Mae adfeilion Priordy Ewenni yn gorwedd ger pentref Ewenni, Bro Morgannwg, Cymru.

Priordy Ewenni
Mathpriordy, safle eglwysig amddiffynedig Edit this on Wikidata
Sefydlwyd
  • 12 g Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.488565°N 3.567857°W Edit this on Wikidata
Rheolir ganCadw Edit this on Wikidata
Map
PerchnogaethCadw Edit this on Wikidata

Hanes Golygu

Mae tystiolaeth a geir o'r meini cofeb cyn-Normanaidd sydd i'w gweld yno heddiw yn awgrymu'n gryf fod sefydliad eglwysig Cymreig yn bodoli ar y safle cyn i'r Normaniaid gyrraedd Cymru. Un o'r Normaniaid hynny oedd William de Londres, arglwydd Castell Ogwr. Rhoddodd eglwys Sant Fihangel, a oedd yn sefyll ar y safle, i Abaty Caerloyw.

Yn 1141 codwyd priordy Benedictaidd yno gyda phrior a deuddeg mynach. Graddol fu ei dyfiant. Mae Gerallt Gymro yn cyfeirio ato fel "cell fechan" ar ei daith yn 1188, ar ei ffordd o Landaf i Abaty Margam. Yn 1291 ei werth oedd £56 yn unig. Pan farwodd allan teulu de Londres, unig noddwyr y priordy, yn y 14g suddodd y priordy mewn tlodi.

Erbyn iddo gael ei diddymu yn 1535 dim ond £59 oedd ei werth. Daeth yn eiddo i Edward Carne, uchelwr lleol a arosodd yn dryw i'r Eglwys Gatholig ac a fyddai yn ddiweddarach yn mynd i Rufain ar ran Mari Tudur i gyflwyno i'r Pab ymostyngiad ei theyrnas.

 
Croesfa Priordy Ewenni, dyfrlliw (tua 1797) gan J.M.W. Turner

Yr adeilad Golygu

Ychwanegwyd adeiladau'r priordy i'r eglwys a fodolai eisoes. Codwyd mur amddiffynnol o gwmpas y safle, a oedd braidd yn bell o gysgod amddiffynnol Castell Ogwr.

Tua'r flwyddyn 1800 datgymalwyd rhannau sylweddol o'r adeiladau preswyliol a dim ond y rhannau cysylltiedig â'r eglwys ei hun sydd ar y safle heddiw.

Cadwraeth Golygu

Mae'r hen eglwys a gweddillion y priordy gerllaw bellach yng ngofal Cadw ac ar agor i'r cyhoedd.

Llyfryddiaeth Golygu

  • Rod Cooper, Abbeys and Priories of Wales (Caerdydd, 1995)