Ray Mala
Actor ffilm a sinematograffydd o'r Unol Daleithiau oedd Ray Mala (ganwyd Ray Wise; 27 Rhagfyr 1906 – 23 Medi 1952). Ymddangosodd mewn dros 25 o ffilmiau[1] gan amlaf yn chwarae cymeriadau Inuit neu Hawäiaidd. Fe oedd seren gyntaf y sinema oedd yn Americanwr Brodorol, ac fe'i elwir yn "y Clark Gable Esgimoaidd".[2]
Ray Mala | |
---|---|
Ganwyd | 27 Rhagfyr 1906 Candle |
Bu farw | 23 Medi 1952 Hollywood |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Galwedigaeth | actor |
Ganwyd Ray yn Candle ar ochr ogleddol Gorynys Seward, Alaska, yn fab i fasnachwr Iddewig o Rwsia o'r enw Bill Wise, a mam Inupiaq o'r enw Casina Armstrong.[2][3] Cafodd blentyndod anodd: priododd Casina berchennog pwb o Sweden, a gadawodd ei mab gyda'i mam, Nancy Armstrong. Cafodd ei fwlio gan blant eraill oherwydd ei dras gymysg, ond cryfhaodd gymeriad Ray o ganlyniad i hyn. Dysgodd Ray sut i hela gan ddefnyddio bwa a saeth, a gwaywffon, ac roedd yn ddisgybl astud yn yr ysgol leol. Pan oedd yn 14 oed, a nifer o'i deulu wedi eu lladd gan y pandemig ffliw, aeth Ray i Nome i weithio fel llafurwr.[2] Canfuwyd Mala yn ei arddegau gan y fforiwr Frank Kleinschmidt i weithio camera wrth ffilmio yn yr Arctig.[3] Oherwydd yr oedd yn frodor roedd Mala'n medru defnyddio'r camera mewn hinsawdd oer, a chafodd ei sgiliau y tu ôl i'r camera eu sylwi yn Hollywood. Symudodd i Galiffornia i weithio fel dyn camera cynorthwyol i Fox Studios. Denodd sylw am fod yn olygus a chafodd ei ddewis i chwarae'r brif ran mewn ffilm ffug-ddogfen o'r enw Igloo, a ffilmiwyd yn Barrow, Alaska.[2]
Mala oedd yr actor cyntaf nad oedd yn wyn i chwarae prif ran mewn ffilm Hollywood, yn Eskimo (1933). Roedd y prif actoresau oedd yn chwarae gyferbyn â Mala yn y ffilm o dras Tsieineaidd a Ffrengig, ac Hawäiaidd a Japaneaidd. Eskimo oedd y ffilm fawr gyntaf gan stiwdio a ffilmiwyd yn Alaska, ac roedd yn y ffilm gyntaf i ennill Wobr yr Academi am olygu ffilm.[3] Enillodd y ffilm glod yng Ngogledd America ac yn Ewrop a daeth Mala yn eilun matinée.[2] Roedd y mwyafrif o gymeriadau Mala yn Inuit neu Bolynesiaid, ond chwaraeodd hefyd Indiaid Cochion mewn ambell ffilm y Gorllewin Gwyllt, a hefyd amryw o gymeriadau eraill, gan gynnwys estron yn Flash Gordon Conquers the Universe. Actiodd Mala gyferbyn nifer o sêr Oes Aur Hollywood, a ffilmiodd nifer ohonynt yn ei waith fel sinematograffydd i Howard Hawks, Otto Preminger ac Alfred Hitchcock.[2] Gweithiodd fel sinematograffydd ar Shadow of a Doubt (1943), un o ffilmiau Hitchcock.[1] Bu farw Mala yn Hollywood yn 45 oed o gymhlethdodau o ganlyniad i afiechyd y galon, a waethygwyd gan ffilmio mewn jynglau Mecsico.[2]
Ffilmyddiaeth
golyguActor
golygu- Igloo (1932)
- Eskimo neu Mala the Magnificent (1933)
- The Last of the Pagans (1935)
- Robinson Crusoe of Clipper Island (1936)
- Union Pacific (1939)
- Flash Gordon Conquers the Universe (1940)
- The Girl from Alaska (1942)
- Red Snow (1952)
Sinematograffydd
golygu- How Death Was Cheated in the Great Race to Nome (1925). Adluniad gan Pathé News o'r rhediad serwm i Nome.
- Les Misérables (1952)
Cyfeiriadau
golygu- ↑ 1.0 1.1 (Saesneg) Top 10 Alaskans: Ray Mala. TIME. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2013.
- ↑ 2.0 2.1 2.2 2.3 2.4 2.5 2.6 (Saesneg) Dunham, Mike (26 Mawrth 2011). Book recounts career of The 'Eskimo Clark Gable'. Anchorage Daily News. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2013.
- ↑ 3.0 3.1 3.2 (Saesneg) Anderson, Ben (28 Mawrth 2011). New Ray Mala biography spurs statewide tribute. Alaska Dispatch. Adalwyd ar 29 Gorffennaf 2013.
Llyfryddiaeth
golygu- Morgan, Lael.Eskimo Star: From the Tundra to Tinseltown the Ray Mala Story (Epicenter Press, 2011). ISBN 9781935347125
Dolenni allanol
golygu- (Saesneg) Ray Mala ar wefan Internet Movie Database