Randy Newman
sgriptiwr ffilm a chyfansoddwr a aned yn 1943
Canwr, cyfansoddwr caneuon, a phianydd Americanaidd yw Randall Stuart "Randy" Newman (ganwyd 28 Tachwedd 1943).[1] Cafodd ei eni yn Los Angeles a'i fagu yn New Orleans ac yna Los Angeles, ac yn y ddinas honno astudiodd cyfansoddi cerddoriaeth ym Mhrifysgol Califfornia. Mae nifer o'i ganeuon o natur ddigrif, eironig, a dychanol. Ymhlith ei ganeuon enwog mae "Short People", "I Love L.A.", "Mama Told Me Not to Come", "You Can Leave Your Hat On", ac "I Think It's Going to Rain Today". Cyfansoddodd Newman y traciau sain ar gyfer y ffilmiau Ragtime (1981), The Natural (1984), Toy Story (1995), A Bug's Life (1998), Toy Story 2 (1999), a Monsters, Inc. (2001). Cafodd Newman ei ynydu i'r Rock and Roll Hall of Fame yn 2013.[2]
Randy Newman | |
---|---|
Ganwyd | Randall Stuart Newman 28 Tachwedd 1943 Los Angeles |
Man preswyl | Los Angeles |
Label recordio | Warner Bros. Records, DreamWorks Records, Warner Records, Walt Disney Records, Reprise Records, Interscope Records, Nonesuch, Elektra Records, Columbia Records |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater |
|
Galwedigaeth | canwr-gyfansoddwr, canwr, cyfansoddwr, arweinydd, sgriptiwr, pianydd, newyddiadurwr, cyfansoddwr cerddoriaeth ffilm, dychanwr |
Arddull | cerddoriaeth roc, y felan, roc meddal, Roc gwreiddiau, comedy rock, cerddoriaeth boblogaidd, canu gwlad amgen, cyfoes R&B |
Prif ddylanwad | Bob Dylan, Cole Porter, Fats Domino, George Gershwin, The Beatles, Alfred Newman, Blind Willie McTell, Irving Berlin, Ivory Joe Hunter, Mose Allison, Ray Charles, Henry Mancini, James Booker, Bernard Herrmann, Maurice Jarre, John Williams, Jerry Goldsmith, Elmer Bernstein, John Barry, Lalo Schifrin, Nino Rota, Ennio Morricone, Michel Legrand |
Taldra | 183 centimetr |
Plaid Wleidyddol | plaid Ddemocrataidd |
Tad | Irving Newman |
Mam | Adele Newman |
Priod | Gretchen Preece, Roswitha Schmale |
Plant | Patrick Newman, Amos Newman, Alice Newman, Eric Newman, John Newman |
Perthnasau | Thomas Newman, David Newman, Maria Newman, Joey Newman, Blue Newman, Piper Newman, Alfred Newman, Lionel Newman |
Gwobr/au | Gwobr Annie, 'Disney Legends', Gwobr Emmy 'Primetime', seren ar Rodfa Enwogion Hollywood, Rock and Roll Hall of Fame |
Gwefan | https://www.randynewman.com/ |
Disgyddiaeth
golygu- Randy Newman (1968)
- 12 Songs (1970)
- Randy Newman Live (1971)
- Sail Away (1972)
- Good Old Boys (1974)
- Little Criminals (1977)
- Born Again (1979)
- Trouble in Paradise (1983)
- Land of Dreams (1988)
- Randy Newman's Faust (1995)
- Bad Love (1999)
- Harps and Angels (2008)
- Live in London (2011)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ (Saesneg) Randy Newman. Encyclopædia Britannica. Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2013.
- ↑ (Saesneg) Randy Newman inducted into Rock and Roll Hall of Fame. The Daily Telegraph (19 Ebrill 2013). Adalwyd ar 27 Rhagfyr 2013.
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Gwefan swyddogol
- (Saesneg) Randy Newman ar wefan Internet Movie Database
Eginyn erthygl sydd uchod am gerddor o Unol Daleithiau America. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.