Hiliogaeth arbennig o'r Tylwyth Teg yw Plant Rhys Ddwfn. Ceir traddodiadau a chwedlau amdanynt yn Nyfed ac yn enwedig Sir Benfro. Dywedir eu bod yn byw mewn gwlad anweledig ym Mae Ceredigion.

Chwedlau a thraddodiadau golygu

Yn ôl y traddodiad, trigai Plant Rhys Ddwfn ar ynysoedd cudd yn y môr "rhwng Cemais (Sir Benfro) ac Aberdaron (Llŷn)". Dywedir eu bod yn hardd anghyffredin ond yn fychain.[1]

Yr unig draddodiad am Rhys Ddwfn ei hun yw ei fod yn bennaeth ar y Tylwyth Teg hyn. Mewn Cymraeg Canol, un o ystyron y gair dwfn yw 'byd'. Gallai hefyd fod yn gyfeiriad at y môr. Mae rhai o'r chwedlau yn derbyn mai 'doeth' yw'r ystyr, ond ymddengys mai esboniad diweddar yw hynny.[2]

Dywedir mai rhinwedd llysiau neilltuol a dyfai ar yr ynysoedd a gadwai gwlad Plant Rhys Ddwfn yn anweledig i bobl meidrol. Nid oedd y llysiau hyn yn tyfu mewn unrhyw le arall heblaw llecyn bychan o lathen sgwâr o dir yng Nghemais. Pe bai rhywun yn sefyll arno fe welai'r cyfan o wlad Plant Rhys Ddwfn o flaen ei lygaid.[3] Ceir chwedlau am y Plant yn ymweld â'r tir mawr i fasnachu ac roeddent i'w gweld weithiau ym marchnad Aberteifi.[3] Elfen ddiweddarach yn y chwedlau, fe ymddengys, sy'n priodoli doethineb a chwrteisi arbennig iddynt, gan ddweud fod Rhys Ddwfn wedi dysgu iddynt barchu eu rhieni a'u cyndeidiau a bod yn ffyddlon i'w gilydd ar bob achlysur: mae'n debyg fod hyn yn ymgais i esbonio'r gair 'dwfn'.[4]

Ceir sawl traddodiad o Ddyfed, yn cynnwys un o ardal Llan-non, fod ynysoedd Plant Rhys Ddwfn i'w gweld allan yn y môr weithiau, ond nid gan bawb.[4]

Cyfatebiaethau golygu

Mae'r ffaith fod y bodau hyn yn byw mewn gwlad hud ym Mae Ceredigion yn debyg iawn i'r traddodiad adnabyddus am Gantre'r Gwaelod, cantref chwedlonol oddi ar arfordir de Gwynedd a gogledd Ceredigion a foddwyd gan y môr. Ceir sawl chwedl a thraddodiad Celtaidd am ynysoedd arallfydol paradwysaidd allan yn y môr i gyfeiriad y gorllewin, a gysylltir ag Arallfyd y Celtiaid. Tebyg hefyd yw Ynys Afallach yn y traddodiad Cymreig.

Cyfeiriadau golygu

  1. William Rowland, Straeon y Cymry (Gwasg Aberystwyth; argraffiad newydd 1961), tud. 11.
  2. T. Gwynn Jones, Welsh Folklore and Folk-Custom (D. S. Brewer, 1930; 1979), tud. 58.
  3. 3.0 3.1 Straeon y Cymry, tud. 11.
  4. 4.0 4.1 Welsh Folklore and Folk-Custom, tud. 58.