Rhyddid academaidd

Yr hawl i academyddion, athrawon, ac ymchwilwyr i addysgu, i astudio a gwneud ymchwil, i gynnal trafodaethau, i fynegi barn, ac i gyhoeddi gwaith ysgolheigaidd yw rhyddid academaidd. Mae'n bwnc hynod o bwysig mewn prifysgolion a cholegau. Yn ôl egwyddor rhyddid academaidd, disgwylir bod yr ysgolhaig yn gallu gwneud ei waith a mynegi ei gasgliadau heb gael ei ddiswyddo, nac i'w waith gael ei wahardd neu ei sensora. Gall y gyfraith, rheoliadau sefydliadau addysg, awdurdodau crefyddol, a barn y cyhoedd i gyd effeithio ar ryddid academaidd.

Diffiniad a phwrpas golygu

Prif elfennau rhyddid academaidd yw'r hawliau gan yr addysgydd i ymchwilio i unrhyw bwnc sydd yn tynnu sylw ei feddwl, i gyflwyno'i gasgliadau i'w fyfyrwyr, ei gydacademyddion, ac eraill, i gyhoeddi ei waith heb ymyrraeth na sensoriaeth, ac i addysgu mewn modd priodol a phroffesiynol yn ôl ei dybiaeth ef. Fel arfer, sonir am ryddid academaidd yn nhermau'r ysgolhaig proffesiynol, fel arfer athrawon ac ymchwilwyr addysg uwch, ond gellir hefyd cymhwyso'r hawl hon at fyfyrwyr israddedig ac uwchraddedig. Dadleuir bod gan y myfyriwr yr hawl i astudio pynciau sydd o ddiddordeb iddo ac i ddod i gasgliadau ei hunan ac i fynegi ei farn.[1]

Nid hawliau'r unigolyn yw'r unig ystyriaeth o ryddid academaidd. Dadleuir taw prif gyfiawnhâd y fath ryddid ydy ei fudd cymdeithasol: mae'n sicrhau proses addysg agored sydd yn gwella'r wybodaeth gyfan sydd yn hysbys i'r ddynolryw. Yn ôl R. Gwynedd Parry, rhyddid academaidd ydy'r gwerth sylfaenol pennaf "sy'n hanfodol i ffyniant unrhyw ddisgyblaeth o werth, mewn unrhyw brifysgol o werth ac mewn unrhyw wlad ddatblygedig", gan fod y brifysgol yn "sefydliad sy'n ymofyn gwybodaeth a doethineb yn ysbryd rhyddid a gonestrwydd".[2]

Cyfyngiadau ar ryddid academaidd golygu

Nid yw rhyddid acadmaidd yn gwbl diddiwedd, gan fod y gyfraith yn gweithredu ar ddisgwrs academaidd a chyhoeddiadau ysgolheigaidd yn yr achosion mae'n cyfyngu ar anlladrwydd, pornograffi, ac enllib. Mae diwylliant y byd academaidd hefyd yn effeithio ar ryddid academaidd. Yn aml, rhoddir mwy o ryddid i'r unigolyn sydd wedi bod yn ei swydd am gyfnod hir, ac i'r rhai sydd yn addysgu ar lefel uwch ac mewn sefydliadau o fri. Dyma pam nad oes fawr o ryddid academaidd yn yr ysgol o gymharu â'r brifysgol. Mae myfyrwyr hefyd yn ennill mwy o ryddid wrth iddynt ddod yn eu blaen yn y system addysg, o'r disgybl yn yr ysgol i'r myfyriwr israddedig, i'r myfyrwyr sy'n astudio am raddau meistr a doethuriaethau. Cyfyngir ar ryddid academaidd yn aml mewn adegau rhyfel, dirwasgiad economaidd, ac ansefydlogrwydd gwleidyddol.[1]

Hanes golygu

Gellir olrhain gwreiddiau rhyddid academaidd i brifysgolion Catholig Ewrop yn yr Oesoedd Canol. Amddiffynwyd hunan-weinyddiaeth y prifysgolion gan fwlau'r Pab a siarterau brenhinol, a meddai'r sefydliadau ar yr hawl i drefnu cyfadrannau, rheoli pwy oedd yn cael eu derbyn, a gosod safonau graddio. Er yr oeddynt yn gorfforaethau annibynnol, sefydliadau crefyddol oedd y prifysgolion ac yr oedd ysgolheigion yn ymdrin â phopeth o safbwynt Cristnogol, a fel rheol yn ôl y dull ysgolaidd.

Yn sgil twf y genedl-wladwriaeth yn yr 17g a'r 18g, pwysai llywodraethau ar yr hyn oedd i'w ddysgu yn y prifysgolion. Bu ambell wlad yng Ngorllewin Ewrop yn annog rhyddid academaidd, er enghraifft Prifysgol Leiden yn yr Iseldiroedd a phrifysgolion Göttingen a Berlin yn yr Almaen, ac ym Merlin arloesai egwyddorion Lehrfreiheit ("yr hawl i addysgu") a Lernfreiheit ("yr hawl i ddysgu").

Yn yr 20g, cyfyngwyd ar ryddid academaidd gan lywodraethau totalitaraidd ac awdurdodaidd. Er i draddodiad cryf o ryddid academaidd ddatblygu yn yr Almaen yn y 18g a'r 19g, cyfyngwyd arno'n helaeth yng nghyfnod y llywodraeth Natsïaidd (1933–45). Dirywiodd rhyddid academaidd hefyd yn y gwledydd comiwnyddol, yn bennaf yn y gwyddorau cymdeithas, y celfyddydau, a'r dyniaethau. Bu rhywfaint o ryddid gan brifysgolion ym mathemateg, y gwyddorau ffisegol a biolegol, ieithyddiaeth, ac archaeoleg.

Datblygiadau cyfoes golygu

Yn y 1980au a'r 1990au, mabwysiadwyd speech codes gan nifer o brifysgolion Unol Daleithiau America, i wahardd iaith dramgwyddus a sarhaus ar sail hil, ethnigrwydd, rhyw, crefydd, cyfeiriadedd rhywiol, ac anabledd. Mae nifer o geidwadwyr a rhyddfrydwyr wedi beirniadu'r fath "gywirdeb gwleidyddol" am darfu ar ryddid mynegiant athrawon a myfyrwyr, ac am danseilio rhyddid academaidd. Yn y 2010au ailflodeuai arferion tebyg mewn nifer o brifysgolion yr Unol Daleithiau, Canada, a'r Deyrnas Unedig, megis no-platforming, safe spaces, a trigger warnings, ac mae rhai yn ystyried y rhain yn gyfyngiadau ar ryddid academaidd.

Ers y 1990au, mae technoleg gwybodaeth a'r rhyngrwyd yn enwedig wedi galluogi dysgu o bell ar raddfa fawr, gan gynnwys cyrsiau agored enfawr ar-lein. Mae'r datblygiadau hyn wedi codi cwestiynau newydd ynghylch rhyddid academaidd, yn bennaf parthed y cyfrifoldebau a'r swyddogaethau sydd gan ysgolheigion sydd yn cynllunio'r fath "gyrsiau parod".[1]

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 (Saesneg) Academic freedom. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 18 Hydref 2018.
  2. R. Gwynedd Parry, Cymru'r Gyfraith: Sylwadau ar Hunaniaeth Gyfreithiol (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 2012).

Dolenni allanol golygu