Rachel Griffiths
Actores ffilm a theledu o Awstralia yw Rachel Anne Griffiths (ganwyd 18 Rhagfyr 1968) sydd wedi ennill gwobrau Golden Globe ac SAG, ac wedi cael ei henwebu ar gyfer Gwobrau'r Academi a Gwobr Emmy.
Rachel Griffiths | |
---|---|
Ganwyd | Rachel Anne Griffiths 18 Rhagfyr 1968 Melbourne |
Man preswyl | Melbourne |
Dinasyddiaeth | Awstralia |
Galwedigaeth | actor, actor ffilm, cyfarwyddwr ffilm, cyfarwyddwr |
Priod | Andrew Taylor |
Gwobr/au | Aelod o Urdd Awstralia, Medal Canmlwyddiant, Gwobr y Golden Globe i'r Actores wrth Gefn Orau - Cyfres, Cyfres bitw neu Ffilm Deledu |
Bywgraffiad
golyguBywyd cynnar
golyguGanwyd Griffiths yn Newcastle, De Cymru Newydd, magwyd yn Melbourne gyda'i mam, a oedd yn ymgynghorydd celf, a'i dau frawd hŷn. Enillodd radd Baglor Addysg mewn drama a dawns o Goleg Fictoria, Rusden, a dechreuodd ei gyrfa fel aelod o'r grŵp theatr cymunedol, y Woolly Jumpers. Cafodd ei llwyddiant cyntaf fel crewr a pherfformiwr Barbie Gets Hip, a chwaraewyd yn Ngŵyl Ffilm Ryngwladol Melbourne yn 1991.
Gyrfa
golyguRoedd Griffiths a Toni Collette yn gymharol di-nod pan gawsant eu castio fel ffrindiau gorau a chymeriadau ar oedd ar ffiniau cymdeithas yn y ffilm Muriel's Wedding (1994). Enillodd ei pherfformiad gymeradwyaeth allweddol a Gwobr Adolygwyr Ffilm Awstralia a Gwobr Sefydliad Ffilm Awstralia ar gyfer yr Actores Cefnogol Gorau. Dilynwyd y llwyddiant hyn yn 1996, gan rôl daearol, gwraig ffermwr moch di-foes yn Jude, gan Michael Winterbottom.
Yn 1997, achosodd Griffiths ymryson ar ôl mynychu agoriad y Crown Casino yn fronnoeth a heb wahoddiad, gan ddatgan mai protest oedd hyn at y safbwynt a gymerwyd gan y cyfryngau a llywodraeth y dalaith tuag at y casino newydd, ac ysbrydolodd stori Arglwyddes Godiva.[1][2]
Cydweithiodd Griffiths gyda chyfarwyddwr Muriel's Wedding, P. J. Hogan, unwaith eto yn ei ffilm Americanaidd gyntaf, My Best Friend's Wedding, yn 1997. Serennodd yn ffilm Prydeinig My Son the Fanatic, yr un flwyddyn gan bortreadu putain caled o Swydd Efrog sy'n dechrau ymwneud â gyrrwr tacsi Pacistanaidd sydd cryn dipyn yn hŷn na hi (chwaraewyd gan Om Puri).
Cafodd Griffiths ei henwebu ar gyfer Gwobr yr Academi ar gyfer yr Actores Gefnogol Orau, am ei phortread o'r ffliwtydd go iawn, Hilary du Pré, gyferbyn â Emily Watson a oedd yn chwarae ei chwaer, y sielydd enwog, Jacqueline du Pré, yn Hilary and Jackie (1998). Yn ddiweddarach, ymddangosodd yn y ffilm Blow (2001), gyda Johnny Depp a Ray Liotta.
Yn 2001, cafodd Griffiths ei chastio fel un o brif gymeriadau Six Feet Under. Enillodd wobr Golden Globe, gwobrau Screen Actors Guild, a dau enwebiad am Wobr Emmy, am ei pherfformiad fel therapydd tylino'r corff a oedd wedi ei chreithio'n emosiynol, sef Brenda Chenowith. Yn nhrydydd tymor y gyfres, ni ymddangosodd mewn pedwar pennod oherwydd ei bod yn feichiog gyda'i phlentyn cyntaf. Pan feichiogodd am yr eildro, ysgrifennywd ei beichiogrwydd i mewn ar gyfer ei chymeriad ar gyfer tymor olaf y gyfres. Ymddangosodd ym mron pob pennod o'r gyfres honno.
