Patrick Swayze
Actor, cerddor a dawnsiwr Americanaidd oedd Patrick Wayne Swayze (18 Awst 1952 – 14 Medi 2009[1]). Fe gafodd ei eni yn Houston, Texas a phriododd Lisa Nemi ym 1975. Fe'r oedd yn enwog yn bennaf am chwarae'r brif ran rhamantaidd mewn ffilmiau megis Dirty Dancing (1987) a Ghost (1990). Fe dderbyniodd enwebiad am Wobr Golden Globe am ei ran yn "Ghost," ynghyd â'i berfformiadau yn Red Dawn (1984), Road House (1989), a Point Break (1991). Ym 1991, fe gafodd ei restru yng nghylchgrawn "People" fel Y Dyn Mwyaf Rhywiol.
Patrick Swayze | |
---|---|
Ganwyd | Patrick Wayne Swayze 18 Awst 1952 Houston |
Bu farw | 14 Medi 2009 Los Angeles |
Dinasyddiaeth | Unol Daleithiau America |
Alma mater | |
Galwedigaeth | actor teledu, actor ffilm, canwr-gyfansoddwr, actor, dawnsiwr, canwr, coreograffydd, actor llais, cynhyrchydd ffilm, aikidoka |
Adnabyddus am | Ghost |
Taldra | 1.78 metr |
Tad | Jesse Wayne Swayze |
Mam | Patsy Swayze |
Priod | Lisa Niemi |
Gwobr/au | seren ar Rodfa Enwogion Hollywood |
Chwaraeon |
Ym mis Ionawr 2008, fe gafodd ef ddiagnosis am gancr y pancreas, cyfnod 4, ac mae ef wedi bod yn brwydro'r afiechyd yn gyhoeddus. Fe ddywedodd ef wrth Barbara Walters ym mis Ionawr 2009 ei fod yn "trechu'r clefyd".[2] Fodd bynnag, bu farw o'r afiechyd wyth mis yn ddiweddarach. Ei rôl actio olaf oedd y prif ran mewn cyfres ddrama deledu, "The Beast" a leolir mewn ysbyty, a ddechreuodd ddarlledu ar y 15fed o Ionawr, 2009. Serch hynny, am fod iechyd Swayze wedi parhau i ddirywio, nid oedd ef yn medru hyrwyddo'r gyfres ac ar y 15 Mehefin, 2009 cyhoeddodd Entertainment Tonight fod y y gyfres wedi cael ei dileu.
Bywgraffiad
golyguEi flynyddoedd cynnar
golyguGanwyd Patrick Swayze ar 18 Awst, 1952 yn Houston, Texas, yn blentyn cyntaf i Patsy Yvonne Helen (née Karnes; g. 1927), coreograffwraig, hyfforddwraig ddawns, a Jessie Wayne Swayze (1925-1982), dyluniwr peirianyddol. Roedd ganddo ddu frawd iau, yr actor Don (ganed 1958) a Sean Kyle (ganed 1962), a dwy chwaer, Vicky Lynn (1949-1994) a Bambi, a gafodd eu mabwysiadu gan y teulu. Daeth ei gyfenw o enw un o'i gyn-deidiau Seisnig o'r enw "Swasey" a fewnfudodd i'r Unol Daleithiau
Tan ei fod yn 20 oed, trigai Swayze yng nghymdogaeth Oak Forest yn Houston, lle mynychodd Ysgol Gatholig y Santes Rose o Lima, Ysgol Gynradd Oak Forest, Ysgol Black Middle, ac Ysgol Uwchradd Waltrip. Yn ystod y cyfnod hwn, cymerodd ran mewn nifer o weithgareddau artistig ac athletaidd, megis sglefrio iâ, ballet clasurol ac actio mewn dramâu ysgol. Astudiodd gymnasteg am ddwy flynedd yn y Coleg San Jacinto cyfagos.
Ym 1972, symudodd i Ddinas Efrog Newydd er mwyn cwblhau ei hyfforddiant dawns ffurfiol yn ysgolion ballet Harkness a Joffrey.
