Rhaeadr y Benglog
Mae Rhaeadr y Benglog yn rhan o Nant y Benglog[1] sy'n llifo o Lyn Ogwen a Llyn Idwal ac yna'n ffurfio Nant Ffrancon ac yn ei thro, Afon Ogwen. Daw enw'r rhaeadr o graig ar ffurf penglog.[2] Mae'r rhaeadr ger Bwthyn Ogwen yng nghymuned Bethesda, Gwynedd.
Math | rhaeadr |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Sir | Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Cyfesurynnau | 53.125202°N 4.022535°W |
Yn syth ar ôl gadael pen gorllewinol Llyn Ogwen, mae Afon Ogwen yn creu Rhaeadr Ogwen wrth ddisgyn dros greigiau sy'n estyniad o graig Ben y Benglog. Ar ochr arall yr afon, sef yr ochr ddwyreiniol, mae creigiau Pen yr Ole Wen yn codi'n syrth. I ddechrau, mae'r creigiau ar wely'r afon yn weddol gwastad ac er bod y dŵr yn wyn nid yw'n creu rhaeadr fel y cyfryw, ond wrth lifo dan Bont y Benglog, sy'n cludo'r briffordd A5 dros yr afon, mae'r afon yn disgyn dros gyfres o risiau yn y graig sy'n creu'r rhaeadr.
Ar waelod y rhaeadr mae'r afon yn ymwahanu yn sawl ffrwd ewynnog cyn cyrraedd tir mwy gwastad yn is i lawr a llifo yn unedig eto i lawr dyffryn Nant Ffrancon i gyfeiriad Bethesda.
Mae'r rhaeadr hon wedi tynnu sylw teithwyr ers y 18g oherwydd yr olygfa "Ramantaidd" gyda chopaon Tryfan a'r Glyderau yn gefndir iddi.
Cyfeiriadau
golygu- ↑ Y Brython: sef Cylchgrawn llenyddol Cymru. 1863. t. 83.
- ↑ Forgrave, Andrew (2021-05-09). "Not just Snowdon - 31 places in North Wales whose original names have been eroded by English". North Wales Live (yn Saesneg). Cyrchwyd 2023-11-15.