Ar hyn o bryd, mae hi'n rhan o gast cyfres ddramatig Brothers & Sisters, yn cyd-serennu Sally Field a Calista Flockhart. Mae hi'n portreadu Sarah Walker Whedon, sy'n etifeddu rheolaeth o fusnes y teulu ar ôl marwolaeth ei thad. Cafodd Griffiths ei henwebu ar gyfer Gwobr Emmy yn 2007 a 2008 am ei gwaith yn y gyfres. Ymddangosodd hefyd fel y cymeriad Inez Scull yn addasiad cyfres fer o Comanche Moon gan Larry McMurtry yn 2008.
Bywyd personol
golyguPriododd Griffiths artist Awstraliaidd, Andrew Taylor, ar 31 Rhagfyr 2002, yn ei hen ysgol uwchradd, Coleg Seren y Môr yn Gardenvale, Melbourne. Mae ganddynt ddau o blant, Banjo Patrick a anwyd 22 Tachwedd 2003 yn Melbourne ac Adelaide Rose, a anwyd 23 Mehefin 2005 yn Los Angeles, California. Mae gan y plant ddinasyddiaeth ddeuol yr Unol Daleithiau ac Awstralia.
Ym mis Mehefin 2000, eglurodd Griffiths ei chefnir a'i chreodau mewn cyfweliad gyda chylchgrawn Madison. "Er nad ydwi'n Gristnogol, magwyd fi'n Gristnogol. Rydw i'n anffyddiwr, gydag ychydig o duedd tuag at Bwdhaeth. Mae gen i synnwyr cryf o foesoldeb — ond moesoldeb gwahanol ydyw i'r lleisiau uchel Cristnogol... alla i ddim dweud faint o ffilmiau rydw i wedi gwrthod gweithio arnynt oherwydd y diffyg moesoldeb. Ac nid wyf yn golygu hynny o unrhyw fath o safbwynt crefyddol Iddeweg-Cristnogol na Mwslim. Nid wyf yn dweud fod y ffilmiau yn anghywir, ac na ddylent gael eu creu. Ond, yn elfennol, rydw i'n ddyneiddiwr ac allai ddim dioddef creu ffilmiau sy'n gwneud i ni deimlo fod dynoliaeth yn dywyllach nac ydyw'n olau." [3]
Ffilmyddiaeth
golyguBwlyddyn | Teitl | Rô | Nodiadau |
---|---|---|---|
1994 | Muriel's Wedding | Rhonda Epinstall | |
1996 | Cosi | Lucy | |
Jude | Arabella | ||
Children of the Revolution | Anna | ||
1997 | My Son the Fanatic | Bettina/Sandra | |
My Best Friend's Wedding | Samantha Newhouse | ||
1998 | Among Giants | Gerry | |
Hilary and Jackie | Hilary du Pré | Nomineiddio ar gyfer Gwobr Academi - Actores Cefnogol Gorau | |
Amy | Tanya Rammus | ||
Divorcing Jack | Lee Cooper | ||
1999 | Me Myself I | Pamela Drury | |
2001 | Very Annie Mary | Gerry | |
Six Feet Under | Brenda Chenowith | (cyfres deledu) | |
Blow | Ermine Jung | ||
Blow Dry | Sandra | ||
2002 | The Hard Wood | Carol | |
The Rookie | Lorri Morris | ||
2003 | Ned Kelly | Susan Scott | |
2005 | Angel Rodriguez | Nicole | |
2006 | Brothers and Sisters | Sarah Walker | (cyfres deledu) |
Step Up | Director Gordan | ||
2008 | Comanche Moon | Inez Scull |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ http://www.imdb.com/name/nm0341737/
- ↑ http://film.guardian.co.uk/The_Oscars_1999/Story/0,4135,36396,00.html
- ↑ celebatheists.com Archifwyd 2008-12-07 yn y Peiriant Wayback "Although I'm not Christian, I was raised Christian. I'm an atheist, with a slight Buddhist leaning. I've got a very strong sense of morality -- it's just a different morality than the loud voices of the Christian morality...I can't tell you how many films I've turned down because there was an absence of morality. And I don't mean that from any sort of Judeo-Christian/Muslim point of view. I'm not saying they're wrong and can't be made. But, fundamentally, I'm such a humanist that I can't bear to make films that make us feel humanity is more dark than it is light."