Preslav
Dinas hanesyddol yng ngogledd-ddwyrain Bwlgaria yw Preslav (Bwlgareg Преслав). Prifddinas Teyrnas Gyntaf Bwlgaria oedd hi o 893 tan tua 972. Lleolir adfeilion y ddinas 20 km i'r de-orllewin o'r brifddinas ranbarthol Shumen.
Math | tref weinyddol ddinesig, dinas ym Mwlgaria |
---|---|
Poblogaeth | 8,038, 8,809 |
Cylchfa amser | UTC+2, UTC+03:00 |
Daearyddiaeth | |
Sir | Ardal Ddinesig Dinesig Veliki Preslav |
Gwlad | Bwlgaria |
Arwynebedd | 76.76 km² |
Uwch y môr | 92 metr |
Cyfesurynnau | 43.160509°N 26.811977°E |
Cod post | 9850 |
Datblygwyd y ddinas gyntaf fel safle milwrol â phlas caerog gan Khan Omurtag yn hanner cyntaf y 9g. Symudwyd y brifddinas yno yn 893 gan Tsar Simeon Fawr ar ôl gwrthryfel paganaidd yn y brifddinas flaenorol Pliska, 3 km i ffwrdd. Ffynnodd am gyfnod fel canolfan diwylliant llenyddol Slafonaidd, fel Ohrid yn y gorllewin. Cafodd y ddinas ei hysbeilio a'i llosgi i lawr gan luoedd Ymerodraeth Byzantium o dan yr Ymerawdwr Ioan I Tzimiskes yn 971. Parhaodd ei diwygiad ar ôl hynny tan ymosodiad dan ddwylo'r Tatariaid yn 1270, pryd gadawodd y rhelyw o'r trigolion y ddinas. Heddiw mae tref fechan newydd (Veliki Preslav) yn sefyll 2 km i'r gogledd o'r ddinas hanesyddol. Mae ganddi boblogaeth o dua 10,000 o drigolion.
Prifddinasoedd hanesyddol Bwlgaria |
Pliska (681-893) | Preslav (893-972) | Skopje (972-992) | Ohrid (992-1018) | Veliko Tarnovo (1185-1393, 1878-1879) | Sofia (ers 1879) |