Reese J. Llewellyn

Roedd Reese James Llewellyn (30 Awst 186215 Rhagfyr 1936) yn ddyn busnes o Gymru yn America. Ef oedd cyd-sylfaenydd a llywydd Llewellyn Iron Works, cwmni yn Los Angeles a oedd yn darparu gwaith haearn a dur ar gyfer adeiladau yn Ne California, Gorllewin yr Unol Daleithiau, Mecsico, a De America[1]

Reese J. Llewellyn
Ganwyd30 Awst 1862 Edit this on Wikidata
Cymru Edit this on Wikidata
Bu farw15 Rhagfyr 1936 Edit this on Wikidata
o strôc Edit this on Wikidata
Dinas Efrog Newydd Edit this on Wikidata
DinasyddiaethBaner Cymru Cymru
Galwedigaethperson busnes Edit this on Wikidata
Gwaith haearn o eiddo cwmni Llywellyn yn Adeilad Bradbury

Bywyd cynnar golygu

Ganed Llewellyn ym mhlwyf Llan-giwg ger Castell-nedd y drydedd o chwech o feibion a anwyd i Dafydd a Hannah Llywellyn. Roedd ei dad yn beiriannydd ac yn ffitiwr mewn gwaith haearn.[2] Ymfudodd i'r Unol Daleithiau, gan ymsefydlu yn San Francisco, California.

Gyrfa golygu

Llewellyn oedd cyd-sylfaenydd cwmni haearn Llewellyn Bros gyda'i frodyr yn Los Angeles, California ym 1889. Fe wasanaethodd Llewellyn fel llywydd y cwmni, tra bod ei frawd William yn is-lywydd a'i frawd arall, David, yn ysgrifennydd.[3]

Darparodd y cwmni'r gwaith haearn ar gyfer tu mewn i Adeilad Bradbury yn Los Angeles yn y 1890au cynnar.[4] Erbyn 1905, roedd wedi darparu gwaith haearn a dur yn Ne California, ond hefyd yn Nevada, Arizona, New Mexico yn ogystal â thramor ym Mecsico a De America. Adeiladwyd llawer o nendyrau yn Los Angeles gyda dur gan y cwmni. Ym 1929, cyfunodd y cwmni â'r Consolidated Steel Corporation.

Yn ogystal, bu Llewellyn yn llywydd Cwmni Tywodfaen Coch Helsby ym 1895. Fe wasanaethodd hefyd ar fwrdd cyfarwyddwyr Banc Arbedion Cartref Los Angeles ym 1905.

Bywyd dinesig golygu

Roedd Llewellyn yn aelod o Gymdeithas Dynion Busnes Los Angeles, ynghyd a'r gwŷr busnes Walter Newhall, Frank Hicks, John H. Norton, Hancock Banning, Joseph Schoder, James Cuzner, HE Graves, a William Lacy. Gyda'i gilydd, buont yn gwrthwynebu cau saloons (tafarndai) y ddinas ym 1905.

Erbyn y 1920au, gwasanaethodd Llewellyn fel is-lywydd y Better America Federation ar gyfer Los Angeles County.

Marwolaeth golygu

Cafodd Llewellyn strôc ar long deithio o'r enw Santa Barbara wrth iddi deithio rhwng Valparaíso a Dinas Efrog Newydd lle bu farw ym 1936.[5]

Cyfeiriadau golygu

  1. Find a grave Reese J. Llewellyn
  2. "Blythe's Nativity". The San Francisco Chronicle. November 21, 1889.
  3. Llywellyn Milner House Berkley Square
  4. How Iron & Steel Helped Los Angeles Forge a Modern Metropolis
  5. Pioneer Business Man of L. A. Dies". The San Bernardino County Sun. December 17, 1936