Whitney Houston

cynhyrchydd a chyfansoddwr a aned yn 1963

Cantores, cyfansoddwraig, actores, cynhyrchydd recordiau a model ffasiwn o'r Unol Daleithiau oedd Whitney Elizabeth Houston (9 Awst 196311 Chwefror 2012). Dechreuodd Houston gael enwogrwydd rhyngwladol yng nghanol y 1980au ac arweiniodd ei llwyddiant hi at fenywod Affricanaidd-Americanaidd eraill yn llwyddo ym myd cerddoriaeth pop a ffilmiau.[1] Cyfeirir ati weithiau fel "Y Llais",[2] ac mae'n adnabyddus am ei "powerful, penetrating pop-gospel voice".[3]

Whitney Houston
GanwydWhitney Elizabeth Houston Edit this on Wikidata
9 Awst 1963 Edit this on Wikidata
Newark Edit this on Wikidata
Bu farw11 Chwefror 2012 Edit this on Wikidata
The Beverly Hilton Edit this on Wikidata
Label recordioArista Records, RCA Records Edit this on Wikidata
DinasyddiaethUnol Daleithiau America Edit this on Wikidata
Alma mater
  • Mount Saint Dominic Academy Edit this on Wikidata
Galwedigaethcanwr, actor, cynhyrchydd ffilm, actor ffilm, cynhyrchydd recordiau, artist recordio, actor teledu Edit this on Wikidata
Adnabyddus amI Wanna Dance with Somebody, How Will I Know, Saving All My Love for You, The Greatest Love of All Edit this on Wikidata
Arddullcerddoriaeth boblogaidd, rhythm a blŵs, cerddoriaeth yr enaid, cerddoriaeth yr efengyl, urban contemporary Edit this on Wikidata
Math o laissoprano Edit this on Wikidata
TadJohn Houston Jr. Edit this on Wikidata
MamCissy Houston Edit this on Wikidata
PriodBobby Brown Edit this on Wikidata
PlantBobbi Kristina Brown Edit this on Wikidata
PerthnasauDee Dee Warwick, Dionne Warwick Edit this on Wikidata
Gwobr/auGwobr Emmy 'Primetime', Gwobr Grammy, Rock and Roll Hall of Fame, Billboard Millennium Award Edit this on Wikidata
Gwefanhttps://www.whitneyhouston.com/ Edit this on Wikidata
llofnod

Yn ystod y 1980au, Houston oedd un o'r artistiaid Africanaidd-Americanaidd cyntaf i ymddangos yn rheolaidd ar MTV, pan oedd y sianel yn dueddol o ddangos llawer mwy o gerddoriaeth roc gan ddynion gwynion. Ei halbwm cyntaf oedd yr albwm cyntaf i werthu fwyaf gan artist unigol, gan werthu dros 25 miliwn o gopïau yn fyd-eang. Aeth ei hail albwm yn syth i rif un y Billboard 200 a dyma oedd y tro cyntaf i artist benywaidd wneud hynny. Llwyddodd i gael saith rhif un yn olynol ar y siart Billboard Hot 100.

Cyfeiriadau

golygu
  1. Corliss, Richard The Prom Queen of Soul Archifwyd 2012-03-05 yn y Peiriant Wayback Time 13-07-1987. Adalwyd 15-03-2009
  2. Transformers: Whitney Houston AOL Black Voices Adalwyd 15-03-2009
  3. Holden, Stephen (16-02-1985). "Cabaret: Whitney Houston" (yn Saesneg). The New York Times Adalwyd 15-03-2009

Dolenni allanol

golygu
   Eginyn erthygl sydd uchod am un o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.