Llan-non, Ceredigion

pentref yng Ngheredigion
(Ailgyfeiriad o Llan-non)

Pentref yng Ngheredigion ydy Llan-non (weithiau hefyd "Llan Non"; Seisnigiad: Llanon). Mae ar arfordir Bae Ceredigion ger Llansantffraid, tua 5 milltir i'r gogledd o Aberaeron ar yr A487. Ger y pentref y saif maen hir uchaf Sir Gaerfyrddin: 4.6 metr.

Llan-non
Mathtref bost, pentref Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlNon Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirCeredigion Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau52.2825°N 4.179°W Edit this on Wikidata
Cod OSSN515671 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AS/au CymruElin Jones (Plaid Cymru)
AS/au y DUBen Lake (Plaid Cymru)
Map
Gweler hefyd: Llannon
Arwydd siop Sgod a Sglods, 'Sglods', Llan-non (Awst 2024)

Cynrychiolir yr ardal hon yn Senedd Cymru gan Elin Jones (Plaid Cymru)[1] ac yn Senedd y DU gan Ben Lake (Plaid Cymru).[2]

Traddodiadau

golygu

Enwir y plwyf a'r pentref ar ôl y santes Non, mam Dewi Sant. Ceir Capel Non ar lan Bae Sain Ffraid. Dywedir i Non ffoi yno ar ôl cael ei threisio ac esgor ar Ddewi yno; ffrydiodd ffynnon o'r tir yn y man. Erys yn ffynnon sanctaidd hyd heddiw.

Yn ôl traddodiad, roedd ynysoedd hud Plant Rhys Ddwfn i'w gweld allan yn y môr o Lan-non ar achlysur, ond nid gan bawb.

Cyfrifiad 2011

golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[3][4][5][6]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Llan-non (pob oed) (5,270)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Llan-non) (3,262)
  
64.2%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Llan-non) (4255)
  
80.7%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed (Llan-non) (785)
  
36.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Enwogion

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Senedd Cymru
  2. Gwefan Senedd y DU
  3. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  5. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  6. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen farw]