Magiad

offeiriaid mewn zoroastrianiaeth
(Ailgyfeiriad o Magi)

Un o'r offeiriadaeth yn Zoroastriaeth a chrefyddau hynafol eraill Persia yw magiad[1] (Perseg: مغ magh).

Magiad
Cerfluniau euraid bychain o fagiaid yn dwyn offer defodol y batsom, o gasgliad trysorau Oxus, sy'n dyddio o'r 4g CC.
Enghraifft o'r canlynolteitl, llwyth Edit this on Wikidata
Mathclerigwr Edit this on Wikidata
Rhan oclerigwr Edit this on Wikidata
Lleoliadhanes Iran Edit this on Wikidata
Tudalen Comin Ffeiliau perthnasol ar Gomin Wicimedia

Yn ôl Herodotus, un o chwe llwyth y Mediaid oedd y "Magoi". Ar y cychwyn buont yn gyfrifol am holl ddefodau'r Mediaid, beth bynnag yr arfer neu gwlt lleol. Mae'n debyg iddynt ddatblygu felly fel dosbarth offeiriadol etifeddol. Sefydlwyd y ffydd Zoroastriaidd gan y Proffwyd Zarathustra yn yr 2il fileniwn CC, ac wrth iddi ymledu ar draws llwyfandir Iran daeth yn rhan o draddodiadau crefyddol Ymerodraeth Persia dan gyfarwyddiaeth y magiaid. Dan drefn Zarathustra, bu dau fath o offeiriad: y zaotar sy'n gweinyddu, a'r manthran sy'n cyfansoddi mantrâu sanctaidd. Yn ystod cyfnod yr Achaemeniaid, daeth Babilon yn ganolfan i'r magiaid, ac yno mae'n debyg iddynt ymwneud â dewiniaeth a sêr-ddewiniaeth. Yn ddiweddarach, rhoddwyd yr enw mobed ar offeiriad gweinyddol, a chanddo'r hawl i hyfforddi offeiriaid eraill. Wedi cwymp yr Ymerodraeth Sasanaidd yn y 7g OC, a gorchfygiad Persia gan yr Arabiaid, mabwysiadodd yr uchel offeiriad y teitl hudnan pesobay ("arweinydd y ffyddlon"), yn debyg i'r arfer Fwslimaidd.[2]

Yn yr oes fodern, rhennir yr offeiriadaeth Zoroastriaidd yn dri math o glerigwr: y mobed, yr ervad, a'r dastur. Mae gan yr ervad hawl i berfformio is-ddefodau'r ffydd. Uchel offeiriad ydy'r dastur, a gysylltir fel arfer ag un o'r temlau mawr, a chanddo griw o'r mobed yn ei gynorthwyo. Swyddogaethau litwrgïaidd sydd gan y mobed a'r ervad, heb fawr o waith bugeiliol na dysgu.[2]

Daw "magiad" yn y bôn o'r enw yn un o'r hen ieithoedd Iranaidd, a drosglwyddwyd i'r Hen Roeg ar ffurf μάγος (mágos; er enghraifft, yn hanesion Herodotus), ac yna magus yn Lladin. Yn y byd Groegaidd cafodd Zarathustra ei gysylltu â sêr-ddewiniaeth ac hudoliaeth, ac felly yn yr ieithoedd Ewropeaidd daeth yr amryw ffurfiau ar magus yn gyfystyr â "dewin". Yng Nghristnogaeth, cysylltir y gair yn enwedig â'r Tri Gŵr Doeth, neu'r Tri Brenin o'r Dwyrain, yn hanes geni'r Iesu (Mathew), a ddethlir gan ŵyl yr Ystwyll yn y Gorllewin a chan y Nadolig yn y Dwyrain. Ym mytholeg Gristnogol yr Oesoedd Canol, ymhelaethwyd ar stori Feiblaidd y Tri Magiad, gan roi iddynt yr enwau Caspar, Melchior, a Balthasar.[3]

Cyfeiriadau golygu

  1.  magiad. Geiriadur Prifysgol Cymru. Adalwyd ar 26 Medi 2023.
  2. 2.0 2.1 John Bowker, "Magi" yn The Concise Oxford Dictionary of World Religions. Adalwyd ar wefan Encyclopedia.com ar 26 Medi 2023.
  3. Elizabeth Knowles, The Oxford Dictionary of Phrase and Fable.