Rebecca Evans (gwleidydd)

gwleidydd Cymreig

Gwleidydd Llafur Cymru yw Rebecca Evans (ganwyd 2 Awst 1976). Mae'n Aelod o'r Senedd ers 2011, yn gyntaf dros ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ac ers etholiad 2016, yn aelod dros Gŵyr.

Rebecca Evans
AS
Rebecca Evans yn 2016
Gweinidog Cyllid
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganMark Drakeford
Trefnydd y Senedd
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Rhagfyr 2018
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganJulie James
Aelod o Senedd Cymru
dros Gŵyr
Deiliad
Cychwyn y swydd
6 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganEdwina Hart
Mwyafrif1,829 (6.1%)
Aelod o Senedd Cymru
dros Rhanbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
Yn ei swydd
5 Mai 2011 – 6 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganAlun Davies
Dilynwyd ganEluned Morgan
Manylion personol
Ganwyd (1976-08-02) 2 Awst 1976 (47 oed)
Pen-y-bont ar Ogwr
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
Alma materPrifysgol Leeds

Bywyd cynnar golygu

Astudiodd Evans BA Hanes ym Mhrifysgol Leeds gan ysgrifennu traethawd ar y Mudiad Hawliau Sifil Americanaidd. Fe aeth ymlaen i astudio yng Ngholeg Sidney Sussex ym Mhrifysgol Caergrawnt lle derbyniodd radd Meistr mewn Athroniaeth ar gyfer ei thraethawd ymchwil The Time for Waiting is Gone: Lyndon Johnson and the Voting Rights Act of 1965.

Gyrfa golygu

Gweithiodd Evans fel Swyddog Materion Cyhoeddus a Pholisi i elusen cenedlaethol yn cynrychioli pobl anabl a'i teuluoedd. Roedd hefyd yn drefnydd Llafur Cymru ar gyfer Canol a Gorllewin Cymru, a chyn Swyddog Ymchwilio a Chyfathrebu ar gyfer aelod o'r Cynulliad.

Aelod Cynulliad golygu

Yn y Cynulliad mae Evans wedi gwasanaethu ar Bwyllgor yr Amgylchedd a Datblygiad Cynaladwy, y Grŵp Gorchwyl a Gorffen Polisi Amaethyddol Cyffredin, y Y Pwyllgor Iechyd a Gofal Cymdeithasol a Phwyllgor Craffu Plant, Pobl Ifanc ac Addysg. Mae hefyd wedi cadeirio y grŵp trawsbleidiol ar nyrsio a bydwreigiaeth, y grŵp trawsbleidiol ar iechyd meddwl ac yn gyd-gadeirydd y grŵp trawsbleidiol ar anabledd.

Yn 2014 penodwyd yn Ddirprwy Weinidog ar gyfer Ffermio a Bwyd yn Llywodraeth Cymru.


Cyfeiriadau golygu