Pysgodyn Darn Arian

Pysgodyn Darn Arian
Llun y rhywogaeth
Dosbarthiad gwyddonol
Teyrnas: Animalia
Ffylwm: Chordata
Dosbarth: Actinopterygii
Urdd: Zeiformes
Teulu: Zeidae
Genws: Zeus
Rhywogaeth: Z. faber
Enw deuenwol
Zeus faber
Linnaeus 1758

Pysgodyn sy'n byw yn y môr ac sy'n perthyn i deulu'r Zeidae ydy'r pysgodyn darn arian sy'n enw gwrywaidd; lluosog: pysgod darn arian (Lladin: Zeus faber; Saesneg: John Dory).

Mae ei diriogaeth yn cynnwys y Môr Du a'r Môr Canoldir ac mae i'w ganfod ym Môr y Gogledd ac arfordir Cymru.

Ar restr yr Undeb Rhyngwladol dros Gadwraeth Natur (UICN), caiff y rhywogaeth hon ei rhoi yn y dosbarth 'Heb ei gwerthuso' o ran niferoedd, bygythiad a chadwraeth gan nad oes data digonol.[1]

Mae'r math yma o bysgodyn yn cael ei bysgota ar gyfer y bwrdd bwyd.

Ei enw Lladin yw Zeus faber; roedd y pysgodyn yma yn sanctaidd i'r duw Zeus, a faber, sef crefftus. Tarddiad yr enw Saesneg John Dory yw, yn ôl rhai, from the French jaune d'oree ("with a yellow edge"), in reference to the fish's coloring? Or perhaps a corruption of jaune adorée = the adorable or sacred yellow fish. Or perhaps even from the Italian 'janitore' (janitor). dory <[F] doree = gilded. Fe’i gelwir hefyd yn St. Peters fish[2] Felly yr enw Cymraeg safonol: pysgodyn darn arian - oherwydd yr adnodau uchod, y darn arian a dynnwyd o geg y pysgodyn gan Pedr. Yn Llydaweg = yar-vor = ‘iâr fôr’. Mae na ddau smotyn, un pob ochor ac yn ol y chwedl marciau bys a bawd Sant Pedr yw rhain. Sylwer nad yw Sant Mathew yn dweud sut fath o 'sgodyn y mae Pedr yn ei ddal, ‘mond y sgodyn cyntaf, a dim son am y marciau bys a bawd... Tybiaf fod y chwedl wedi'w greu i guddio’r ffaith fod y 'sgodyn yn sanctaidd i'r prif Dduw Paganaidd - Zeus.[3]

Gweler hefyd

golygu

Cyfeiriadau

golygu
  1. Gwefan www.marinespecies.org adalwyd 4 Mai 2014
  2. Matthew xvii, 24-27
  3. Sion Roberts yn Mwletin Llên Natur rhifyn 61