Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr

Cynghrair rhwng lesbiaid a dynion hoyw a ddaeth ynghyd er mwyn cefnogi Undeb Cenedlaethol y Glowyr yn y Deyrnas Unedig yn ystod Streic y Glowyr yn 1984-85 oedd Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr (LHCG). Yn gyfangwbl roedd unarddeg grŵp yn y Deyrnas Unedig, gyda'r mwyaf ohonynt yn Llundain.

Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr

Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr, 2015.
Lesbiaid a Hoywon yn Cefnogi'r Glowyr, 2015.

Sefydlwyd1984-06-30
SefydlyddMark Ashton, Mike Jackson
Gwefanhttp://lgsm.org/

Hanes golygu

Roedd llywodraeth Thatcher wedi rhewi coffrau Undeb Cenedlaethol y Glowyr a olygai nad oedd diben i gefnogwyr anfon cyfraniadau at yr undeb cenedlaethol. Fel ymateb i hyn, anogwyd grwpiau ledled y Deyrnas Unedig i "efeillio'n" uniongyrchol gyda chymunedau glofaol yn Lloegr, yr Alban ac yng Nghymru. Gefeilliwyd grŵp LHCG Llundain, a oedd yn cyfarfod mewn lleoliadau amrywiol yn cynnwys y siop lyfrau Gay's the Word, gyda Grwpiau Cefnogi Glowyr Chwm Nedd, Dulais[1] a Chwm Tawe. Yn ogystal â chodi oddeutu £20,000 ar gyfer y teuluoedd a oedd ar streic, trefnwyd ymweliadau â'i gilydd. Y digwyddiad a gododd fwyaf o arian oedd "Pits and Perverts" yn yr Electric Ballroom yn Camden Town, Llundain ar 10 Rhagfyr, 1984[2][3] pan berfformiodd Bronski Beat a'i phrif leisydd Jimmy Somerville. Defnyddiwyd enw'r digwyddiad yn wreiddiol fel pennawd ym mhapur newydd Rupert Murdoch The Sun; yn unol â safbwynt homoffobig a gwrth-streic y papur. Ei fwriad oedd tanseilio'r glowyr ond cafodd effaith cwbl wahanol, gyda'r gymuned LHDT yn defnyddio'r term "perverts" fel symbol herfeiddiad ac undod yn erbyn cyfeillion pwerus Margaret Thatcher yn y cyfryngau.

Daeth cydweithrediad yr undebau llafur a'r LHDT yn drobwynt hefyd yn hawliau LHDT yn y Deyrnas Unedig.[4] Dechreuodd grwpiau'r glowyr gefnogi, hyrwyddo a chymryd rhan mewn digwyddiadau balchder hoyw ledled y Deyrnas Unedig;[4] ac yng nghynhadledd y Blaid Lafur yn Bournemouth yn 1985, pasiwyd penderfyniad i gefnogi hawliau cydraddoldeb LHDT am y tro cyntaf yn sgil pleidleisio bloc gan Undeb Cenedlaethol y Glowyr; roedd grwpiau glowyr hefyd ymysg prif gefnogwyr y gymuned LDHT yn yr ymgyrch yn 1988 yn erbyn Adran 28.[4]

Cedwir archif o waith y grŵp o Lundain yn y People's History Museum ym Manceinion, Lloegr. Ceir ynddo gofnodion o'r cyfarfodydd wythnosol, gohebiaeth, toriadau o'r papurau newydd, deunydd cyhoeddusrwydd, bathodynnau enamel, ffotograffau a'r faner.

Dramateiddiwyd un o'r cynghreiriau cyntaf gyda chymuned lofaol Gymreig yn y ffilm Pride o 2014, a gyfarwyddwyd gan Matthew Warchus.[5][6][7]

Cyfeiriadau golygu

Llyfryddiaeth golygu

Cysylltiadau allanol golygu