streic. Fe wnaeth yn siŵr bod yr undebau wedi darparu digon o weithwyr i gynnal pympiau ac archwiliadau diogelwch fel y gallai gwaith yn y pyllau ailddechrau’n brydlon unwaith y byddai’r streic drosodd. Tua'r diwedd y streic, gwelwyd ef yn siarad â phicedwyr wrth gatiau Glofa Bedwas Navigation a chynnu sigarét gyda nhw. Ymddygiad a welwyd gan y Bwrdd Glo yn dangos ei fod yn rhy agos a'r gwethwyr[1].

Mae ei bapurau personol, sy'n cynnwys dyddiaduron ar gyfer cyfnod Streic y Glowyr yn cael eu cadw yn Llyfrgell Genedlaethol Cymru[5].

Ymhell ar ôl iddo ymddeol, roedd glowyr yn chwilio amdano o hyd yn y stryd i ddymuno'n dda iddo. Dywedodd Kim Howells, Aelod Seneddol Pontypridd rhwng 1989 a 2010, a swyddog Undeb Cenedlaethol y Glowyr ar adeg y streic, ar ôl marwolaeth Weekes: "Roedd yna lawer a gredai fod Phil Weekes, peiriannydd mwyngloddio a chyfathrebwr gwych , dylai fod wedi cael ei wneud yn Gadeirydd y Bwrdd Glo yn gynnar yn yr wythdegau. Pe bai hynny wedi digwydd byddai stori mwyngloddio ym Mhrydain yn wahanol iawn."[6]

Gyrfa ar ôl streic

golygu

Yn dilyn ei ymddeoliad o'r Bwrdd Glo, roedd Weekes yn amlwng mewn nifer o feydydd. Enillodd drwydded ei beilot, ac yn ym 1992, daeth yn gadeirydd yr Ŵyl Arddio Genedlaethol, a gynhaliwyd y flwyddyn honno yng Glyn Ebbw i drawsnewid hen waith dur a phwll glo yn ardd ac ardal arddangos. Pan brynodd gweithwyr yn Glofa'r Twr eu pwll glo, roedd yn gadeirydd y fenter rhwng 1994 a 1999. Roedd cysylltiad cryd gyda Weekes a Glofa'r Twr - ym mis Ebrill 1962, fe oedd y rheolwr cyntaf i fynd i mewn i'r pwll glo yn dilyn ffrwydrad lle bu farw naw dyn. O 1992, roedd hefyd yn gadeirydd cwmni gwaredu gwastraff Silent Valley yn Cwm. Roedd yn aelod o bwyllgor Tywysog Cymru, cyngor ymgynghorol y BBC, IBA Cymru a llywodraethwr Coleg Unedig yr Iwerydd[1]. Penododd CBE yn Anrhydeddau Blwyddyn Newydd 1993.

Bywyd personol

golygu

Bu farw Weekes ar 26 Mehefin 2003 ym Mhenarth, Morgannwg. Roedd yn briod gyda dau fab a dwy ferch. Bu farw ei fab ieuengaf yn 2001[1].

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 1.4 1.5 Meredith, Mike (2003-07-07). "Obituary: Philip Weekes". The Guardian (yn Saesneg). ISSN 0261-3077. Cyrchwyd 2020-05-04.
  2. 2.0 2.1 2.2 "Coal man's 'gift of leadership'" (yn Saesneg). 2004-05-14. Cyrchwyd 2020-05-04.
  3. "Crown Price of Japan's Visit to Deep Navigation Colliery". www.alangeorge.co.uk. Cyrchwyd 2020-05-04.
  4. Meredith, Mike (2003-07-07). "Obituary: Philip Weekes". the Guardian (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-05-04.
  5. "Philip Weekes Papers, - National Library of Wales Archives and Manuscripts". archives.library.wales. Cyrchwyd 2020-05-04.
  6. "Philip Weekes". www.aditnow.co.uk. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2020-08-15. Cyrchwyd 2020-05-04.