Cyfreithiwr, cyfreithegwr, ac hanesydd o Ffrainc oedd Pierre Pithou (Lladin: Petrus Pithoeus; 1 Tachwedd 15391 Tachwedd 1596) sydd yn nodedig fel canonwr ac un o'r ysgolheigion cyntaf i gasglu a dadansoddi ffynonellau hanes Ffrainc.

Pierre Pithou
Darluniad o Pierre Pithou.
FfugenwPetrus Pithaeus Edit this on Wikidata
Ganwyd1 Tachwedd 1539 Edit this on Wikidata
Troyes Edit this on Wikidata
Bu farw1 Tachwedd 1596 Edit this on Wikidata
Nogent-sur-Seine Edit this on Wikidata
DinasyddiaethFfrainc Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Collège de Boncourt Edit this on Wikidata
Galwedigaethjurist-consultant, hanesydd, dyneiddiwr y Dadeni, llenor, cyfreithegwr Edit this on Wikidata
TadPierre Pithou Edit this on Wikidata

Ganed ef yn Troyes, ar lannau Afon Seine, yn Nheyrnas Ffrainc, a chafodd ei fagu'n Galfinydd. Astudiodd Pierre a'i frawd François ym mhrifysgolion Bourges a Valence dan Jacques Cujas.[1] Ym Mhrifysgol Paris daeth Pierre i'r amlwg am ei draethodau ar bwnc y gyfraith Rufeinig, a derbyniodd wisg y cyfreithiwr ym 1560.[2] Ni châi ei alw i'r bar yn Troyes oherwydd ei Brotestaniaeth, felly symudodd am y tro i Sedan yn yr Ardennes, ac ar ddechrau'r Ail Ryfel Crefydd ffoes i ddinas Basel yn y Swistir. Dychwelodd i Ffrainc yn sgil yr llonyddu'r gwrthdaro ym 1570. Wedi cyflafan yr Hiwgenotiaid ym 1572, trodd Pithou yn Gatholig ym 1573. Penodwyd Pithou yn procureur général (erlynydd cyffredinol) ym 1579 i lys dro dro a sefydlwyd gan y Brenin Harri III yn nhalaith Guyenne.[2]

Er iddo ymwadu â Phrotestaniaeth yn gyhoeddus, cafodd Pithou ei atal gan y Gynghrair Gatholig rhag trin y gyfraith, felly trodd ei sylw at ymchwilio i hanes yr Eglwys Gristnogol a'r gyfraith ganonaidd. Pithou oedd y cyntaf i gyhoeddi cyfraith y Fisigothiaid, Leges Wisigothorum (1579), a chyflawnodd hefyd argraffiad o flwyddnodion y Ffranciaid, Annales Francorum (1588). Cyfrannodd hefyd at y traethodyn dychanol Satire Ménippée (1594), parodi polemig sydd yn gwatwar y Gynghrair Gatholig a'r achos Sbaenaidd yn y Rhyfeloedd Crefydd. Yn sgil goruchafiaeth y Brenin Harri IV, penodwyd Pithou yn procureur général i'r senedd ym Mharis ym 1594. Ar orchymyn y brenin, ysgrifennodd Les Libertés de l'église gallicane (1594), gwaith sydd yn cyfundrefnu rheolau a gwirebau Galicaniaeth. Bu farw Pierre Pithou ar ei ben-blwydd yn 57 oed, yn Nogent-sur-Seine, nid nepell oddi wrth ei dref enedigol.

Cyfeiriadau

golygu
  1. (Saesneg) "Pithou, Pierre" yn y New Catholic Encyclopedia. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 25 Tachwedd 2021.
  2. 2.0 2.1 (Saesneg) Pierre Pithou. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Tachwedd 2021.