Prifysgol Martin Luther Halle-Wittenberg

(Ailgyfeiriad o Prifysgol Halle)

Prifysgol ymchwil gyhoeddus yn yr Almaen yw Prifysgol Martin Luther Halle-Wittenberg (Almaeneg: Lua error in Modiwl:Lang at line 15: attempt to index field 'lang_name_table' (a nil value).) a leolir yn ninasoedd Halle (Saale) a Lutherstadt Wittenberg yn nhalaith Sachsen-Anhalt. Fe'i sefydlwyd ym 1817 drwy gyfuniad prifysgolion Halle ac Wittenberg.

Prifysgol Halle-Wittenberg
ArwyddairZukunft mit Tradition Edit this on Wikidata
Mathprifysgol gyhoeddus, comprehensive university Edit this on Wikidata
Enwyd ar ôlMartin Luther Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 18 Awst 1502 (1)
  • 12 Ebrill 1817 (3) Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirHalle (Saale), Sachsen-Anhalt Edit this on Wikidata
GwladBaner Yr Almaen Yr Almaen
Cyfesurynnau51.4864°N 11.9689°E Edit this on Wikidata
Map

Sefydlwyd Prifysgol Wittenberg ym 1502 gan Ffredrig III, Etholydd Sachsen, i hyrwyddo addysg ddyneiddiol. Daeth Martin Luther i Wittenberg ym 1508 a Philipp Melanchthon ym 1518, a datblygodd y brifysgol yn ganolfan i'r Diwygiad Protestannaidd.

Sefydlwyd Prifysgol Halle ym 1694 gan Ffredrig III, Etholydd Brandenburg (yn ddiweddarach Brenin Prwsia), fel sefydliad addysg ar gyfer yr Eglwys Lutheraidd. Er iddi gael ei chreu at ddiben grefyddol, yn y 18g rhoes y gorau i uniongrededd a daeth Halle yn amlwg fel canolfan i resymoliaeth ac ysgolheictod gwrthrychol, y dull gwyddonol, a rhyddid academaidd. Yn hytrach na'r hen ddull o ddysgu drwy destunau canonaidd, defnyddiwyd darlithoedd i gyflwyno'r pwnc yn systematig a seminarau i fyfyrwyr ddadlau gyda'i gilydd. Iaith y werin, Almaeneg, oedd cyfrwng y dysgu yn lle'r Lladin. Mabwysiadwyd dulliau rhyddfrydol Halle gan Brifysgol Göttingen, ac yn ddiweddarach gan holl brifysgolion yr Almaen.[1]

Caewyd Prifysgol Wittenberg ym 1813 yn ystod Rhyfeloedd Napoleon. Rhoddwyd tref Wittenberg i Deyrnas Prwsia gan Gyngres Fienna ym 1815. Nid oedd gan lywodraeth Prwsia ddigon o arian i gynnal y ddwy brifysgol ar wahân, ac felly cyfunwyd Halle ac Wittenberg ym 1817.

Fe'i ailenwyd yn Brifysgol Martin Luther Halle-Wittenberg ar 10 Tachwedd 1933, yn ystod y cyfnod Natsïaidd. Dan reolaeth Gweriniaeth Ddemocrataidd yr Almaen, dylanwadwyd ar y brifysgol yn gryf gan system addysg yr Undeb Sofietaidd, er enghraifft drwy ffafrio myfyrwyr gyda phrofiad gwaith neu wasanaeth milwrol, a diddymu ffïoedd dysgu. Aildrefnwyd y brifysgol ym 1968 yn ôl adrannau ar sail pynciau.

Cyfeiriadau

golygu