Glesyn y sialc
Polyommatus coridon neu Lysandra coridon | |
---|---|
Dosbarthiad gwyddonol | |
Teyrnas: | Animalia |
Ffylwm: | Arthropoda |
Dosbarth: | |
Urdd: | Lepidoptera |
Teulu: | Lycaenidae |
Llwyth: | Polyommatini |
Genws: | Polyommatus |
Rhywogaeth: | P. coridon |
Enw deuenwol | |
Polyommatus coridon (Poda, 1761) | |
Cyfystyron | |
Lysandra coridon |
Glöyn byw sy'n perthyn i urdd y Lepidoptera yw glesyn y sialc, sy'n enw gwrywaidd; yr enw lluosog ydy gleision y sialc; yr enw Saesneg yw Chalkhill Blue, a'r enw gwyddonol yw Polyommatus coridon neu Lysandra coridon.[1][2]
Lliw
golyguMae gan yr oedolyn gwryw adenydd arianlas gydag ymylon du a gwyn. Mae'r fenyw yn dywyllach, ond mae ganddynt hwythau hefyd ymylon tebyg. Gellir dweud y gwahaniaeth rhyngddynt drwy edrych o dan eu hadenydd.
Cynefin
golyguYng ngwledydd Prydain, fe'i welir mewn iseldiroedd calchog sydd heb wrtaith arno. Mae'r oedolyn i'w weld rhwng Gorffennaf a Medi am gyfnod o rhwng 6-8 wythnos.
Bwyd
golyguMae'r siani flewog yn hoff iawn o Hippocrepis comosa (ffacbysen bedol).
Cyffredinol
golyguGellir dosbarthu'r pryfaid (neu'r Insecta) sy'n perthyn i'r Urdd a elwir yn Lepidoptera yn ddwy ran: y gloynnod byw a'r gwyfynod. Mae'r dosbarthiad hwn yn cynnwys mwy na 180,000 o rywogaethau mewn tua 128 o deuluoedd.
Wedi deor o'i ŵy mae glesyn y sialc yn lindysyn sy'n bwyta llawer o ddail, ac wedyn mae'n troi i fod yn chwiler. Daw allan o'r chwiler ar ôl rhai wythnosau. Mae pedwar cyfnod yng nghylchred bywyd glöynnod byw a gwyfynod: ŵy, lindysyn, chwiler ac oedolyn.
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ Gwefan Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Cyngor Cefn Gwlad Cymru. Adalwyd ar 29 Chwefror 2012.
- ↑ Geiriadur enwau a thermau ar Wefan Llên Natur. Adalwyd 13/12/2012.
- Butterfly Conservation (undated) Butterfly species data: Chalkhill Blue. [1] Archifwyd 2006-10-12 yn y Peiriant Wayback (Accessed 2 Nov 2006)
- Emmet, A.M. (1990) Lysandra coridon (Poda). Pages 160-162 in The Moths and Butterflies of Great Britain and Ireland Vol. 7 Part 1 (ed. A.M. Emmet and J. Heath). Harley Books, Colchester, UK.
- Tomlinson, D. and R. Still (2002) Britain's Butterflies. WildGuides, Old Basing, UK.