Robert Thomas Jenkins

hanesydd, llenor a golygydd y
(Ailgyfeiriad o R. T. Jenkins)

Hanesydd ac awdur Cymreig oedd Robert Thomas Jenkins, yn ysgrifennu fel R. T. Jenkins (31 Awst 1881 - 11 Tachwedd 1969).[1]

Robert Thomas Jenkins
Ganwyd31 Awst 1881 Edit this on Wikidata
Lerpwl Edit this on Wikidata
Bu farw11 Tachwedd 1969 Edit this on Wikidata
Bangor Edit this on Wikidata
Man preswylBangor Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Alma mater
Galwedigaethhanesydd Edit this on Wikidata
Cyflogwr
Gwobr/auCBE Edit this on Wikidata

Bywgraffiad golygu

Ganed ef i deulu Cymreig yn Lerpwl, ond symudodd y teulu i ddinas Bangor pan oedd yn ieuanc. Collodd ei fam a'i dad cyn bod yn naw oed, a magwyd ef gan deulu ei fam yn y Bala. Aeth i Brifysgol Aberystwyth i astudio Saesneg ac yna i Goleg y Drindod, Caergrawnt.[1]

Bu'n athro ysgol yn Llandysul, Aberhonddu a Chaerdydd. Yn 1930 penodwyd ef yn ddarlithydd annibynnol yn adran Hanes Cymru ym Mangor. Yn 1938 daeth yn olygydd cynorthwyol Y Bywgraffiadur Cymreig, a phan fu farw Syr John Edward Lloyd yn 1947 daeth yn gyd-olygydd â Syr William Llewelyn Davies. Cyhoeddwyd y fersiwn Cymraeg o'r Bywgraffiadur yn 1953 a'r fersiwn Saesneg yn 1959. Dyfarnwyd gradd D.Litt. Prifysgol Cymru iddo yn 1939 a LL.D. honoris causa (Cymru) yn 1956. Daeth yn Athro yn yr Adran Hanes yn 1945.[1]

Ysgrifennodd rai storïau byrion a Ffynhonnau Elim dan yr enw Idris Thomas.[1]

Bu'n weithgar hefyd gyda Cylch Dewi - cymdeithas o academwyr a llenorion a ymdrechai dros godi statws a defnydd o'r Gymraeg ym myd addysg, bywyd cyhoeddus a'r radio.

Cyhoeddiadau golygu

  • Hanes Cymru yn y Ddeunawfed Ganrif (Caerdydd: Gwasg Prifysgol Cymru, 1928)
  • Yr Apêl at Hanes (Wrecsam: Hughes a'i Fab, 1930)
  • Ffrainc a'i Phobl (Hughes a'i Fab, 1930)
  • Gruffydd Jones, Llanddowror (Gwasg Prifysgol Cymru, 1930)
  • (gyda William Rees) The Bibliography of the History of Wales (Gwasg Prifysgol Cymru, 1931)
  • Hanes Cymru yn y Bedwaredd Ganrif ar Bymtheg (Gwasg Prifysgol Cymru, 1933)
  • Y Ffordd yng Nghymru (Hughes a'i Fab, 1933)
  • Hanes Cynulleidfa Hen Gapel Llanuwchllyn (Y Bala: Robert Evans a'i Fab, 1937)
  • The Moravian Brethren in North Wales (Llundain: Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1938)
  • (gol.) Storïau Gwallter Map (Llyfrau'r Dryw, 1942)
  • Orinda (Caerdydd: Hughes a'i Fab, 1943)
  • Ffynhonnau Elim (Llyfrau'r Dryw, 1945)
  • (gol.) Jeremy Owen, Golwg ar y Beiau (Gwasg Prifysgol Cymru, 1950)
  • (gyda Helen Ramage) A History of the Honourable Society of Cymmrodorion (Anrhydeddus Gymdeithas y Cymmrodorion, 1951)
  • Casglu Ffyrdd (Hughes a'i Fab, 1956)
  • Ymyl y Ddalen (Hughes a'i Fab, 1957)
  • Yng Nghysgod Trefeca (Caernarfon: Llyfrfa'r Methodistiaid Calfinaidd, 1968)
  • Edrych yn ôl (Llundain: Club Llyfrau Cymraeg, 1968)
  • Cyfoedion (Aberystwyth: Club Llyfrau Cymraeg, 1974)
  • Cwpanaid o De a Diferion Eraill, casgliad o'i ysgrifau wedi'i olygu gan Emlyn Evans (Dinbych: Gwasg Gee, 1997)

Cyfeiriadau golygu

  1. 1.0 1.1 1.2 1.3 Meic Stephens (gol.), Cydymaith i Lenyddiaeth Cymru (Gwasg Prifysgol Cymru).