Ewenni

pentref a chymuned ym Mro Morgannwg

Pentref a chymuned ym mwrdeistref sirol Bro Morgannwg, Cymru, yw Ewenni (Saesneg: Ewenny). Saif ar lan afon Ewenni. Y dref agosaf yw Pen-y-bont ar Ogwr, sy'n 3.1 km (1.9 milltir) i ffwrdd. Mae'r pentref yn enwog am adfeilion yr hen briordy a'i heglwys hynafol.

Ewenni
Mathpentref, cymuned Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirBro Morgannwg Edit this on Wikidata
GwladBaner Cymru Cymru
Cyfesurynnau51.4822°N 3.5769°W Edit this on Wikidata
Cod SYGW04000654 Edit this on Wikidata
Gwleidyddiaeth
AC/auJane Hutt (Llafur)
AS/auAlun Cairns (Ceidwadwr)
Map
Priordy Ewenni

Tyfodd y pentref o gwmpas Priordy Ewenni a'r eglwys ynghlwm wrtho. Codwyd Eglwys Sant Fihangel ar y dull Normanaidd yn y 12g gan yr arglwydd lleol William de Londres.

Bu'r ardal yn enwog am ei diwydiant crochenwaith, sy'n dyddio i 1427 o leiaf. Tyfodd yno oherwydd y cyflenwad lleol o glai i wneud crochenwaith a phriddlestri coch a gwaith ceramig, digon o garreg i wneud yr odynnau a glo i'w tanio. Sefydlwyd Crochendy Ewenni yno yn y flwyddyn 1610 ac mae'n dal i weithio.

Dywedir fod ysbryd yr Arglwyddes Wen yn aflonyddu cae a lôn ger y priordy ers yr Oesoedd Canol.

Ceir gwarchodfa natur Coed-y-Bwl gerllaw, lle ceir hyd at chwarter miliwn cennin pedr "gwyllt" yn tyfu; cawsant eu plannu yno yn y 19g gan Mrs Nicholl, Merthyr Mawr. Ceir pont hynafol ger y gwarchodfa a godwyd gan y Rhufeiniaid yn ôl traddodiad (mae'n fwy tebygol ei bod yn ganoloesol).

Brodor o Ewenni oedd y llenor Edward Mathews, awdur Hanes Siencyn Penhydd (1850).


Cyfrifiad 2011 Golygu

Yng nghyfrifiad 2011 roedd y sefyllfa fel a ganlyn:[1][2][3][4]

Cyfrifiad 2011
Poblogaeth cymuned Ewenni (pob oed) (768)
  
100%
Y nifer dros 3 oed sy'n siarad Cymraeg (Ewenni) (126)
  
16.8%
:Y ganran drwy Gymru
  
19%
Y nifer sydd wedi'u geni yng Nghymru (Ewenni) (554)
  
72.1%
:Y ganran drwy Gymru
  
73%
Y nifer mewn gwaith rhwng 16 a 74 oed(Ewenni) (107)
  
34.6%
:Y ganran drwy Gymru
  
67.1%

Cyfeiriadau Golygu

  1. "Ystadegau Allweddol ar gyfer Cymru". Swyddfa Ystadegau Gwladol. Cyrchwyd 2012-12-12.. Poblogaeth: ks101ew. Iaith: ks207wa - noder mae'r canran hwn yn seiliedig ar y nier sy'n siarad Cymraeg allan o'r niferoedd sydd dros 3 oed. Ganwyd yng Nghymru: ks204ew. Diweithdra: ks106ew; adalwyd 16 Mai 2013.
  2. Canran y diwaith drwy Gymru; Golwg 360; 11 Rhagfyr 2012; adalwyd 16 Mai 2013
  3. Gwefan Swyddfa Ystadegau Gwladol; Niferoedd Di-waith rhwng 16 a 74 oed; adalwyd 16 Mai 2013.
  4. Gwefan Llywodraeth Cymru; Ystadegau Economaidd Allweddol, Tachwedd 2010; Mae'r gyfradd gyflogaeth ymhlith pobl 16 – 64 oed yng Nghymru yn 67.1 y cant.; adalwyd 31 Mai 2013[dolen marw]

Dolenni allanol Golygu