Grŵp ethnig sydd yn frodorol i Tsietsnia yng Ngogledd y Cawcasws yw'r Tsietsniaid. Gyda'r Ingush maent yn ffurfio'r bobloedd Nakh. Maent yn siarad yr iaith Tsietsnieg, un o'r teulu ieithyddol Cawcasaidd Gogledd-ddwyreinol. Mae'r mwyafrif helaeth ohonynt yn Fwslimiaid Swnni. Rhennir y genedl yn 128 teip, claniau neu lwythau sydd yn ffurfio craidd gymdeithasol a diwyllianol y Tsietsniaid.

Hen ffotograff o ddynion Tsietsniaidd.

Credir i lwythau a fuont yn disgyn o'r Sgythiaid hynafol fudo i Ogledd y Cawcasws rhywbryd cyn 600 CC. Mae'n debyg i'r bobloedd Nakh gael eu Cristioneiddio dan ddylanwad yr Ymerodraeth Fysantaidd erbyn 1000. Bu'r pwerau mawrion, gan gynnwys yr Otomaniaid a'r Persiaid, yn cystadlu dros reolaeth y Cawcasws am gannoedd o flynyddoedd, ac o'r diwedd trodd y Tsietsniaid yn Fwslimiaid yng nghanol yr 17g, a byddent yn brwydro'n ffyrnig yn erbyn goresgyniadau Rwsia yn y 18g. Lansiwyd jihad gan y Shîc Mansur ym 1785 i yrru byddinoedd Catrin Fawr yn eu hôl. Wedi cyfnod hir o ymdrechion milwrol i orchfygu'r Cawcasws, ildiodd y Tsietsniaid o'r diwedd ym 1861.[1]

Yn sgil Chwyldro Rwsia, datganwyd annibyniaeth gan y Tsietsniaid ym 1918. Ymunodd y mwyafrif o filwyr Tsietsniaidd â'r Fyddin Goch, gan gredu y byddai'r Undeb Sofietaidd yn eu gwobrwyo drwy gydnabod ymreolaeth ffederal Tsietsnia. Gorfodwyd llywodraeth uniongyrchol ar genhedloedd Gogledd y Cawcasws ym 1920, a chafodd gwrthryfel y Tsietsniaid ei ostegu'n llym. Gwrthryfelai'r Tsietsniaid eto ym 1927 ac ym 1939–40, ac yn ystod yr Ail Ryfel Byd cafodd y boblogaeth gyfan ei chyhuddo o frad a'i halltudio i Ganolbarth Asia a Siberia. Caniatawyd iddynt ddychwelyd i'w mamwlad ym 1957, yn y cyfnod o ddad-Stalineiddio yn yr Undeb Sofietaidd. Datganwyd Gweriniaeth Itsceria yn sgil cwymp yr Undeb Sofietaidd ym 1991, a byddai gwrthryfelwyr Tsietsniaidd yn fuddugol yn eu hymdrech i fwrw lluoedd Ffederasiwn Rwsia ymaith yn Rhyfel Cyntaf Tsietsnia (1994–6). Adferwyd grym Rwsia yn Tsietsnia, gyda chymorth llywodraeth Ramzan Kadyrov, yn sgil Ail Ryfel Tsietsnia (1999–2009).

Cyfeiriadau

golygu
  1. James B. Minahan. Encyclopedia of Stateless Nations (Santa Barbara: Greenwood, 2016), tt. 101–2.