Tref Balesteinaidd yn Llain Gaza, am y ffin â'r Aifft yn Sinai yw Rafah (Arabeg: رفح‎). Mae'n safle hynafol. Roedd yn cael ei hadnabod fel "Robihwa" gan bobl yr Hen Aifft, "Rafihu" gan yr Assyriaid, "Raphia" gan y Groegiaid a'r Rhufeiniaid, "Raphiaḥ" gan yr Israeliaid hynafol a "Rafah" yw'r enw arni heddiw.

Rafah
Mathdinas, tref ar y ffin, dinas fawr Edit this on Wikidata
Poblogaeth164,000 Edit this on Wikidata
Pennaeth llywodraethIssa Khalil al-Nashar Edit this on Wikidata
Gefeilldref/iPesaro Edit this on Wikidata
Daearyddiaeth
SirLlywodraethiaeth Rafah Edit this on Wikidata
GwladGwladwriaeth Palesteina Edit this on Wikidata
Cyfesurynnau31.2886°N 34.2519°E Edit this on Wikidata
Pennaeth y LlywodraethIssa Khalil al-Nashar Edit this on Wikidata
Map
Llain Gaza gyda Rafah ar y chwith, gwaelod

Rafah yw'r dref fwyaf yn ne Llain Gaza, gyda phoblogaeth o tua 130,000, a 84,000 yn byw yn y ddwy wersyll i ffoaduriaid a geir yno, sef Gwersyll Canada (Gwersyll Tell as-Sultan) i'r gogledd, a Gwersyll Rafah i'r de. Mae'n gwasanaethu fel canolfan ranbarthol Talaith Rafah (Rafah Governorate). Lleolir Maes Awyr Rhyngwladol Yasser Arafat, unig faes awyr Llain Gaza, fymryn i'r de o Rafah; rhedodd o 1998 hyd 2001 ond mae ar gau heddiw. Yn Rafah ceir yr unig groesfan swyddogol rhwng Llain Gaza a'r Aifft.

Mae Rafah a'r cylch yn adnabyddus am y rhwydwaith o dwnelau cudd sy'n croesi'r ffin. Maent yn fodd i smyglo bwyd a nwyddau - ac arfau - i mewn i Gaza ac i bobl geisio ddianc i'r Aifft i chwilio am waith. Ni fu'r bomio yn Ymgyrch fomio Llain Gaza Rhagfyr 2008 yn gyfyngedig i ardal dinas Gaza yn unig. Cafwyd sawl cyrch bomio awyr yn erbyn twnelau Rafah. Yn ôl adroddiadau dioddefodd y ddinas ei hun niwed sylweddol yn yr ymosodiadau hefyd.[1]

Cyfeiriadau golygu

Dolenni allanol golygu