Agor y brif ddewislen

Proterosöig

(Ailgyfeiriad oddi wrth Proterozoig)
Stromatolites
De America
Gorllewin Namibia

3ydd israniad y linell-amser ddaearegol yw'r Proterosöig a'r eon olaf o uwcheon y Cyn-Gambriaidd. Mae'n cynrychioli'r amser ychydig cyn datblygiad bywyd ar y Ddaear. Daw'r enw Proterosöig o'r Groeg "bywyd cynharach"; ystyr y gwreiddyn "protero-" yw "rhagflaenu" ac ystyr "söig" yw "anifail, rhywbeth byw".[1] Digwyddodd y Proterosöig rhwng 2,500Ma a 542.0±1.0Ma (miliwn o flynyddoedd cyn y presennol (CP)), a dyma ran mwyaf diweddar y Cyn-Gambriaidd. Caiff ei rannu'n dair Gorgyfnod - o'r iengengaf i'r hynaf: y Paleoproterosöig, Mesoproterosöig, a'r Neoproterosöig.

Mae'r digwyddiadau sy'n berthnasol i'r eon hon wedi eu diffinio'n eitha clir: ceir newid yr hinsawdd i un llawn ocsigen yn ystod y Paleoproterosöig, rhewi wyneb y Ddaear yn ystod y cyfnod Cryogeniaidd yn y Neoproterosöig hwyr ac yn olaf y cyfnod Ediacaraidd (635 - 542 CP) ble cafwyd datblygu organeb amlgellog.

Cyn-Gambriaidd  
Hadeaidd Archeaidd Proterosöig Ffanerosöig

CyfeiriadauGolygu