Piler y Badwyr
Colofn Rufeinig anferth a godwyd yn Lutetia (Paris fodern) i anrhydeddu'r duw Iau gan urdd o fadwyr (neu longwyr) yn y ganrif 1af OC yw Piler y Badwyr (Ffrangeg: ''Pilier des nautes''). Dyma'r heneb hynaf ym Mharis, ac un o'r darnau cynharaf o gelf Gâl-Rufeinig gynrychioliadol i gael arysgrif ysgrifenedig.[1]
Adluniad o Biler y Badwyr yn Amgueddfa Musée de Cluny | |
Enghraifft o'r canlynol | colofn, arteffact archaeolegol, cerflun |
---|---|
Deunydd | calchfaen |
Gwladwriaeth | Ffrainc |
Rhanbarth | Paris |
Gwefan | https://www.musee-moyenage.fr/collection/oeuvre/pilier-des-nautes.html |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Nautae Parisiaci (morwyr y Parisii, a oedd yn llwyth Galaidd) yw enw'r Rhufeiniaid ar yr heneb.[2] Fe'i darganfuwyd mewn mur dinas o'r 4g yn Île de la Cité ac erbyn hyn caiff ei arddangos yn ffrigidariwm Thermes de Cluny.
Disgrifiad
golyguArysgrif
golyguWedi'i ysgrifennu yn Lladin gyda rhai nodweddion yn iaith y Celtiaid yng ngorllewin a chanolbarth Ewrop, sef y Galeg, mae'r arysgrif yn cymysgu duwiau Rhufeinig â duwiau sy'n amlwg yn Geltaidd. Gellir dyddio'r golofn gan iddi gael ei chysegru i Tiberius Caesar Augustus (a nodir ar y golofn) sef Tiberius a ddaeth yn ymerawdwr yn 14 OC. Fe'i sefydlwyd yn gyhoeddus (publice posierunt) gan urdd morwyr Lutetia, o civitas y Parisii (nautae Parisiaci). Masnachwyr a deithiai ar hyd y Seine oedd y morwyr hyn.
I'r duw Iau mae'r prif gysegriad, sy'n dweud Iovis Optimus Maximus ("Iau Mawr a'r Gorau"). Mae enwau'r ymerawdwr a'r duwdod goruchaf yn ymddangos yn y cyflwr derbyniol fel derbynwyr y cysegriad. Ceir enwau'r duwiau eraill yn y cyflwr goddrychol, ac maent yn cyd-fynd â darluniau unigol o'r duwiau, sef (yn y drefn y maent yn ymddangos isod) Iau, Tarvos Trigaranos (y Tarw gyda thri Chraen), Volcanos (Fwlcan), Esos, Cernunnos, Castor, Smertrios, a Fortuna.
Mae'r cysegriad fel a ganlyn:
- Tib(erio) Caesare /
- Aug(usto) Ioui Optum[o] /
- Maxsumo /
- nautae Parisiaci /
- publice posierunt //
- Eurises // Senan[t] U[s]e[t]lo[n] [-] //
- Iouis // Taruos Trigaranus //
- Volcanus // Esus //
- [C]ernunnos // Castor // [---] //
- Smer[---] //
- Fort[una] // [--]TVS[--] // D[--]
Ochr 1 | Ochr 2 | Ochr 3 | Ochr 4 |
---|---|---|---|
[C]ernunnos | Smer[triios] | Castor | [Pollux] |
Iouis | Esus | Taruos Trigaranus | Volcanus |
Tib(erio) Caesare Aug(usto) Iovi Optum[o] Maxsumo nautae Parisiaci publice posierunt | [tri dyn arfog heb farf] | Eurises [tri dyn barfog] | Senan[t] U[s]e[t]lo[n] [--] [tri ffigwr gwrywaidd a benywaidd sy'n gwisgo gynau] |
Fort[una gydag Iuno?] | [dwy dduwies] | [--]V[--] [Mawrth gyda'r gymar (Gwener?)] | [Mercurius gyda Rosmerta?] |
-
Smertrios
-
Esus
-
Cernunnos
-
Tarvos Trigaranos
-
Fwlcan
-
Iau
Bloc y cysegriad
golyguGweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Hatt, Jean-Jacques (1952). "Les monuments gallo-romains de Paris, et les origines de la sculpture votive en Gaule romaine. I. Du pilier des nautes de Paris à la colonne de Mayence" (yn fr). Revue Archéologique I: 68–83.
- ↑ Breviary, A. (2005). "Celticism". In Koch, John T. (gol.). Celtic Culture : A Historical Encyclopedia. 1. ABC-CLIO. t. 396. ISBN 978-1851094400.
Llyfryddiaeth
golygu- Carbonnières, Philippe (1997). Lutèce : Paris ville romaine. Collection "Découvertes Gallimard". 330. Paris: Gallimard/Paris-Musées. ISBN 2-07-053389-1.
- d'Arbois de Jubainville, G. (1898). "Esus, Tarvos, Trigaranus". Revue Celtique XIX: 245–251.
- Harl, Ortolf, "Kaiser Tiberius und die nautae Parisiaci: Das Pfeilermonument aus Notre-Dame de Paris und seine Stellung in Religion, Kunst und Wirtschaft Nordgalliens", Introduction by Henri Lavagne: "Le pilier des Nautes, hier et aujourd'hui" (Monuments Piot, 99, 2019, p. 71-225.
- Lejeune, Michel (1988) Recueil des inscriptions gauloises, volume 2-1 Textes gallo-étrusques. Textes gallo-latins sur pierre. Paris, Editions du CNRS. pp. 166–169.
Dolenni allanol
golygu- Gwefan Ffrangeg gyda mwy o ddelweddau o'r piler Archifwyd 2009-01-12 yn y Peiriant Wayback
- Gwefan Iseldireg gyda lluniau o'r piler