Pyramid Mawr Giza
(Ailgyfeiriad o Pyramid Mawr Khufu)
Pyramid Mawr Giza neu Pyramid Mawr Khufu yw'r mwyaf o Byramidau'r Aifft. Adeiladwyd ef gan Khufu (Groeg: Cheops), oedd yn frenin yr Aifft yn ystod Yr Hen Deyrnas, o tua 2589 CC. hyd 2566 CC. Y pyramid hwn yw'r unig un o Saith Rhyfeddod yr Hen Fyd sy'n dal mewn bodolaeth, a hyd tua 1300 OC, roedd yn parhau i fod yr adeilad mwyaf yn y byd.
Math | smooth-sided pyramid, safle archaeolegol, Rhyfeddod yr Henfyd, atyniad twristaidd, Pyramidau'r Aifft, beddrod |
---|---|
Sefydlwyd |
|
Daearyddiaeth | |
Rhan o'r canlynol | Pyramidau Giza, Saith Rhyfeddod yr Henfyd |
Lleoliad | Giza |
Sir | Giza Governorate |
Gwlad | Yr Aifft |
Arwynebedd | 53,061.12 m² |
Uwch y môr | 95 metr |
Cyfesurynnau | 29.97915°N 31.13422°E |
Arddull pensaernïol | pensaernïaeth yr Hen Aifft |
Deunydd | calchfaen, gwenithfaen |
Ef yw'r mwyaf, a'r hynaf, o'r tri pyramid yn Giza, ar gyrion Cairo. Mae Pyramid Khafre gerllaw bron cymaint, ac yn edrych yn fwy oherwydd ei fod wedi ei adeiladu ar dir ychydig yn uwch.