Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd
Plaid wleidyddol sy'n cynnwys 33 o bleidiau sosialaidd, sosialaidd-ddemocrataidd a llafur o bob un o aelodau'r Undeb Ewropeaidd a Norwy hefyd yw Plaid y Sosialwyr Ewropeaidd (Ffrangeg: Parti socialiste européen, PSE; Saesneg: The Party of European Socialists, PES). Mae'r PSE yn ffurfio grŵp seneddol yn Senedd Ewrop a elwir y Grŵp Sosialaidd, sydd yr ail fwyaf yn y senedd honno gyda dros 200 ASE yn perthyn iddo. Un o'r aelod-bleidiau yw'r Blaid Lafur Brydeinig.
Enghraifft o'r canlynol | European political party |
---|---|
Idioleg | democratiaeth gymdeithasol, sosialaeth ddemocrataidd, European values |
Dechrau/Sefydlu | 10 Tachwedd 1992 |
Lleoliad yr archif | International Institute of Social History |
Aelod o'r canlynol | Progressive Alliance, Socialist International |
Ffurf gyfreithiol | European political party |
Pencadlys | Dinas Brwsel |
Enw brodorol | Party of European Socialists |
Gwladwriaeth | yr Undeb Ewropeaidd |
Gwefan | https://www.pes.eu/ |
Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia |
Sefydlwyd y blaid yn 1992 ac mae'n cael ei harwain gan Poul Nyrup Rasmussen ASE. Fodd bynnag, mae hanes y Grŵp Sosialaidd yn mynd yn ôl i adeg sefydlu Senedd Ewrop yn 1953. Tan etholiad Ewropeaidd 1999 hwn oedd y grŵp mwyaf yn y senedd; arweinydd presennol y grŵp yw Martin Schulz ASE.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol y blaid