Pen yr Ole Wen
Mae Pen yr Ole Wen yn fynydd yn y Carneddau yn Eryri. Mae'r ystyr yr enw'n amlwg pan ystyrir y gair 'goleddf' ('yr oleddf') a goleddf serth y mynydd, gyda rhai llwybrau'n 1:2.
Math | mynydd, copa |
---|---|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Parc Cenedlaethol Eryri |
Sir | Conwy, Gwynedd |
Gwlad | Cymru |
Uwch y môr | 978 metr |
Cyfesurynnau | 53.137665°N 4.010657°W |
Cod OS | SH6559861947 |
Manylion | |
Amlygrwydd | 45 metr |
Rhiant gopa | Carnedd Dafydd |
Cadwyn fynydd | Y Carneddau |
Daearyddiaeth
golyguFel y rhan fwyaf o fynyddoedd y Carneddau, mae'n fynydd mawr, moel. Mae'r ffin rhwng Gwynedd a Sir Conwy yn mynd tros y copa. Pen yr Ole Wen yw'r pellaf i'r de-orllewin o fynyddoedd y Carneddau. Wrth ei droed mae Llyn Ogwen a ffordd yr A5, a'r ochr arall i'r llyn mae mynyddoedd y Glyderau yn dechrau. I'r gogledd-ddwyrain mae'r nesaf o gadwyn y Carneddau, Carnedd Dafydd.
Llwybrau
golyguGellir ei ddringo o ochr gogleddol Llyn Ogwen, gan ddilyn llwybr sy'n cychwyn gerllaw'r fan lle mae Afon Ogwen yn gadael y llyn. Mae'r llwybr yma yn eithriadol o serth, gyda thua 675 m o dringo mewn tua 1.5 km, graddfa o bron 1 mewn 2 ar gyfartaledd. Dull ychydig yn haws yw cychwyn ger hen ffermdy Tal-y-Llyn Ogwen ger pen dwyreiniol y llyn, a dilyn Afon Lloer i fyny'r llethrau nes daw llyn Ffynnon Lloer i'r golwg. O'r fan hyn mae llwybr yn arwain i'r chwith i fyny'r grib i gopa Pen yr Ole Wen. Gellir hefyd ei ddringo trwy ddringo un o'r copaon eraill yn y Carneddau a cherdded ar hyd y grib.
-
Pen yr Ole Wen ar y gornel rhwng Llyn Ogwen (ar y dde) a Nant Ffrancon ar y chwith i'r llun
-
Llyn Idwal gyda Phen yr Ole Wen y tu ôl iddo
-
Nant Ffrancon, gyda Phen yr Ole Wen ar y dde a Mynydd Perfedd ar y chwith
Gweler hefyd
golyguDolennau allanol
golygu- Clwb Mynydda Cymru
- Lleoliad ar wefan Streetmap Archifwyd 2016-03-05 yn y Peiriant Wayback
- Lleoliad ar wefan Get-a-map[dolen farw]
Y pedwar copa ar ddeg |
---|
Yr Wyddfa a'i chriw:
Yr Wyddfa (1085m) · Garnedd Ugain (1065m) · Crib Goch (923m) |
Y Glyderau:
Elidir Fawr (924m) · Y Garn (947m) · Glyder Fawr (999m) · Glyder Fach (994m) · Tryfan (915m) |
Y Carneddau:
Pen yr Ole Wen (978m) · Carnedd Dafydd (1044m) · Carnedd Llywelyn (1064m) · Yr Elen (962m) · Foel Grach (976m) · Carnedd Gwenllian (Garnedd Uchaf) (926m) · Foel-fras (942m) |