Ei yrfa
golyguSwydd broffesiynol cyntaf Swayze oedd fel dawnsiwr ar gyfer Disney on Parade. Serennodd fel Danny Zuko yng nghynhyrchiad hir-dymor theatr Broadway o Grease cyn cafodd ei rôl gyntaf mewn ffilm fel "Ace" yn Skatetown, U.S.A.. Ymddangosodd fel Pvt. Sturgis yn y rhaglen "Blood Brothers" yn y gyfres deledu M*A*S*H* ac ym 1982 cafodd gyfnod byr ar y gyfres deledu "The Renegades" lle chwaraeodd rhan Bandit, sef arweinydd y giang. Daeth Swayze yn adnabyddus yn y diwydiant ffilm ar ôl iddo ymddangos yn The Outsiders fel brawd hŷn
C. Thomas Howell a Rob Lowe. Ail-unwyd Swayze, Howell, a ffrind Howell - Darren Dalton yn y ffilm Red Dawn y flwyddyn olynol, ac ail-unwyd Lowe a Swayze yn Youngblood. Ystyriwyd Swayze fel aelod o'r Brat Pack. Cafodd ei lwyddiant mawr cyntaf yn y gyfres deledu North and South ym 1985, a oedd wedi ei lleoli yn Rhyfel Annibyniaeth America.
Ffilmyddiaeth
golyguBlwyddyn | Ffilm | Rôl | Nodiadau eraill |
---|---|---|---|
1979 | Skatetown USA | Ace Johnson | |
1983 | Uncommon Valor | Kevin Scott | |
The Outsiders | Darrel "Darry" Curtis | ||
1984 | Red Dawn | Jed Eckert | |
Grandview, U.S.A. | Ernie "Slam" Webster | ||
1986 | Youngblood | Derek Sutton | |
1987 | Dirty Dancing | Johnny Castle | Enwebwyd am Golden Globe am yr Actor Gorau, Comedi neu Sioe Gerdd |
Steel Dawn | Nomad | ||
1988 | Tiger Warsaw | Chuck "Tiger" Warsaw | |
1989 | Next of Kin | Truman Gates | |
Road House | Dalton | ||
1990 | Ghost | Sam Wheat | Enwebwyd am Golden Globe am yr Actor Gorau, Comedi neu Sioe Gerdd |
1991 | Point Break | Bodhi | |
1992 | City of Joy | Max Lowe | |
1993 | Father Hood | Jack Charles | |
1995 | Disney's Tall Tale | Pecos Bill | |
Three Wishes | Jack McCloud | ||
To Wong Foo, Thanks for Everything! Julie Newmar | Vida Boheme | Enwebwyd am Golden Globe am yr Actor Gorau, Comedi neu Sioe Gerdd | |
1998 | Letters from a Killer | Race Darnell | |
Black Dog | Jack Crews | ||
2000 | Forever Lulu | Ben Clifton | |
2001 | Donnie Darko | Jim Cunningham | |
Green Dragon | Gunnery Sergeant Jim Lance | ||
2002 | Waking Up in Reno | Roy Kirkendall | |
2003 | One Last Dance | Travis MacPhearson | Cyfarwyddwyd gan ei wraig, Lisa |
11:14 | Frank | ||
2004 | Dirty Dancing: Havana Nights | Hyfforddwr dawns (nid Johnny Castle, am fod y ffilm hon cyn Dirty Dancing) | |
George and the Dragon | Garth | ||
King Solomon's Mines | Allan Quatermain | ||
2005 | Keeping Mum | Lance | |
Icon | Jason Monk | ||
2006 | The Fox and the Hound 2 | Cash (voice) | |
2007 | Jump! | Richard Pressburger | |
Christmas in Wonderland | Wayne Saunders | ||
2008 | Powder Blue | TBA | Postproduction |
2009 | The Beast (Teledu) | Charles Barker |
Cyfeiriadau
golygu- ↑ "Google.com/hostednews". Archifwyd o'r gwreiddiol ar 2009-09-23. Cyrchwyd 2009-09-23.
- ↑ "Patrick Swayze: The Truth — A Barbara Walters Special" (fideo). 20/20 (ABC). Ionawr 7, 2009. Cyrchwyd 10 Ionawr, 2009.