Protestiadau myfyrwyr Québec (2012)

Mae protestiadau myfyrwyr Québec 2012, a adnabyddir hefyd fel Y Gwanwyn Masarnen (Ffrangeg: Printemps érable) drwy ei chydweddu â'r Gwanwyn Arabaidd,[1][2] yn brotest yn Québec, Canada, gan undebau myfyrwyr, myfyrwyr unigol, undebau llafur, grwpiau a phobl adnabyddus[3][4][5] i wrthwynebu codiadau yn y ffïoedd dysgu y mae'r Weinyddiaeth Charest wedi'u datgan ar gyfer 2012–2017. Bwriedir codi'r ffioedd dysgu hyn o $CAN2168 i $CAN3793.[6]

Protest 22 Mawrth 2012 ym Montréal
Y sgwâr coch, arwyddlun streic y myfyrwyr

Heblaw am rai gweithredoedd cynt, cychwynnodd streic y myfyrwyr ddydd 13 Chwefror 2012. Hon yw'r streic fyfyrwyr fwyaf yn hanes Québec.[7]

Cyfeiriadau

golygu

Gweler hefyd

golygu
  Eginyn erthygl sydd uchod am Ganada. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato