Mae gwreiddiau gwladwriaeth Bwlgaria yn arwain yn ôl i'r seithfed ganrif, pryd gorchfygwyd llwythi Slafonaidd de-ddwyrain y Balcanau gan lwyth Tyrcig o Ganol Asia, y Bwlgariaid. Creuwyd gwladwriaeth rymus newydd gan deyrnedd y llwth Tyrcig, a thrwch y boblogaeth yn Slafiaid. Yn ystod y Deyrnas Gyntaf, daeth cyfnod o ffyniant diwylliannol a milwrol yn enwedig o dan Tsar Simeon Fawr (893–927), ond dechreuodd y deyrnas chwalu yn ail hanner y ddegfeg ganrif gyda thwf heresi y bogomiliaid ac adfywiad Ymerodraeth Byzantium. Ymgorfforwyd Bwlgaria yn Ymerodraeth Byzantium yn 1018, gan ennill ei hannibyniaeth unwaith eto mewn gwrthryfel yn 1185. Roedd sefyllfa yr Ail Deyrnas (1185–1393) wastad yn ansicr a bu raid iddi frwydro yn gyson yn erbyn ei chymdogion am ei bodolaeth. Ar ôl cael ei gorchfygu dan ddwylo'r Tyrciaid rhwng 1393 a 1396, daeth Bwlgaria yn rhan o'r Ymerodraeth Ottoman am bum canrif. Yn sgil Ymoleuo'r 18g, cynyddodd gofynion am annibyniaeth eglwysig oddi wrth yr eglwys Roegaidd ac am annibyniaeth wleidyddol oddi wrth yr Ymerodraeth Ottoman. Dygodd y frwydr am annibyniaeth ffrwyth yn y 3g ar bymtheg, gyda chreadigaeth eglwys annibynnol yn 1872 a rhyddhâd oddi wrth rheolaeth Ottoman diolch i luoedd Rwsia yn 1878. Arweiniodd tensiynau rhwng gwladwriaethau newydd y Balcanau at gyfres o ryfeloedd ym mlynyddoedd cynnar yr 20g. Chafodd Bwlgaria ddim adfer ei ffiniau canoloesol ac roedd yn gorfod derbyn colled Macedonia Slafonaidd yn y pendraw. Yn y Rhyfel Byd Cyntaf a'r Ail Ryfel Byd, ymunodd Bwlgaria â Phwerau'r Echel. Meddiannwyd y wlad gan luoedd Sofietaidd yn 1944, a daeth yn rhan o'r Bloc Dwyreiniol o dan reolaeth gomiwnyddol. Dymchwelwyd y llywodraeth gomiwnyddol mewn chwyldro yn 1990. Ers hynny, mae Bwlgaria yn ddemocratiaeth seneddol sefydlog. Ymunodd â'r Undeb Ewropeaidd ar 1 Ionawr 2007.

Dwyrain y Balcanau yn yr Henfyd

golygu

Yng nghyfnod yr Henfyd, trigolion yr ardal a adwaenir fel Bwlgaria heddiw oedd y Thraciaid. Pobl Indo-Ewropeaidd oedden nhw, wedi'u rhannu'n gyfres o lwythau a chysylltiadau llac rhyngddynt. Roedd safon eu gwaith metal yn uchel, ac mae casgliadau gwerthfawr ohono wedi cael eu dargarfod dros wastatiroedd Thracia. Rhwng 351 a 341 CC, goresgynnwyd tiroedd y Thraciaid gan fyddin Alexander Fawr, a daethant yn rhan o'i deyrnas. Yn y 3g CC, dechreuodd dylanwad yr Ymerodraeth Rufeinig ymestyn dros y Balcanau. Daeth rheolaeth Rufeinig ac undod newydd i'r ardal. Adeiladodd y Rhufeiniaid system o heolydd yn rhedeg o'r gogledd i'r de ac o'r gorllewinol i'r dwyrain. Tyfodd dinas ar y groesffordd rhwng yr heolydd, sef Serdica, Sofia heddiw. Roedd dinasoedd eraill yn ffynnu hefyd, megis Trimontium (Plovdiv), Odessos (Varna) a Nicopolis ad Istrum. Pan rannwyd yr ymerodraeth, daeth Thracia a Moesia yn rhan o'r ymerodraeth ddwyreiniol. Ond fel roedd yr ymerodraeth yn gwanhau, daeth trigolion newydd o'r gogledd, llwythau Slafonaidd a ymddangosodd gyntaf yn y 5g. Fe'u goresgynnwyd nhw yn eu tro gan lwyth Tyrcig, y Proto-Bwlgariaid, o dan Khan Asparukh yn 680. Creodd Asparukh wladwriaeth newydd Bwlgaraidd. Roedd trwch y boblogaeth yn dal i fod yn Slafiaid, ac o fewn ychydig o genedlaethau roedd y Slafiaid wedi cymathu'r Bwlgariaid yn llwyr, gan gadw eu henw a'u trefn wleidyddol yn unig.

