Rajasthan
Mae Rājasthān (Devanāgarī: राजस्थान) yn dalaith yng ngorllewin India. Hi yw'r fwyaf o daleithiau India o ran arwynebedd, 342,239 km² (132,139 mi²) ond mae'n cynnwys Anialwch Thar. Mae'n ffinio â Mhacistan yn y gorllewin, Gujarat yn y de-orllewin, Madhya Pradesh yn y de-ddwyrain, Uttar Pradesh a Haryana yn y gogledd-ddwyrain a Punjab yn y gogledd. Roedd y boblogaeth yn 56.47 miliwn yn 2001.
Math | talaith India |
---|---|
Enwyd ar ôl | brenin |
Prifddinas | Jaipur |
Poblogaeth | 68,548,437 |
Sefydlwyd | |
Pennaeth llywodraeth | Bhajan Lal Sharma |
Iaith/Ieithoedd swyddogol | Hindi |
Daearyddiaeth | |
Sir | India |
Gwlad | India |
Arwynebedd | 342,269 km² |
Yn ffinio gyda | Punjab, Haryana, Uttar Pradesh, Gujarat, Madhya Pradesh, Sindh, Punjab |
Cyfesurynnau | 27°N 74°E |
IN-RJ | |
Gwleidyddiaeth | |
Corff gweithredol | Rajasthan Legislative Assembly |
Corff deddfwriaethol | Rajasthan Legislative Assembly |
Pennaeth y wladwriaeth | Kalyan Singh, Kalraj Mishra |
Swydd pennaeth y Llywodraeth | Chief Minister of Rajasthan |
Pennaeth y Llywodraeth | Bhajan Lal Sharma |
Prifddinas y dalaith yw Jaipur. Yn nwyrain y dalaith mae nifer o barciau cenedlaethol adnabyddus am eu bywyd gwyllt; Ranthambore a Sariska am deigrod a Parc Cenedlaethol Keoladeo ger Bharatpur am adar.
Ffurfiwyd Rajasthan ar 30ain Mawrth 1949, pan unwyd y gwladwriaethau tywysogaethol yn India; mae'n cyfateb yn fras i'r hen Rajputana. O ran crefydd, mae 88.8% o drigolion Rajasthan yn ddilynwyr Hindwaeth, 8.5% yn dilyn Islam, 1.4% yn Sikhiaid a 1.2% yn ddilynwyr Jainiaeth. Mae'r mwyafrif yn siarad yr iaith Rajasthani fel iaith gyntaf.
Taleithiau a thiriogaethau India | |
---|---|
Taleithiau | Andhra Pradesh • Arunachal Pradesh • Assam • Bihar • Chhattisgarh • Goa • Gorllewin Bengal • Gujarat • Haryana • Himachal Pradesh • Jharkhand • Karnataka • Kerala • Madhya Pradesh • Maharashtra • Manipur • Meghalaya • Mizoram • Nagaland • Orissa • Punjab • Rajasthan • Sikkim • Tamil Nadu • Telangana • Tripura • Uttarakhand • Uttar Pradesh |
Tiriogaethau | Ynysoedd Andaman a Nicobar • Chandigarh • Dadra a Nagar Haveli • Daman a Diu • Delhi • Jammu a Kashmir • Lakshadweep • Puducherry |