Pompeu Fabra i Poch
Athronydd, geiriadurwr a pheiriannydd Catalan oedd Pompeu Fabra i Poch (20 Chwefror 1868 - 25 Rhagfyr 1948) a roddodd drefn ar y Gatalaneg. Datblygodd orgraff yr iaith i fod yr hyn ydyw heddiw.
Pompeu Fabra i Poch | |
---|---|
Ganwyd | 20 Chwefror 1868 Gràcia, La Salut |
Bu farw | 25 Rhagfyr 1948 Prades |
Man preswyl | Prades, Barcelona, Badalona |
Dinasyddiaeth | Catalwnia |
Galwedigaeth | ieithydd, ieithegydd, peiriannydd, academydd, llenor, cemegydd, chwaraewr tenis, Rhufeinydd |
Swydd | president of the Institut d'Estudis Catalans, rheithor, Gweinidog yn Llywodraeth Catalwnia, cadeirydd, cadeirydd, president of PEN català, president of PEN català |
Cyflogwr | |
Adnabyddus am | Diccionari General de la Llengua Catalana, Normes ortogràfiques |
Tad | Josep Fabra i Roca |
Priod | Dolors Mestre i Climent |
Plant | Carola Fabra i Mestre, Q59324340, Dolors Fabra i Mestre |
Perthnasau | Francesc d'Assís Galí, Elisabeth Galí i Camprubí |
Gwobr/au | doctor honoris causa from the University of Toulouse |
Chwaraeon | |
llofnod | |
Yn ôl Josep Pla Fabra oedd y Catalan pwysicaf yr 20g, oherwydd ei lwyddiant fel ieithydd yn ailbobi'r iaith i'r hyn ydyw heddiw.[1]
Bywgraffiad
golyguGanwyd Pompeu Fabra yn 1868 yn rhif 32 yn stryd 'Carrer de la Mare de Déu de la Salut' yn yr hen bentref Gràcia, ac wedyn yn stryd Gran de Gràcia. Roedd yn fab i Josep Fabra i Roca a Carolina Poch i Martí, yr ifancaf o'r plant. Roedd ganddo ddeuddeg o frodyr a chwiorydd, ond bu farw deg ohonynt ac dim ond ef a dwy chwaer a dyfodd yn oedolion. Pan oedd yn bum mlwydd oed (1873) cyhoeddwyd gweriniarth cyntaf Sbaen, roedd ei dad yn weriniaethol ac fe'i etholwyd yn faer y dref. Er bod y teulu wedi symud i Barcelona pan oedd yn 6 mlwydd oed, roedd pob amser yn falch o'i wreiddiau, a'i gysylltiad â Gracia.[2]
Dechrau´r astudiaethau
golyguAstudiodd Fabra peirianneg ddiwydiannol yn y brifysgol a biloleg yn ei amser ei hun. Yn 1891 roedd L'Avenç wedi cyhoeddi y llyfr gramadeg 'Ensayo de gramática del catalán valenciano moderno'. Roedd y cyhoeddiad yn cynnwys am y tro cyntaf sillafu ffonetig.
Yn 1902 gan fod Fabra wedi llwyddo yn ei arholiadau cemeg mynychodd 'LEscola d'enginyers de Bilbao'. Bu'n byw yn Bilbo (Bilbao) nes iddo farw yn 1912. Er gwaethaf y pellter rhyngddo ef a'i gartref, gweithiodd yn galed ar ei astudiaethau, yn enwedig mewn bioleg.
Yn 1906 cymerodd ran yn y Gyngres Ryngwladol o´r iaith Gatalanaidd er mwyn trafod sillafu Catalan. Oherwydd ei enw da a'i allu arbennig, gofynnodd Prat de la Riba iddo arwain prosiect safoni'r Catalaneg. Felly dychwelodd i Catalwnia a phenodwyd ef yn sefydlydd Adran Ieithyddol yr IEC a hefyd yn 'càtedra' yn yr 'Estudis Universitaris Catalans'. Yn 1912 , cyhoeddodd Gramática de la lengua catalana yn Sbaeneg. Flwyddyn wedyn cyhoeddodd Rheolau Sillafu (1913). Bu llawer o ddadlau ynghylch y cyhoeddiad yma. Roedd y gwaith yma yn parchu ynganiad, y dafodiaith, a tharddiad geiriau.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ lletres.net; Gwefan Gatalaneg
- ↑ Pompeu Fabra, filòleg il·lustre... i excursionista;[dolen farw] 19 Ebrill 2012; gol. El Periódico de Catalunya.