Bwlgaria ganoloesol

golygu

Y deyrnas gyntaf, 681–1018

golygu

Am ddwy ganrif ar ôl ei sefydliad, roedd gwladwriaeth Bwlgaria yn ehangu ei thiriogaeth yn gyson. Enillodd Ogledd Thracia gan Ymerodraeth Bysantiwm yn 716, rhan o Ddyffryn Morava yng nghanol yr 8g, a Transylvania ar ôl cwymp teyrnas yr Afariaid. Roedd yn anoddach ehangu'r deyrnas yn y de. Mewn rhyfel dan arweinyddiaeth Khan Krum yn erbyn y Groegiaid yn 811, enillodd ddinasoedd Sredets (Sofia heddiw) a Nesebar. O dan olynydd Krum, Khan Omurtag, roedd yr ehangu'n parhau, gan i'r deyrnas gipio Singidunum (Belgrâd) a rhanbarth Slafoneg Macedonia.

Cyflwynwyd Cristnogaeth fel crefydd swyddogol Bwlgaria gan Boris I, a dderbyniodd fedydd yn 864. Roedd llawer o Slafiaid Bwlgaria yn Gristnogion yn barod, ond roedd cyflwyniad Cristnogaeth yn cynorthwyo pontio'r bwlch diwylliannol rhyngddynt a'r Proto-Bwlgariaid, oedd yn dal i gadw at baganiaeth. Roedd yr eglwys ym Mwlgaria yn rhan o'r eglwys Roegaidd o'r cychwyn. Er nad oedd hyn yn bodloni'r rheolwyr Bwlgaraidd, doedd ymgais i sefydlu trefniadau eglwysig mwy ffafriol gyda'r Pab yn Rhufain ddim yn dwyn ffrwyth. Ym 870 penderfynodd cyngor i reoli trefniadau'r eglwys mai archesgob fyddai pennaeth yr eglwys ac y byddai'n cael ei ddewis gan y patriach yng Nghaergystennin. Mae twf Cristnogaeth wedi'i gysylltu â ffynniant diwylliant Bwlgaria yn ail hanner y 9g. Yn y cyfnod hwnnw ysgrifennwyd iaith Slafoneg yr ardal am y tro cyntaf, a sefydlwyd ysgol dysg o dan Kliment Ohridski. Defnyddiwyd yr iaith Slafoneg ar gyfer y litwrgi ac at bwrpasau gweinyddol a chyfreithiol.

O dan Simeon Fawr ehangwyd ffiniau Bwlgaria tua'r gorllewin hyd Môr Adria, tua'r de hyd y Môr Egeaidd a thua'r gogledd, gan ymgorffori Serbia a Montenegro am gyfnod. Yn sgil cytundeb heddwch ag Ymerodraeth Byzantium yn 896, derbyniodd yr ymerodraeth annibyniaeth eglwys Bwlgaria. Cydnabuwyd Simeon fel basileus ('tsar') gan Ymerodraeth Byzantium yn 926. Symudodd y brifddinas o Pliska i Preslav. Yno roedd diwylliant Bwlgaraidd yn dal i ffynnu diolch i ysgolheigion fel y Mynach Khrabr, Ioan Exarch a Konstantin o Preslav.

Erbyn canol y ddegfeg ganrif roedd y deyrnas wedi dechrau dirywio. Daeth rhyfeloedd newydd â'r Magyariaid, a rheolaeth y wladwriaeth ganolog yn llacio. Yn wyneb llygredd cynyddol yr eglwys, dechreuodd heresi bogomiliaeth i ffynnu ymysg y pobl gyffredin. Roedd bogomiliaid yn credu i'r byd dynol gael ei greu gan y Diafol a bod pleserau corfforol yn mynegi ochr diafolaidd creadigaeth. Roedd 'Rhai Sanctaidd' y crefydd yn byw bywydau o asgetigaeth lem. Credai bogomiliaid y dylid byw mewn cymunedau heb eiddo preifat lle roedd pawb yn rhannu'r gwaith llafurio, a bod sefydliadau dynol i gyd yn ddrygionus. Roedd agwedd negyddol y bogomilidiaid tuag at y byd o'u cwmpas a'u cred na ellid ei wella yn gwneud sefyllfa'r wladwriaeth yn waeth byth. Roedd rhyfeloedd yn parhau yn ail hanner y 10g, yn erbyn y Rws yn y gogledd ac yn erbyn Ymerodraeth Byzantium yn y de. Cipiwyd Preslav gan yr ymerodraeth yn 971 ynghyd â rhan fawr dwyrain Bwlgaria, a symudwyd y brifddinas i Ohrid.

