Gweler hefyd: Dinasoedd Cymru

Ers 1955 Caerdydd yw prifddinas Cymru yn swyddogol.

Prifddinasoedd hanesyddol

golygu

Yn hanesyddol cysylltir mannau eraill â statws prifddinas Cymru:

Dan reolaeth Seisnig

golygu

Llwydlo, Lloegr, oedd sedd Dominiwn a Thywysogaeth Cymru a'i Mers o 1473 hyd 1689.

Awgrymmiadau

golygu

Yn 1895 awgrymodd Emrys ap Iwan mai rhywle yn y Canolbarth y dylai'r brifddinas fod.[1] Dywedodd:

Ym mleynaf, fe ddyle’r brif ddinas fod yn agos i gyffinia De a Gogledd, sef o fewn y dalayth a elwid gynt yn Bowys,- dyweder, y wlad rhwng yr afon Mawddach a’r afon Ystwyth, ac oddi rhyngddyn hwy tua’r dwyrain, gan gynnwys Croysoswallt, Pengwern (Shrewsbury), a Llwydlo (Ludlow), trefi oydd yn perthyn unwaith i dalayth Powys, ac a ddylen fod yn perthyn iddi etto.
Yn ail, fe ddyle’r brif ddinas fod nid yn unig ynghanolbarth Cymru, ond ond hefyd mewn ardal Gymreigaidd ei hiaith a’i defoda, ac heb fod yn neppell o’r mann lle y may pedair tafodiaith Cymru, sef tafodiaith Gwynedd, tafodiaith Powys, tafodiaith Gwent, a thafodiaith Dyfed, yn ymgyfarfod.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan Cymru Catalonia; PRIF DDINAS I GYMRU. (Papur a ddarllenwyd i Gymdeithas Lenyddol Parkfield, Penbedw) Y Geninen. Rhif 2, Cyfrol XIII. Ebrill 1895. Tudalennau 81-85
  Eginyn erthygl sydd uchod am Gymru. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.