Eluned Morgan (gwleidydd)

Gweler hefyd Eluned Morgan (gwahaniaethu).

Gwleidydd Llafur yw Eluned Morgan (ganed 16 Chwefror 1967) sydd yn Arweinydd Llafur Cymru ers Gorffennaf 2024.[1] Mae wedi bod yn Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru ers Mai 2016. Roedd yn Aelod Senedd Ewrop dros Gymru o 1999 i 2009.

Y Gwir Anrhydeddus
Y Farwnes Morgan o Elai
AS
Llun swyddogol, 2024
Arweinydd Llafur Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
24 Gorffennaf 2024
DirprwyHuw Irranca-Davies
Rhagflaenwyd ganVaughan Gething
Ysgrifennydd y Cabinet dros Iechyd, Gofal Cymdeithasol a’r Gymraeg[a]
Deiliad
Cychwyn y swydd
13 Mai 2021
Prif WeinidogMark Drakeford
Vaughan Gething
Rhagflaenwyd ganVaughan Gething
Gweinidog Iechyd Meddwl a Llesiant
Yn ei swydd
8 Hydref 2020 – 13 Mai 2021
Prif WeinidogMark Drakeford
Rhagflaenwyd ganSwydd newydd
Dilynwyd ganLynne Neagle
Gweinidog y Gymraeg[b]
Yn ei swydd
3 Tachwedd 2017 – 13 Mai 2021
Prif Weinidog
Rhagflaenwyd ganAlun Davies
Dilynwyd ganJeremy Miles
Aelod o Senedd Cymru
dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
Deiliad
Cychwyn y swydd
5 Mai 2016
Rhagflaenwyd ganRebecca Evans
Aelod o Dŷ'r Arglwyddi
Lord Temporal
Deiliad
Cychwyn y swydd
26 Ionawr 2011
Arglwydd am Oes
Cynrychiolaeth Senedd Ewrop
Aelod Senedd Ewrop
dros Gymru
Yn ei swydd
10 Mehefin 1999 – 4 Mehefin 2009
Rhagflaenwyd ganSefydlwyd yr etholaeth
Dilynwyd ganJohn Bufton
Aelod Senedd Ewrop
dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru
Yn ei swydd
9 Mehefin 1994 – 10 Mehefin 1999
Rhagflaenwyd ganDavid Morris
Dilynwyd ganDiddymwyd yr etholaeth
Manylion personol
Ganwyd (1967-02-16) 16 Chwefror 1967 (57 oed)
Caerdydd
CenedligrwyddBaner Cymru Cymru
Plaid wleidyddolLlafur Cymru
Gwefanelunedmorgan.cymru

Magwraeth

golygu

Ganed hi i'r parchedig gannon Bob Morgan OBE ac Elaine Morgan, yn Nhrelái, Caerdydd, llei'i maged, a chafodd ei haddysg yn Ysgol Gyfun Gymraeg Glantaf, Coleg yr Iwerydd a Phrifysgol Hull. Roedd ei thâd, Bob, yn gyn arweinydd Cyngor Sir De Morgannwg.

Gweithiodd fel ymchwilydd i S4C a'r BBC ac fel Stagiaire yn y Senedd Ewropeaidd yn 1990. Pan oedd yn 27 oed, etholwyd hi'n Aelod Seneddol Ewropeaidd dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru yn 1994, yr ASE ieuengaf ar y pryd.

Eluned Morgan yn cymryd cynhadledd y wasg ar y pandemig COVID_19 yn Nhachwedd 2020

Fe'i penodwyd i Dŷ'r Arglwyddi yn 2010 fel Barwnes Morgan o Drelái[2], a bu'n Llefarydd yr Wrthblaid ar Faterion Cymreig yno o 2013 i 2016.

Etholwyd Eluned Morgan yn Aelod Cynulliad dros Canolbarth a Gorllewin Cymru yn 2016.

Yn 2017 fe'i gwnaed yn Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes. Yn Hydref 2020 fe'i gwnaed yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg er mwyn i'r Gweinidog Iechyd, Vaughan Gething, yn canolbwyntio’n gyfan gwbl ar ymateb i’r coronafirws a pherfformiad y Gwasanaeth Iechyd Gwladol.[3]

Yng Nghorffennaf 2024 cyhoeddodd Vaughan Gething y byddai'n ymddiswyddo fel arweinydd Llafur Cymru ac fel Prif Weinidog. Yr wythnos ganlynol cyhoeddodd Morgan byddai'n sefyll fel arweinydd nesaf Llafur, gyda Huw Irranca-Davies, yn rhedeg fel ei dirprwy.[4] Ni chafwyd unrhyw enwebiadau arall ar gyfer yr arweinyddiaeth a felly cyhoeddwyd Morgan fel arweinydd ar 24 Gorffennaf 2024. Hi yw arweinydd benywaidd cyntaf Llafur Cymru.[1]

Mewn cyfweliad, dywedodd ei fod yn bwysig ymddiheuro i'r cyhoedd yng Nghymru". Ychwanegodd fod hyn yn "ymwneud â throi tudalen newydd".[5]

Cynulliad Cenedlaethol Cymru
Rhagflaenydd:
Rebecca Evans
Aelod o'r Senedd dros Ranbarth Canolbarth a Gorllewin Cymru
2016 – presennol
Olynydd:
deiliad
Senedd Ewrop
Rhagflaenydd:
David Morris
Aelod Senedd Ewrop dros Ganolbarth a Gorllewin Cymru
19941999
Olynydd:
dilewyd yr etholaeth
Rhagflaenydd:
etholaeth newydd
Aelod Senedd Ewrop dros Gymru
19992009
gyda
Jill Evans, Jonathan Evans, Glenys Kinnock
ac Eurig Wyn (1999-2004)
Olynydd:
John Bufton
Jill Evans
Kay Swinburne
Derek Vaughan


Nodiadau

golygu
  1. Fel Gweinidog Iechyd a Gwasanaethau Cymdeithasol o 2021 i 2024
  2. Dirprwy Weinidog y Gymraeg a Dysgu Gydol Oes o 3 Tachwedd 2017 i 13 Rhagfyr 2018; Gweinidog y Gymraeg a Chysylltiadau Rhyngwladol o 13 Rhagfyr 2018 i 8 Hydref 2020; y Gymraeg o 8 Hydref 2020.

Cyfeiriadau

golygu
  1. 1.0 1.1 "Eluned Morgan yw arweinydd newydd Llafur Cymru". newyddion.s4c.cymru. 2024-07-24. Cyrchwyd 2024-07-24.
  2. http://www.parliament.uk/biographies/lords/baroness-morgan-of-ely/4226
  3. Penodi Eluned Morgan yn Weinidog Iechyd Meddwl, Llesiant a’r Gymraeg , Golwg360, 8 Hydref 2020.
  4. "Eluned Morgan yn debygol o ddod yn Brif Weinidog Cymru". BBC Cymru Fyw. 2024-07-23. Cyrchwyd 2024-07-23.
  5. "Eluned Morgan: 'Pwysig ymddiheuro i'r cyhoedd'". BBC Cymru Fyw. 24 Gorffennaf 2024. Cyrchwyd 24 Gorffennaf 2024.

Dolen allanol

golygu