Plaid Annibyniaeth y DU

Mae Plaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig[1] (Saesneg: United Kingdom Independence Party neu UKIP) yn blaid wleidyddol sy'n anelu at dynnu'r Deyrnas Unedig allan o'r Undeb Ewropeaidd [2]. Ei hail amcan yw tynhau rheolau mewnfudo i Brydain. Ar 9 Hydref 2014 yn yr is-etholaeth Clacton, Lloegr, etholwyd Douglas Carswell yn Aelod Seneddol cyntaf UKIP.[3] Sicrhaodd UKIP 59.7% o'r bleidlais. Yn Mawrth 2017 gadawodd Carswell y blaid i sefyll fel aelod annibynnol.

Plaid Annibyniaeth y DU
UKIP
Arweinyddgwag
Sefydlwyd1993
PencadlysLexdrum House, Old Newton Road, Newton Abbot, Devon, TQ12 6UT
Rhestr o idiolegauGwrth ewrop
Cenedlaetholdeb Prydeinig
Sbectrwm gwleidyddolAdain dde
Lliw     Porffor
Senedd Cymru
0 / 60
Llywodraeth Lleol yn y DU
14 / 19,689
Gwefan
ukip.org

Polisi tuag at ddatganoli golygu

Plaid gyda pholisïau unoliaethol yw UKIP, sy'n gwrthwynebu datganoli.

Douglas Carswell, Aelod Seneddol cyntaf y blaid

Ar gyfer Etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru, 2007 roedd ganddynt bolisi o ddiddymu Cynulliad Cenedlaethol Cymru, gan gyhuddo'r Cymry (a'r Alban) am bleidleisio dros "ranbartholi" oherwydd teimlad gwrth-Seisnig yn unig.[4][5]. Roedd polisi'r blaid wedi newid erbyn Etholiad cyffredinol y Deyrnas Unedig yn 2010 i un o gadw'r Cynulliad ond i gael gwared o'r Aelodau.[6][7] Serch hyn, maen nhw'n cynnig ymgeiswyr i etholiadau'r Cynulliad, er mwyn ymladd eu hachos o'r tu mewn.

Etholiadau golygu

Yn yr Etholiad Ewrop 2009 yng Nghymru, daeth UKIP yn bedwaredd gyda 12.8% o'r bleidlais a fwrwyd. John Bufton oedd Aelod Seneddol Ewropeaidd UKIP yng Nghymru o 2009 hyd 2014. Ymddeolodd yn 2014 ac ers hynny Nathan Gill sy'n cynrychioli UKIP dros Gymru. Mae yn byw yn Sir Fôn ond yn wreiddiol o Hull.[8]

Yn Etholiadau Cynulliad Cymru, 2016, cynyddodd canran UKIP o'r pleidlais bron deirgwaith (o 4.7% i 12.5%) ac enillodd y blaid saith sedd rhanbarthol.[9] Gwelwyd cwymp mawr yn y bleidlais UKIP yn etholiad cyffredinol DU yn 2019 yn ogystal ag etholiad i'r Senedd yn 2021 (0 12.5% i 1.6%), gan cholli y saith sedd rhanbarthol.[10]

Yn ôl nifer fe wnaeth y ceidwadwyr cipio pleidleisiau UKIP yn etholiadau lleol 2021.[11]

Cyfeiriadau golygu

  1. "UKIP Wales". UKIP Wales. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 8 Gorffennaf 2006. Cyrchwyd 18 Chwefror 2018. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  2. http://www.youtube.com/watch?v=gJ9Qd7Ow5UQ Cyfweliad gydag Elwyn Williams o Blaid Annibyniaeth y Deyrnas Unedig
  3. Tory MP Douglas Carswell defects to Ukip and forces byelection, The Guardian 28 August 2014, adalwyd 6 Medi 2014
  4. Manifesto: Welsh Assembly Election, 3 May 2007 ABOLISH THE ASSEMBLY & LEAVE THE EU (Copi archif o wefan UKIP)
  5. But didn't the Welsh people vote for the assembly in a referendum? (Copi archif o wefan UKIP)
  6. Constitution 2010[dolen marw] o wefan y blaid yn ganolog.
  7. UKIP: Plaid Genedlaethol Lloegr Archifwyd 2016-03-06 yn y Peiriant Wayback., Richard Wyn Jones. Barn Mail 2013
  8. [1]
  9. "Welsh Election 2016: Labour just short as UKIP wins seats". BBC News. Archifwyd o'r gwreiddiol ar 9 Mai 2016. Unknown parameter |deadurl= ignored (help)
  10. Mosalski, Ruth (2021-05-10). "The politicians who won't be returning to the Senedd". WalesOnline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-10.
  11. "Election results: What the data reveals about Labour's performance - and the reasons for it". Sky News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2021-05-10.

Dolenni allanol golygu