Daeth gwellhâd dros dro o dan Tsar Samuil (997–1014), ond ym mlynyddoedd cynnar yr 11g dychwelodd y bygwth Byzantaidd. Trechwyd lluoedd Bwlgaria yn llwyr gan luoedd yr ymerodraeth ar lethrau mynyddoedd Belasitsa yn 1014 o dan yr Ymerawdwr Basileios II ('Basil Laddwr Bwlgariaid'). Dallwyd 99 allan o pob 100 o filwyr Bwlgaraidd, a bu farw Samuil dridau ar ôl y frwydr. Bedair blynedd yn ddiweddarch cwympodd y wladwriaeth yn llwyr gan gael ei ymgorffori yn Ymerodaeth Byzantium.

Bwlgaria o dan reolaeth Ymerodraeth Byzantium, 1018–1185

golygu

O dan Basil ei hunan, gadawyd i'r Bwlgariaid gadw mesur o annibyniaeth, ond yn raddol ar ei ôl cwtogwyd ar annibyniaeth yr eglwys Fwlgaraidd a dylanwad yr eglwys Roegaidd yn ymledu. Codwyd trethi uwch ar y boblogaeth, yr hyn a arweiniodd at wrthryfel dan arweinyddiaeth Petar Delyan yn 1040 a 1041. Er i'r gwrthryfelwyr gipio Skopje, prif dref Bwlgaria ar y pryd, a rhannau helaeth o Thracia, Epirus a Macedonia, atalwyd y gwrthryfel yn 1041, a Petar Delyan yn cael ei ddal a'i ddalltu.

Yn sgil ymosodiadau ar yr Ymerodraeth yn y 1080au gan y Normaniaid, gorfuwyd codi trethi ychwanegol a chynyddu gorfodaeth filwrol. Roedd hyn yn ormod i'w ddwyn gan y Bwlgariaid. Lledodd gwrthryfel newydd dros dwyrain Bwlgaria dan dau dirfeddwr o ardal Veliko Tarnovo, Petar ac Asen. Roedd y gwrthryfel yn llwyddiannus, a chyhoeddwyd Petar yn tsar yn Tarnovo yn 1185.

Yr ail deyrnas, 1185–1393

golygu

Parodd yr ail deyrnas am ddwy ganrif. Roedd yn dioddef bygythiadau allanol drwy gydol ei hoes, gyda brwydrau parhaol bron ar bob ochr. Llwyddodd teyrnedd Bwlgaria i gadw ei hannibyniaeth yn wyneb pwysedd mewnol ac allanol, ac, ar brydiau, hyd yn oed ehangu maint ei thiriogaeth drwy foddion milwrol a diplomatig.

Daeth mesur o sefydlogrwydd dan Tsar Kaloyan (1197-1207). Llwyddodd Kaloyan i yrru y Magyariaid allan o ogledd-orllewin Bwlgaria, ac i ailsefydlu heddwch ag Ymerodraeth Byzantium. Bu hefyd yn llwyddiannus yn erbyn y Croesgadwyr, a gipiodd Gaergystennin yn 1204. Fe'u trechwyd gan luoedd Bwlgaria mewn brwydr yn agos at Adrianopolis (Edirne) yn 1207.

Cyfnod twf heresi oedd y 12g hefyd. Roedd bogomiliaeth wedi ffynu unwaith eto ym mlynyddoedd ola'r 11g. Dechreuwyd i erlid yr heresi yn sgil cyngor Tarnovo 1211. Cafodd y polisi ei lacáu gyda blynyddoedd gwell teyrnasiad Ivan Asen II (1218-41), pryd ehangodd Bwlgaria ei ffiniau i gwmpasu Epirus. Dan arweinyddiaeth Ivan Asen, roedd Bwlgaria wedi cyrraedd brig ei grym: roedd y deynras yn ymestyn o'r Môr Du yn y dwyrain hyd Môr Adria yn y gorllewin, a'r Môr Egeaidd yn y de. Roedd celfyddyd Bwlgaria y ffynnu hefyd: dyma'r cyfnod pan baentiwyd ffrescos Boyana, un o uchafbwyntiau celfyddyd Slafonaidd y Canol Oesoedd.

