Athronydd Groegaidd hynafol oedd Pyrrho (tua 360 CC – tua 270 CC) a ystyrir yn dad ar ysgol sgeptigiaeth neu amheuaeth.

Pyrrho
Darluniad o Pyrrho yn y gyfrol The History of Philosophy (1655) gan Thomas Stanley.
Ganwydc. 360s CC Edit this on Wikidata
Elis Edit this on Wikidata
Bu farwc. 270s CC Edit this on Wikidata
Galwedigaethathronydd, arlunydd, ysgrifennwr Edit this on Wikidata
Mudiadpyrrhonism Edit this on Wikidata

Brodor o Elis, yng ngorllewin y Peloponnesos, yn ne Gwlad Groeg ydoedd, yn fab i Pleistarchus. Blodeuodd yn amser Philip II, brenin Macedon, ac Alecsander Fawr, ac nid oedd yn ei ddechreuad ond paentiwr tlawd. Ar ôl dysgu elfennau gwyddoniaeth gyda Bryson o Achaea, aeth Pyrrho gydag Alecsander ar ei ryfelgyrch i'r dwyrain, a daeth fel hyn yn gydnabyddus â daliadau'r Gymnosoffistiaid a'r magiaid Persiaidd. Roedd hefyd yn edmygwyr mawr o Democritus. Bu fyw mewn neilltuaeth a thawelwch am y rhan fwyaf o'i oes, gan ymatal rhag traethu ei olygiadau yn benderfynol ar ddim, a chadw y distawrwydd a'r arafwch mwyaf ym mhob amgylchiadau, fel na byddai i boen na phleser effeithio arno. er ei fod wedi mabwysiadu y dull llonydd hwn o fyw, anrhydeddid ef yn fawr gan ei gydwladwyr, y rhai nid yn unig a'i gwnaethant eu harchoffeiriaid; ond, er ei fwyn ef, gwnaed cyfraith i ryddhau pob athronydd rhag talu trethi. Anrhydeddodd yr Atheniaid ef drwy roddi iddo ddinasfraint y dref. Bu farw wedi cyrraedd 90 oed.

Tawelu'r meddwl yn wyneb pob amgylchiadau, yng ngolwg Pyrrho, oedd diben uchaf athroniaeth. Gan yr ystyriai fod y tawelwch meddwl hwn yn cael ei gyffroi gan ddadleuon y gwahanol ysgolion o athroniaeth, arweiniwyd ef i dir amheuaeth, ac aeth mor bell i'r tir yma fel yr ystyriai nad oedd o un pwys i feddu gwybodaeth gywir am bethau, ac mai yr unig beth gwerth ymdrechu amdano oedd rhinwedd. Nid oedd yn cadarnhau dim, nac yn gwadu dim. Atebai ei wrthwynebwyr, gan hynny, bob amser trwy ddweud, "Dichon fod yr hyn a ddywedwch yn wir, ond nis gallaf fi ei benderfynu." Tynnodd dywediad fel hwn, ac eraill cyffelyb, lawer o wawd ei wrthwynebwyr arno. Fodd bynnag, yr oedd ganddo lawer o ddilynwyr a disgyblion yn ddynion o enwogrwydd, y rhai a elwid naill ai yn Byrrhoniaid neu Amheuwyr. Gellir gweld syniadau y blaid hon, a'u dull o ymresymu, yng ngweithiau Sextus Empiricus. Ymddengys mai eu hamcan oedd dymchwelyd pob cyfundrefn arall o athroniaeth yn hytrach na sylfaenu un o'r eiddynt en hunain.

Mae'r erthygl hon yn cynnwys testun sydd wedi ei addasu o Y Gwyddoniadur Cymreig, cyhoeddiad sydd yn y parth cyhoeddus.