Red Dawn

ffilm acsiwn, llawn cyffro llawn antur gan John Milius a gyhoeddwyd yn 1984

Ffilm ryfel Americanaidd o 1984 ydy Red Dawn. Cyfarwyddwyd ac ysgrifennwyd y ffilm gan John Milius ar y cyd gyda Kevin Reynolds. Lleolir y ffilm mewn llinell amser gwahanol yng nghanol y 1980au, ac mae'n ymdrin ag ymosodiad ar yr Unol Daleithiau gan yr Undeb Sofietaidd a'i chynghreiriaid Canol America. Fodd bynnag, mae'r bygythiad o Drydydd Rhyfel Byd yn gefndir yn unig i'r ffilm ac ni ymhelaethir ar hyn. Dilyna'r stori griw o fyfyrwyr ysgol uwchradd Americanaidd sy'n ymladd yn ôl yn erbyn eu gormeswyr drwy dulliau guerrilla , gan alw eu hunain yn "Wolverines", sef enw mascot eu hysgol uwchradd.

Red Dawn

Poster y Ffilm
Cyfarwyddwr John Milius
Cynhyrchydd Sidney Beckerman
Buzz Feitshans
Ysgrifennwr John Milius
Kevin Reynolds
Serennu Patrick Swayze
Charlie Sheen
Lea Thompson
Jennifer Grey
C. Thomas Howell
Brad Savage
Darren Dalton
Cerddoriaeth Basil Poledouris
Sinematograffeg Ric Waite
Golygydd Thom Noble
Dylunio
Cwmni cynhyrchu MGM/UA Entertainment Co.
Amser rhedeg 114 munud
Gwlad Unol Daleithiau
Iaith Saesneg
Map bras o'r digwyddiadau a ddisgrifir yn y ffilm:
Glas: Yr Unol Daleithiau a'u cynghreiriaid Canada, y Deyrnas Unedig a Gweriniaeth Pobl Tsieina.
Goch: Yr Undeb Sofietaidd a'u cynghreiriaid.
Gwyrdd: Gwledydd niwtral Gorllewin Ewrop.
Mae'r dotiau coch yn dangos lleoliadau allweddol megis Washington D.C., Omaha (Nebraska), Dinas Kansas (Missouri) a Beijing (Tsieina) sydd wedi cael eu dinistrio gan arfau niwclear.
Eginyn erthygl sydd uchod am ffilm ryfel. Gallwch helpu Wicipedia drwy ychwanegu ato.