Ar ôl Ivan Asen II, dechreuodd y sefyllfa wleidyddol waethygu. Daeth dim arweinwyr cryf newydd. Gwanhawyd y deynras gan heresi newydd, hesychiaeth, diffyg arweinyddiaeth ac ymryson rhwng y pendefigion.

Ar ôl gorchfygiad y Serbiaid dan ddwylo'r Ottomaniaid ym mrwydr Kosovo Pole ym 1389, roedd tynged Bwlgaria yn sicr. Cwympodd Tarnovo i luoedd yr Ottomaniaid ym mis Gorffennaf 1393 ar ôl gwarchae a barodd am dri mis. Chwalwyd gwladwriaeth Bwlgaria. Parhaodd gwrthwynebiad i'r Ottomaniaid am ychydig flynyddoedd wedyn, tan i'r ddinas annibynnol olaf, Vidin, gwympo ym 1396.

Canrifoedd cynnar o dan yr Ymerodraeth Ottoman

golygu

Y Diwygiad Cenedlaethol hyd at y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

Hadau'r diwygiad diwylliannol yn y 18fed ganrif

golygu

Daeth arwyddion cynta'r diwygiad cenedlaethol gyda diwygwyr diwylliannol y 18g. Gwaith allweddol cynnar oedd llyfr hanes Bwlgaria Paisii Hilendarski, Hanes Slafonaidd-Bwlgaraidd y Bobloedd, y Tsariaid, y Seintiau a'u Holl Weithredoedd a'r Ffordd Fwlgaraidd o Fyw. Mae'r gwaith yn cymryd lle yn hanes diwylliant Bwlgaria yn debyg i Drych y Prif Oesoedd gan Theophilus Evans yng Nghymru. Gwelodd Paisii y cyferbyniad rhwng safle gwael iaith a diwylliant Bwlgaria yn ei ddyddiau ef a'u gorffennol llewyrchus. Nôd y gwaith oedd atgoffa ei gydwladwyr o wychder teyrnas ac eglwys Bwlgaria yn y Canol Oesoedd a'u rhybuddio rhag dylanwad Groegaidd. Pwysleisiodd na ddylid y Bwlgariaid deimlo'n israddol i'r Groegiaid na cheisio eu dynwared nhw, ond ymfalchïo yn eu gwlad a'u diwylliant eu hunain.

Mae gwaith Paiisi yn rhoi cyd-destun i'r diwygiad diwyllannol, ond er i dros 50 o gopïau o'i lawysgrif gael eu cynhyrchu yn y 18g, doedd gwaith Paisii ddim mor ddylanwadol ag i greu diwygiad cenedlaethol ynddo'i hun. yn y 18g a dechrau'r 19g, agorodd gorwelion y Bwlgariaid gyda rhagor o gysylltiadau deallusol â'r byd tu allan i'r Ymerodraeth Ottoman. Daeth syniadau cyfoes a chyffrous gyda newyddion o'r Chwyldro Ffrengig ac o'r gwrthryfeloedd yn erbyn rheolaeth Caergystennin yn Serbia a Gwlad Groeg. Ar ôl rhyfel 1768–1774 rhwng Rwsia a'r Ymerodraeth Ottoman, cryfhaodd dylanwad Rwsia yn y Môr Du. Rhoddodd Cytundeb Küçük Kaynarca diriogaeth i Rwsia ar hyd arfordir gogleddol y Môr Du. At hynny, enillodd Rwsia hawliau niwlog i amddiffyn deiliaid Cristnogol yr Ymerodraeth Ottoman, ac felly i ymyrryd ym materion mewnol yr Ymerodraeth. Y tu fewn i'r Ymerodraeth, arweiniodd methiant y fyddin at leiháu grym y llywodraeth ganolog a chynyddu grym arglwyddi rhanbarthol. Roedd ymladd rhwng y swltan a'r arglwyddi rhanbarthol hyn yn parháu o'r 1770au hyd y 1820au. Daeth ansicrwydd cynyddol bywyd yn y cefn gwlad â mwy o bobl i'r trefi. Atynnwyd pobl i'r trefi gan y cynnydd mewn diwydiant a masnach (cotwm a thybaco gan fwyaf) hefyd, yn enwedig i drefi'r mynyddoedd. Roedd gan y masnachwyr a diwydianwyr cefnog newydd fwy o ddiddordeb mewn gweithgareddau elusennol, a chyfranasant yn hael i'r Eglwys ac i addysg. Sefydlwyd ysgolion gyda nawdd urddau neu gynghorau lleol o 1834 ymlaen, ac yn sgîl hynny ymddangosodd dosbarth canol deallusol newydd tua chanol y 19g. Roedd y ffactorau hyn i gyd yn rhoi hwb i ddatblygiad ymwybodaeth genedlaethol yn y 19g.

