Plaid Diddymu Cynulliad Cymru

Mae Plaid Diddymu Cynulliad Cymru (Saesneg: Abolish The Welsh Assembly Party) yn blaid wleidyddol un mater a lansiwyd yng Nghymru yn 2015. Enillodd y blaid 4.4% o'r bleidlais ar restrau rhanbarthol yn etholiad Cynulliad Cenedlaethol Cymru 2016.

Plaid Diddymu Cynulliad Cymru
Abolish the Welsh Assembly Party
ArweinyddRichard Suchorzewski
PencadlysCroffta
Groes Faen
Mid Glamorgan
CF72 8NE[1]
ASau
0 / 40
Senedd Cymru
0 / 60
Llywodraeth leol yng Nghymru
1 / 1,253
[2]
Comisiynydd yr Heddlu a Throseddu
0 / 4
Gwefan
abolishthewelshassembly.co.uk

Hanes golygu

Cofrestrwyd y blaid yn ffurfiol gyda’r Comisiwn Etholiadol ym mis Gorffennaf 2015 [1] ac fe’i lansiwyd yn gyhoeddus ym mis Tachwedd 2015 gyda’r nod o ddileu Senedd Cymru . Arweiniwyd y blaid i ddechrau gan ei chyd-sylfaenydd David Bevan.[1]

Enwebodd y blaid ymgeiswyr ar gyfer pob un o'r rhestrau rhanbarthol yn etholiad Cynulliad 2016, gan gasglu'r chweched nifer uchaf o bleidleisiau a pherfformio'n well na'r Blaid Werdd yn genedlaethol[3], ac yn well na'r Democratiaid Rhyddfrydol mewn dau allan o'r pum rhanbarth.

Ar ôl etholiad Cynulliad cyhoeddwyd y Comisiwn Etholiadol ei bod yn archwilio mewn i'r blaid ar ôl gweld bod nhw heb gyflwyno adroddiad o'i gwariant yn ystod etholiad y Cynulliad. Dywedodd Jonathan Harrington, trysorydd y blaid pryd hynny: "Efallai bod mater clerigol wedi bod ond cyflwynwyd yr holl ffigurau perthnasol erbyn 27 Gorffennaf." [4][5]

Safodd Richard Suchorzewski yn Is-etholiad Casnewydd 2019, y tro cyntaf i'r blaid enwebu ymgeisydd am sedd yn San Steffan. Nododd Suchorzewski mai ei brif nod oedd codi ymwybyddiaeth o neges y blaid.[6] Defnyddiodd yr ymgyrch i dynnu sylw at gost Cynulliad Cymru, gan ei ddisgrifio fel "gwastraff arian" a "haen ddiangen o wleidyddiaeth." Cwestiynodd hefyd ddefnydd Llywodraeth Cymru o arian trethdalwyr mewn perthynas â ffordd ryddhad yr M4 a'u methiant i'w adeiladu,[7] a oedd yn fater allweddol yn ymgyrch yr isetholiad.

Daeth Jonathan Harrington yn arweinydd Plaid Diddymu Cynulliad Cymru ym mis Medi 2019.

Ym mis Tachwedd 2019, ymddiswyddodd Lee Canning fel Dirprwy Gadeirydd Ceidwadwyr Cymru ac ymuno â Plaid Diddymu Cynulliad Cymru.[8] Penodwyd Canning yn Bennaeth Gweithrediadau Gwleidyddol y blaid a'i nod yw sefyll 'mewn sedd darged allweddol' yn etholiad Senedd Cymru 2021.

Mewn polau opiniwn diweddar ar y mater o ddatganoli yng Nghymru mae'r safbwynt o ddiddymu wedi sefyll ar 24%. Mae'r athro Roger Awan-Scully o Ganolfan Lywdoraethiant Cymru yn darogan gall y blaid derbyn cefnogaeth yn yr etholiad Senedd Cymru nesaf ac ennill hyd yn oed seddi ar y rhestr rhanbarth.[9]

Mae yna wrthwynebiad i'r syniad o ddiddymu'r Senedd hefyd ac mae'r canran gefnogodd (mwy o bwerau neu annibyniaeth) mwy na hanner ar 56%.[9] Cafodd Abolish Westminster ei sefydlu ar Facebook a Twitter fel tudalen ddychan yn gwawdio’r parti.[10]

Polisïau golygu

Unig nod Plaid Diddymu Cynulliad Cymru yw diddymu Senedd Cymru a gwrthdroi'r broses ddatganoli Cymru . Yn ei lle, mae'r blaid yn cynnig datganoli mwy o bwer i awdurdodau lleol yng Nghymru ac wedi gwrthod galwadau i leihau eu nifer.[11][12]

Perfformiad Etholiadol golygu

Etholiadau Senedd Cymru golygu

Etholiad Nifer o Pleidleisiau Rhestr % y bleidlais Rhestr Nifer o'r seddi a enillwyd +/- Canlyniad Nodiadau
2016 44,286 4.4 (# 6)
0 / 60
  0 Ddim yn y Senedd
2021 41,399 3.7 (# 6)
0 / 60
  0 Ddim yn y Senedd

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 "Gweld cofrestriad - Y Comisiwn Etholiadol". search.electoralcommission.org.uk. Cyrchwyd 2020-04-11.
  2. "Conservative councillor defects to anti-devolution party". ITV News (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-06-04.
  3. "Canlyniadau Etholiad Cynulliad 2016". BBC Cymru Fyw. Cyrchwyd 2020-04-11.
  4. "Diddymu Cynulliad: 'Dim cofnod gwariant'". BBC Cymru Fyw. 2017-01-26. Cyrchwyd 2020-04-11.
  5. "Abolish Assembly party's spending probe". BBC News (yn Saesneg). 2017-01-26. Cyrchwyd 2020-04-11.
  6. "Party dedicated to abolishing the Welsh Assembly will run in Newport West by-election". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-11.
  7. "NEWPORT WEST BY-ELECTION: Meet Richard Suchorzewski, candidate for the Abolish the Welsh Assembly Party". South Wales Argus (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-11.
  8. "Ceidwadwr yn gadael am 'ddiffyg gweithredu'". BBC Cymru Fyw. 2019-11-19. Cyrchwyd 2020-04-11.
  9. 9.0 9.1 "Plaid Diddymu'r Cynulliad 'i ennill seddi'". BBC Cymru Fyw. 2020-02-16. Cyrchwyd 2020-04-11.
  10. "Abolish Westminster". www.facebook.com. Cyrchwyd 2020-04-11.
  11. Williamson, David (2015-11-06). "The Abolish the Welsh Assembly Party is launched to end devolution". walesonline (yn Saesneg). Cyrchwyd 2020-04-11.
  12. "Party says assembly 'expensive mistake'". BBC News (yn Saesneg). 2016-04-22. Cyrchwyd 2020-04-11.

Dolenni allanol golygu