Punjab (Pacistan)
Un o daleithiau Pacistan yw'r Punjab neu Panjab (Urdu: پنجاب ; Punjabi: پنجاب). Hon yw rhanbarth fwyaf poblog a ffyniannus y wlad o gryn dipyn ac mae'n gartref i Punjabiaid a sawl grŵp ethnig arall. Yr ardaloedd cyfagos yw Sindh (Sind) i'r de, Balochistan a Khyber Pakhtunkhwa i'r gorllewin, Azad Kashmir (y rhan o Kashmir dan reolaeth Pacistan), Jammu a Kashmir yn India, ac Islamabad i'r gogledd, a'r Punjab Indiaidd a Rajasthan i'r dwyrain, yn India. Y prif ieithoedd yw Punjabi, Urdu a Saraiki. Lahore yw'r brifddinas daleithiol. Daw'r enw Punjab o'r geiriau Perseg Pañj (پنج), sy'n golygu "pump", ac Āb (آب) sy'n golygu "dŵr" (cf. afon yn Gymraeg). Ystyr "Punjab" felly yw "(y) pum dŵr (neu 'afon')" - felly "Gwlad y Pum Afon", sy'n cyfeirio at yr afonydd Indus, Ravi, Sutlej, Chenab a'r Jhelum; mae'r pedair olaf yn llednentydd Afon Indus.
Math | province of Pakistan |
---|---|
Prifddinas | Lahore |
Poblogaeth | 101,391,000, 127,688,922 |
Sefydlwyd | |
Cylchfa amser | UTC+05:00 |
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Punjab |
Sir | Pacistan |
Gwlad | Pacistan |
Arwynebedd | 205,344 ±1 km² |
Yn ffinio gyda | Khyber Pakhtunkhwa, Sindh, Balochistan, Islamabad Capital Territory, India, Punjab |
Cyfesurynnau | 31.33°N 74.21°E |
PK-PB | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Provincial Cabinet of Punjab |
Corff deddfwriaethol | Provincial Assembly of Punjab Province |
Swydd pennaeth y wladwriaeth | Governor of Punjab, Pakistan |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Punjab |
- Am ystyron eraill, gweler Punjab (gwahaniaethu).
Daearyddiaeth
golyguDyma ail ranbarth mwyaf Pacistan o ran arwynebedd gyda 205,344 km2 (79,284 mi sgw) ac mae wedi'i lleoli i ogledd-orllewin plat daeaegol India yn Ne Asia.
Y prifddinas yw Lahore, a fu'n brifddinas hanesyddol y Punjab ehangach hefyd. Dinasoedd eraill o fewn y rhanbarth yw Faisalabad, Rawalpindi, Gujranwala, Multan, Sialkot, Bahawalpur, Sargodha, Gujrat, Sheikhupura a Jhelum. Ceir chwe prif afon yn nadreddu drwy Punjab, 5 drwy rhan Pacistan o'r Pwnjab: Indus (sy'n llifo o'r Gogledd i'r De), Jhelum, Beas, Chenab, Ravi a Sutlej. Mae bron i 60% o boblogaeth Pacistan yn byw yn Punjab.
Mae mwyafrif yr ardal yn dir ffrwythlon, ar hyd dyffrynoedd yr afonydd ond ceir ychydig o ddiffeithdiroedd ar y ffin â Rajasthan a mynyddoedd Sulaiman gan gynnwys diffeithdiroedd Thal a Cholistan.
Ieithoedd
golyguPrif iaith y rhanbarth yw'r iaith Punjab a ysgrifennir yn y sgript Shahmukhi, a cheir nifer o dafodiaethoedd oddi mewn iddi. Cânt eu siarad gan 60% o Punjabis (neu bobl o Bunjab) ym Mhacistan a'r mwyafrif llethol yn rhanbarth Punjab.[1] Er hyn ni roddir iddi unrhyw gydnabyddiaeth oddi fewn i Gyfansoddiad Pacistan.
Demograffeg
golyguAmcangyfrifir bod y bobloageth yn 2010 yn 93,963,240[2] sef dros hanner poblogaeth y wlad.
Popblogaeth | |||
---|---|---|---|
Cyfrifiad | Y boblogaeth | Trefol | Gwledig |
| |||
1951 | 20,540,762 | 3,568,076 | 16,972,686 |
1961 | 25,463,974 | 5,475,922 | 19,988,052 |
1972 | 37,607,423 | 9,182,695 | 28,424,728 |
1981 | 47,292,441 | 13,051,646 | 34,240,795 |
1998 | 73,621,290[3] | 23,019,025 | 50,602,265 |
2012 | 91,379,615[4] | 45,978,451 | 45,401,164 |
Crefydd
golyguO fewn rhanbarth Punjab credir bod 97.21% yn Fwslemiaid gyda'r mwyafrif ohonynt yn Sunni Hanafi a lleiafrif Shia Ithna 'ashariyah. Yr ail grefydd fwyaf yw Cristnogaeth - 2.31% o'r boblogaeth. Ymhlith y crefyddau eraill fe geir Ahmedi, Hindus, Sikhs, Parsis a Bahá'í.[5]
Prif ddinasoedd
golyguRhestr o brif ddinasoedd y Punjab | ||||
---|---|---|---|---|
Safle | Dinas | Dosbarth | Poblogaeth | |
1 | Lahore | Dosbarth Lahore | 10,500,000 | |
2 | Faisalabad | Dosbarth Faisalabad | 5,280,000 | |
3 | Rawalpindi | Dosbarth Rawalpindi | 3,391,656 | |
4 | Multan | Dosbarth Multan | 2,606,481 | |
5 | Gujranwala | Dosbarth Gujranwala | 2,569,090 | |
6 | Sargodha | Dosbarth Sargodha | 600,501 | |
7 | Bahawalpur | Dosbarth Bahawalpur | 543,929 | |
8 | Sialkot | Dosbarth Sialkot | 510,863 | |
9 | Sheikhupura | Dosbarth Sheikhupura | 426,980 | |
10 | Jhang | Dosbarth Jhang | 372,645 | |
11 | Gujrat | Dosbarth Gujrat | 530,645 | |
12 | D.G.Khan | Dosbarth Dera Ghazi Khan | 630,645 | |
Ffynhonnell:World Gazetteer 2010[6] | ||||
Rhestr o boblogaeth ddinesig pob dinas, nid cyfanswm y dosbarthiadau. |
Gweler hefyd
golyguCyfeiriadau
golygu- ↑ The Languages of Pakistan
- ↑ "Punjab – World Gazetteer". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2012-12-10. Cyrchwyd 29 Mawrth 2012.
- ↑ http://www.statpak.gov.pk/depts/pco/statistics/pop_by_province/pop_by_province.html_Pages/statpak.gov.pk/depts/pco/statistics/pop_by_province/pop_by_province[dolen farw]
- ↑ Population shoots up by 47 percent since 1998 Archifwyd 2012-07-01 yn y Peiriant Wayback. Thenews.com.pk. Retrieved on 2013-07-12.
- ↑ "POPULATION CY RELIGION" (PDF). Archifwyd o'r gwreiddiol (PDF) ar 2006-06-17. Cyrchwyd 2015-01-18.
- ↑ "Pakistan: Largest cities and towns and statistics of their population". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2013-10-17. Cyrchwyd 2011-02-10.