Creu eglwys annibynnol

golygu

Yn ystod y 18g, cynyddai dylanwad yr eglwys Roegaidd dros fywyd crefyddol Bwlgaria. Diddymwyd yr archesgobaeth annibynnol Fwlgaraidd yn Ohrid ym 1767. Roedd offeiriaid Groeg yn cael eu penodi i blwyfi cwbl Bwlgareg eu hiaith, a chodwyd trethi eglwysig trymion a aeth i bocedi esgobion ac offeiriaid llwgr. Roedd cyfres o brotestiadau yn y 1840au ar draws yr ardaloedd Bwlgareg i gyd yn galw am esgobion ac offeiriaid oedd yn siarad Bwlgareg. Gwrthododd blaenwyr yr eglwys fodloni'r gofynion, gan gynddeiriogi'r Bwlgariaid yn fwy byth ac yn arwain at galwadau am eglwys Fwlgaraidd hollol annibynnol gyda'r gallu i weinyddu ei heglwysi ei hun ac i benodi ei chlerigwyr ei hun. Y cam cyntaf oedd adeiladu eglwys Fwlgaraidd, Eglwys San Steffan, yng Nghaergystennin ym 1849. Cydnabuwyd yr eglwys fel eiddo'r bobl Fwlgareg gyda gwasanaethau yn Fwlgareg ac offeiriaid gafodd eu dewis gan gyngor oedd yn annibynnol o'r eglwys Roegaidd. Roedd y galwadau am hunanlywodraeth eglwysig yn dal i gynyddu dros y degawd nesaf. Ym 1856, cyflwynwyd deiseb i'r swltan. Ymateb y Porte oedd trefnu cyfres o gynghorau i geisio gytuno cynllun diwygio'r eglwys rhwng 1858 a 1872, ond ddaeth dim newid o'r cynghorau hyn. Ym 1867, cynigiwyd cyfaddawd gan Patriarch Gregori VI, a awgrymodd sefydlu eglwys hunanlywodraethol Fwlgaraidd o fewn y batriarchaeth Roegaidd. Exarch, clergigwr o safle uwch nag archesgob ond yn is na phatriarch, fyddai ei phennaeth hi. Ddaeth dim cytundeb yn ystod y blynyddoedd nesaf: prif asgwrn cynnen oedd diffinio ffiniau daearyddol yr eglwys Fwlgaraidd (yr exarchaeth). Heb gytundeb y batriarchaeth Roegaidd, dewisodd y Bwlgariaid exarch, Esgob Antim o Vidim i gyhoeddu annibyniaeth yn unochrog ar 23 Mai 1872, gan arwain at greadigaeth yr exarchaeth Fwlgaraidd. Ym mis Medi o'r un flwyddyn datganodd y batriarch Roegaidd rwyg (sgism) rhwng y ddwy eglwys.

Rhyfel y Rhyddhâd

golygu
 
Cofeb Brwydr Shipka, brywdr bwysicaf rhyfel y rhyddhåd.

Daeth arwyddion cynta'r frwydr am annibyniaeth yn ystod yr 1860au. Ym 1875, dechreuodd gwrthryfel yn erbyn yr Otomaniaid ym Mosnia. Ymledaenodd yr anhrefn, gan arwain at ryfel rhwng Serbia a'r Ymerodraeth Ottoman. Roedd hyn yn cynnig cyfle i chwyldroadwyr Bwlgaria, a gytunodd ddechrau gwrthryfel ar draws Bwlgaria. Fodd bynnag, roedd Gwrthryfel Ebrill 1875 yn fethiant llwyr. Dim ond yn ardal Plovdiv y cynullodd pobl i'w gefnogi, ac hyn yn oed yna roedd milwyr yr Ymerodraeth yn drech o lawer na phentrefwyr di-brofiad. Roedd dial yr Otomaniaid yn greulon. Lladdwyd miloedd o bobl, gan gynnwys gwragedd a phlant, yn yr ardaloedd oedd wedi cefnogi'r gwrthryfel. Lledodd newyddion y cyflafanau i orllewin Ewrop a i Rwsia. Roedd galwadau ym Mhrydain ac yn Rwsia am ddiwygiadau yn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Ym Mhrydain, sgrifennodd Gladstone bamffled yn beirniadu gweithredoedd y Tyrciaid yn llym, ond gwrthododd yr Otomaniaid gydweithredu â gofynion y pwerau Ewropeaidd. Ym mis Ebrill 1877, daeth amynedd Rwsia i ben, a chyhoeddodd ryfel yn erbyn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Er i'r ymladd fod yn llymach na'r disgwyl, cipiodd milwyr Rwsia Sofia ym mis Ionawr 1878. Bu farw dros 200,000 o filwyr Rwsieg yn y gwrthdaro.

Cytundebau Heddwch San Stefano a Berlin

golygu

Llofnodwyd cytundeb heddwch rhwng Rwsia a'r Ymerodraeth Otomanaid ar 3 Mawrth 1878. Petasai'r cytundeb wedi cael ei wireddu, buasai gwladwriaeth enfawr wedi cael ei chreu yn rhedeg o lannau'r Môr Egeaidd hyd y Donaw, gan gynnwys rhan fwyaf Macedonia a Thracia. Fodd bynnag, roedd Prydain ac Awstria-Hwngari yn gwrthwynebu'r cytundeb o'r dechrau gan iddynt ddisgwyl y byddai Bwlgaria yn was ufuddol i'w gwaredwyr Rwsieg, ac felly'n estyn dylanwad Rwsia yn ddwfn i fewn i'r Balcanau. Mynasant ail-drafod telerau'r heddwch, yr hyn a arweiniodd at gytundeb newydd a lofnodwyd yn Berlin ym mis Gorffennaf 1878. Os oedd Cytundeb San Stefano yn hael i'r Bwlgariaid, roedd Cytundeb Berlin yn grintach. Tywysogaeth fechan ar hyd y Donaw oedd y Fwlgaria annibynnol newydd. Byddai'n cael hunanlywodraeth ond yn gorfod cydnabod penarglwyddiaeth yr Ymerodraeth Ottoman. I'w de, crewyd rhanbarth hunanlywodraethol Dwyrain Rwmelia i aros o fewn yr Ymerodraeth Otomanaidd. Aeth Macedonia yn ôl i'r Otomaniaid, ac ardaloedd yn y gorllewin i Serbia. Creodd Cytundeb Berlin anfodlondeb ymysg y Bwlgariaid a arweiniodd at anghytundeb hwyrach rhwng Fwlgaria a'i chymdogion.

 
Ffiniau Bwlgaria yn ôl Cytundebau San Stefano a Berlin

Y Rhyfel â Serbia

golygu

Cynhaliwyd Cynulliad Cyfansoddol yn Veliko Tarnovo ym mis Chwefror 1879 i benderfynu cyfundrefn y wladwriaeth newydd. Penderfynasant wahodd Tywysog Alexander Battenberg, mân fonheddwr Almaeneg, i ddod yn dywysog. Roedd Alexander wedi ymladd gyda byddin Rwsia yn ystod Rhyfel y Rhyddhâd, ac roedd yn nai i Tsar Alexander II. Roedd y wladwriaeth newydd yn anwadal o'r dechrau. Ym 1881, llwyddodd y tywysog i estyn ei rymoedd a chymryd awennau'r llywodraeth. Ar yr un pryd, gwaethygodd perthnasoedd rhwng Bwlgaria a Rwsia, gan i Fwlgaria wrthod adeiladu rheilffordd o'r ffin ogledd-ddwyreiniol i Sofia. Y tu fewn i'r Ymerodraeth Ottoman, roedd Bwlgariaid yn rhanbarth Dwyrain Rwmelia wedi llwyddo i ennill dylanwad cryf ar ei lywodraeth. Ar 18 Medi 1885, datganasant annibyniaeth Dwyrain Rwmelia oddi wrth yr Ymerodraeth Ottoman, gan uno â gweddill Bwlgaria. Roedd hyn yn embaras i'r tywysog a'i lywodraeth, gan iddynt ofni adwaith Rwsia, ond doedd dim dewis ond i groesawu'r tiriogaethau newydd. Enynnodd y datganiad gynddaredd Rwsia, a dynnodd ei swyddogion allan o fyddin Bwlgaria gan ei adael mewn cyflwr truenus. Hawliodd Serbia aildynnu ei ffin â Bwlgaria, ac ar 13 Tachwedd 1885 cyhoeddodd ryfel. Yn groes i'r disgwyl, gwthiodd byddin Bwlgaria ymosodiad Serbia yn ôl, a daeth yn fuddugol yn erbyn y Serbiaid ym Mrwydr Slivitsa. Roedd Cytundeb Heddwch Bucharest (Ebrill 1886) eto'n siom i'r Bwlgariaid. Arhosodd Rwmelia yn rhan swyddogol o'r Ymerodraeth Ottoman. Llywodraethwr Cyffredinol Dwyrain Rwmelia fyddai Tywysog Bwlgaria o hyn ymlaen. Ym mis Awst 1886, gyda chefnogaeth Rwsia, diorseddwyd Alexander mewn coup d'état gan grŵp o swyddogion o'r fyddin.

