Cyfrol gan Alys Conran yw Pijin a gyfieithwyd i'r Gymraeg gan Sian Northey ac a gyhoeddwyd yn 2016 gan Parthian Books. Man cyhoeddi: Aberteifi, Cymru.[1]

Pijin
AwdurAlys Conran
CyhoeddwrParthian Books
GwladCymru
IaithCymraeg
Dyddiad cyhoeddi24/05/2016
ArgaeleddAr gael
ISBN9781910901359
GenreFfuglen

Mae fan hufen iâ yn stryffaglu i fyny'r allt trwy gawod o genllysg. Rhed bachgen a merch ar ei hôl a'i dilyn i'w byd hud a lledrith. Clywir eu lleisiau yn adrodd stori sy'n chwalu muriau plentyndod gan atsain ar draws y blynyddoedd. Pigeon oedd teitl y llyfr gwreiddiol.

Alys Conran (yr awdur) golygu

Mae ffuglen, barddoniaeth a chyfieithiadau Alys wedi ennill sawl gwobr iddi, gan gynnwys y Bristol Short Story Prize a'r Manchester Fiction Prize. Ar ôl astudio Llenyddiaeth Saesneg yng Nghaeredin cwblhaodd radd MA mewn ysgrifennu creadigol ym Manceinion. Mae hefyd wedi cynnal prosiectau oedd yn rhoi cyfle i garfanau o'r boblogaeth yng Ngogledd Cymru, nad ydynt yn draddodiadol yn ymwneud ag ysgrifennu creadigol a darllen, i wneud hynny. Dyfarnwyd ysgoloriaeth iddi'n ddiweddar i ysgrifennu ail nofel.

Sian Northey (cyfieithydd) golygu

Mae Sian Northey yn awdur profiadol mewn sawl maes. Dewiswyd ei nofel Yn y Tŷ Hwn (Gomer, 2011) ar gyfer "silff lyfrau" Cyfnewidfa Lên Cymru, roedd ei chyfrol gyntaf o gerddi, Trwy Ddyddiau Gwydr (Carreg Gwalch, 2013) ar restr fer Llyfr y Flwyddyn, mae wedi ysgrifennu sawl nofel i blant ac mae'n rhan o dîm sgriptio Pobol y Cwm. Ym maes cyfieithu mae ei diddordebau a'i phrofiad yr un mor eang, gan amrywio o lyfrau ffeithiol a hunangofiannau i farddoniaeth.


Gweler hefyd golygu

Gweler hefyd golygu

Cyfeiriadau golygu

  1. Gwefan Gwales; adalwyd 1 Awst 2017