Un o rywogaethau ffuglennol y fasnachfraint Pokémon a greuwyd gan Satoshi Tajiri yw Porygon (Japaneg: ポリゴン - Porigon). Mae Porygon yn un o'r cymeriadau mwyaf adnabyddadwy o fewn y gyfres, o ganlyniad i'w rôl bwysig yn yr anime, y manga a'r gemau fideo.

Porygon

Cymeriad

golygu

Daw'r enw Porygon o'r gair Saesneg polygon a'r gair Japaneg origami. Efallai daw'r enw o'r ystrydeb fod pobl Japaneg yn ynganu'r llythyren 'R' fel 'L' felly bydd y gair polygon yn swnio fel porygon. Cafodd Porygon ei ddylunio gan Ken Sugimori (ffrind agos i Satoshi Tajiri, crëwr Pokémon). Nid yw'n cael ei leisio yn yr anime gan fod y cymeriad yn hollol fudan.

Ffisioleg

golygu

Mae Porygon (fel pob Pokémon mae'r enw yn lluosog ac unigol) yn Pokémon normal sydd yn edrych fel garan neu alarch origami pinc a glas. Cafodd Porygon ei greu mewn labordy gan gwyddonwyr er mwyn archwilio'r gofod. Mae ganddi nhw llygaid mawr llygadrwth a nid oes rhaid i nhw anadlu. Mae gan Porygon y pŵer i ddidoli eu bennau ac eu aelodau er mwyn ddianc o ysglyfaethwyr. Maen nhw'n rheoli tân, trydan ac iâ wrth hela neu ymladd, a weithiau bydd nhw'n troi anweladwy er mwyn rhagodi ei wrthwynebwyr.

Ymddygiad

golygu

Mae Porygon yn hoff iawn o deithio rhwng cyfrifiaduron, y wê ac archwilio llefydd rhy beryglus i bodau dynol.

Cynefin

golygu

Oherwydd eu fod yn artiffisial, maen nhw'n cael eu ffeindio mewn labordai, cyfrifiaduron a swyddfeydd. Ond, caiff Porygon weithiau eu ffeindio fel gwobrau mewn casinos neu yn gwyllt oherwydd diengyd.

Mae Porygon yn hollol artiffisial felly nid oes rhaid iddyn nhw fwyta.

Effaith Diwyllianol

golygu
 
Porygon a ffrindiau yn nofio trwy'r wê yn yr anime

Serenodd Porygon mewn un episod o'r manga yn unig (でんのうせんしポリゴン - Computer Soldier Porygon). Ar yr unfed ar bymtheg o Ragfyr 1997, wrth gwylio'r episod dioddefodd tua 700 plant Japaneg o trawiadau diolch i effaith strôb flachiol wrth i Pikachu ymosod ar Porygon. Ers heddiw, nid yw'r episod 'di cael ei ail-ddangos ar teledu a nid yw'n ar gael ar fideo neu DVD o gwbwl.

Ieithoedd Gwahanol

golygu