Pisanello
Arlunydd o'r Eidal yng nghyfnod y Dadeni oedd Pisanello (Antonio Pisano; tua 1395 – 1455) sydd yn nodedig am ei baentiadau, ei fedalau, a'i ddarluniau. Dim ond ychydig o'i baentiadau sydd yn goroesi, ond mae cannoedd o'i luniau a nifer o'i fedalau sydd gennym yn dystiolaeth o fedr ei grefft.[1]
Pisanello | |
---|---|
Ganwyd | 1395 Pisa |
Bu farw | 1455 Rhufain |
Dinasyddiaeth | yr Eidal |
Galwedigaeth | arlunydd, cerflunydd, goleuwr, cynllunydd medalau, drafftsmon |
Adnabyddus am | Medal of John VIII Palaiologos, The Vision of Saint Eustace, Saint George and the Princess |
Arddull | portread |
Mudiad | Veronese school, y Dadeni Dysg |
Ganed yn Pisa a chafodd ei hyfforddi rhywle yng ngogledd yr Eidal. Mae'n bosib iddo gydweithio â Gentile da Fabriano ar ffresgo hanesyddol ym mhalas Dug Fenis rhwng 1415 a 1420. Y paentiad cynharaf ganddo sydd yn goroesi ydy'r ffresgo Annunciazione (tua 1426) ger beddrod Niccolò di Brenzoni yn Eglwys San Fermo, Verona. Ymhlith ei ffresgoau eraill mae San Siôr a'r Dywysoges (tua 1433–38) yng Nghapel Pellegrini, Verona, a'i olygfeydd o ryfel a sifalri ym mhalas Dug Mantua.
Cynhyrchodd weithiau i sawl llys yng ngogledd yr Eidal, yn enwedig dugiaethau Ferrara a Mantua, ac i Ddug Milan a'r Pab Eugenius IV. Astudiodd Pisanello gelf glasurol yn Rhufain, yn enwedig portreadau nwmismatig yr hen Roegiaid a'r Rhufeiniaid, a datblygodd ffordd ei hun o fwrw medalau o gerfwedd isel mewn metelau gwerthfawr ac yn dwyn portreadau o dywysogion, dugiaid, cadfridogion, a condottieri. Ymhlith yr esiamplau enwocaf o'i waith ydy medalau o'r Ymerawdwr Bysantaidd Ioan VIII Palaiologos yn ymweld â Chyngor Eglwysig Ferrara-Fflorens (1438), medal briodasol Leonello d'Este, Ardalydd Ferrara (1444), a'i fedal arian o Alfonso V, brenin Aragón (1449).
Fel arfer, mae gan ei bortreadau ar gynfas gefndiroedd o flodau a glöynnod byw lliwgar. Cesglir darluniau Pisanello yng Nghodecs Vallardi, sydd yn cynnwys enghreifftiau unigryw o ddrafftsmonaeth y cyfnod. Defnyddiodd yr arlunydd amrywiaeth o dechnegau a defnyddiau i ddarlunio anifeiliaid, planhigion, gwisgoedd, a lluniadu mewn persbectif.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Il Pisanello. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 25 Awst 2020.