Ferdinand

golygu

Etholwyd Ferdinand Saxe-Coburg-Gotha yn dywysog gan y Cynulliad Cenedlaethol ym mis Gorffennaf 1887. Roedd y Bwlgariaid wedi mynd yn groes i dymuniadau'r Rwsiaid, ac ni chydnabuwyd y penderfyniad gan Rwsia. Dewisodd y tywysog Stefan Stambolov, arweinydd y Blaid Rydfrydol Genedlaethol, fel ei brif weinidog. Yn wyneb agwedd Rwsia, edrychodd pethau'n wael i'r tywysog, ond daeth gwellhâd o gyfeiriad annisgwyl. Ar ddechrau 1889 darganfuwyd cynllwyn i lofruddio'r tywysog. Defnyddiodd Stambolov y sefyllfa i berswadio'r Otomaniaid i wneud consesiynau er mwyn cefnogi safle beryglus y tywysog. Estynasant rym yr egwlys Fwlgaraidd drwy roi tair esgobaeth ym Macedonia o dan ei rheolaeth. Roedd hyn yn boblogaidd dros ben ym Mwlgaria, fel roedd priodas Ferdinand a genedigaeth ei fab Boris ym 1893. Ar ôl ymddiswyddo Stambolov ym mis Mai 1894 yn sgîl sgandal rhywiol, daeth y ceidwadwr Konstantin Stoilov i rym. Tyfodd grym y tywysog yn ystod y 1890au. Erbyn hyn gallai orfodi ei brif weinidogion i ymddiswyddo fel y mynnodd, a galw etholiadau, a fyddai, fel rheol, rhoi'r canlyniad yn ôl dymuniad Ferdinand. Prif orchwyl Stoilov oedd ennill cydnabyddiaeth y tywysog gan y Rwsiaid. Daeth lwc i'w gymorth, pan fu farw Tsar Alexander III ym mis Tachwedd 1894. Roedd ei olynydd, Niclas II, yn fwy ystwyth. Erbyn hyn, roedd hi'n ymddangos y byddai'r Ymerodraeth Ottoman yn chwalu, a gwelodd Alexander yr angen i'r ddwy wlad gydweithredu er mwyn manteisio ar gwymp yr Ymerodraeth. Ond am gydnabod Ferdinand, mynnodd y tsar i etifedd y goron, ei fab Boris, ddod yn aelod o'r Egwlys Uniongred. Roedd hyn yn benderfyniad anodd i'r tywysog gan iddo fe a'i holl deulu fod yn Babyddion. Yn y diwedd, fe gytunodd, a bedyddiwyd Boris yn y ffydd Uniongred ar 14 Chwefror 1896. Daeth cydnabyddiaeth lawn o Ferdinand fel tywysog Bwlgaria ac Uwchlywodraethwr Dwyrain Rwmelia gan Rwsia, Twrci a'r holl brif bwerau yn fuan ar ôl hyn.

Gwrthryfel Ilinden a datganiad annibyniaeth

golygu

Ym mlynyddoedd cynnar yr 20g daeth y sefyllfa ym Macedonia yn ddwysach fyth. Roedd y trigolion Cristnogol brodorol yn dal o dan rheolaeth yr Ymerodraeth Ottoman, ac roedd mudiadau arfog wedi ymddangos yno i frwydro dros hunanlywodraeth. Ym mis Awst 1903, dechreuodd gwrthryfel gan un o'r mudiadau pleidiol i Fwlgaria, Mudiad Chwyldroadol Mewnol Macedonia (IMRO). Dechreuodd y gwrthryfel ar 20 Gorffennaf/2 Awst 1903 (Dydd Sant Elijah), ac felly cyfeirir ato fel 'Gwrthryfel Ilinden' (gair Bwlgareg am Ddydd Sant Elijah). Allai llywodraeth Bwlgaria ddim rhoi cymorth i'r gwrthryfelwyr yno heb ddioddef llid Rwsia, ac felly methodd y gwrthryfel, gan arwain, unwaith eto, at ddialedd yr Ymerodraeth Ottoman ar y boblogaeth leol. Erbyn 1908, roedd yr awyrgylch tu fewn i'r Ymerodraeth wedi newid yn llwyr. Roedd mudiad y Twrciaid Ifainc wedi cymryd awenau'r llywodraeth, gan addo uno a moderneiddio'r ymerodraeth, gan gynnwys y tiriogaethau yn y Balcanau, Dwyrain Rwmelia a Bosnia-Hertsegofina. Roedd eu hagwedd at Fwlgaria yn nawddoglyd, a gwaethygodd y berthynas rhwng y ddwy wlad. Defnyddiodd Bwlgaria streic gan weithwyr rheilffordd yn yr Ymerodraeth Ottoman i wladoli eiddo'r cwmni rheilffyrdd Otomanaidd, ac, ar 5 Hydref 1908, i ddatgan annibyniaeth lawn oddi wrth yr Ymerodraeth Ottoman. Y diwrnod wedyn, cyfunodd yr Awstriaid Fosnia-Hertsegofina ag Awstria-Hwngari. Daeth Ferdinand yn frenin (tsar) yn hytrach na thywysog.

Rhyfeloedd y Balcanau

golygu

Roedd ymddyrchafiad y Twrciaid Ifainc wedi cynddeiriogi'r Albaniaid hefyd. Gan fod y rhan fwyaf o Albaniaid yn Foslemaidd, roedden nhw wedi bod yn lled gefnogol i reolaeth yr Ymerodraeth Ottoman. Ond arweiniodd trethi newydd a gorfodaeth milwrol at derfysgoedd yn Albania pob haf o 1909 ymlaen. Yn y gyfamser, daeth Bwlgaria a Serbia yn agosach at ei gilydd, gan lofnodi cytundeb i ymosod ar yr Ymerodraeth a rhannu Macedonia rhyngddynt. Daeth cytundebau brysiog eraill gyda Gwlad Groeg. Gydag anhrefn unwaith eto yn Albania a Macedonia yn ystod haf 1912, perderfynodd gwledydd y Balcanau ddechrau'r rhyfel. Daeth cyhoeddiad rhyfel gan Montenegro at yr Ymerodraeth Ottoman ar 8 Hydref, a chan y gwelydd eraill deng niwrnod yn ddiweddarach. Roedd lluoedd Bwlgaria yn llwyddiannus dros ben. Erbyn wythnos gyntaf mis Tachwedd roedden nhw wedi gyrru byddin yr Ymerodraeth yn ôl bron i Gaergystennin, ond methodd â chipio'r ddinas ei hun. Ar ôl cadoediad ar 17 Tachwedd, cynhaliwyd trafodaethau yn Llundain gan arwain at Gytundeb Llundain (30 Mai 1913). Creodd y cytundeb wladwriaeth annibynnol newydd Albania, a gadawodd i'r gwledydd eraill rannu Macedonia fel y mynasant. Roedd y cytundebau cyn y rhyfel wedi bod yn annewlig iawn, a mynnodd Bwlgaria gadw'r diriogaeth roedd ei lluoedd wedi meddiannu yn ystod y rhyfel. Mynnodd Serbia a Gwlad Groeg rannu'r tir yn gyfartal. Doedd dim cytundeb yn bosib. Yn or-hyderus ar ôl llwyddiant ei byddin yn ystod y rhyfel cyntad, ymosododd Bwlgaria ar ei chyn-gynghreiriaid ddiwedd mis Mehefin. Ar ôl dwy wythnos, daeth Rwmania a'r Ymerodraeth Ottoman i mewn i'r rhyfel. Roedd ymosodiad Rwmania yn y gogledd yn arbennig o ddifrifol, gan nad oedd y ffiniau gogleddol wedi'u hamddiffyn. Gyda'r fyddin Rwmanaidd yn agosáu at Sofia, bu raid i Sofia dderbyn telerau'r gwledydd eraill. Yn y cytundebau a ddilynodd y rhyfel, Cytundeb Bucharest a Cytundeb Caergystennin, collodd Bwlgaria yr holl diriogaeth oedd hi wedi ennill yn ystod y rhyfel cyntaf heblaw am stribed o dir ar hyd arfordir y Môr Egeaidd.

Y Rhyfel Byd Cyntaf

golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Y cyfnod rhwng y ddau ryfel byd

golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Bwlgaria yn yr Ail Ryfel Byd

golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Bwlgaria gomiwnyddol

golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Bwlgaria ers cwymp Comiwnyddiaeth

golygu

    Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu at yr adran hon.

Cyfeiriadau

golygu
  • Crampton, R. J. 1997. A concise history of Bulgaria. Caergrawnt: Cambridge University Press.